Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch buddiannau cwmni 

Sut i ddiweddaru’ch manylion ar-lein os yw’ch buddiannau cyflogeion, fel car cwmni neu yswiriant meddygol yn newid ac ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir.

Rhowch adborth i ni.

Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni am yr arweiniad hwn er mwyn helpu i wella GOV.UK.

Rydych chi’n talu treth ar fuddiannau cwmni fel ceir, yswiriant meddygol a llety byw.

Byddwch yn talu mwy o dreth a bydd eich cyflog clir yn lleihau os:

  • ydych chi’n dechrau cael buddiant cwmni 
  • ydy gwerth eich buddiant cwmni yn cynyddu

Byddwch yn talu llai o dreth a bydd eich cyflog clir yn cynyddu os:

  • bydd eich buddiant cwmni yn dod i ben
  • ydy gwerth eich buddiant cwmni yn lleihau

Dysgwch ragor am dreth ar fuddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg) a’r mathau o fuddiannau sy’n drethadwy.

Gwirio’ch manylion ar-lein 

Gallwch ddefnyddio adran TWE gwasanaethau ar-lein CThEF neu’r ap CThEF i wirio’r canlynol:

  • bod eich holl fuddiannau cwmni i’w gweld yn eich crynodeb Treth Incwm TWE
  • bod gwerth pob buddiant cwmni yn gywir yn eich cyfrifiad swm rhydd o dreth

Defnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF:

  1. Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF.
  2. Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
  3. Dewiswch ‘gwirio’r flwyddyn dreth bresennol’ i weld eich Crynodeb Treth Incwm TWE ar gyfer 6 Ebrill i 5 Ebrill.
  4. Dewiswch ‘bwrw golwg dros neu ddiweddaru buddiannau cwmni’.

Defnyddio ap CThEF

  1. Lawrlwythwch ap CThEF.
  2. Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
  3. Dewiswch ‘beth yw swm rhydd o dreth?’.

Diweddaru eich manylion os ydynt yn anghywir neu ar goll

Os yw’ch manylion yn anghywir neu ar goll, gallwch ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF neu’r ap CThEF i wneud y canlynol:

  • ychwanegu buddiant cwmni sydd ar goll
  • rhoi gwybod i ni fod swm y buddiant cwmni wedi newid
  • rhoi gwybod i ni’r dyddiad y gwnaeth eich buddiannau cwmni ddechrau, a’r dyddiad dod i ben

Os oes gennych fanylion eraill sydd angen eu diweddaru, gallwch roi gwybod i CThEF am y canlynol:

Mae cadw’ch cod treth yn gyfredol yn helpu i sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth.  Mae hyn yn ei gwneud yn llai tebygol y byddwch yn talu gormod neu ddim digon o dreth.

Ar ôl i chi ddiweddaru’ch manylion

Ni fydd pob newid y byddwch yn rhoi gwybod i CThEF amdanynt yn effeithio ar eich cod treth. Byddwn yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn os bydd eich cod treth yn newid. Dylai’ch slip cyflog nesaf ddangos eich cod treth newydd ac unrhyw addasiadau os oeddech yn talu’r swm anghywir o dreth. 

Pan fyddwch yn cofrestru i gael diweddariadau di-bapur, byddwch yn cael neges os bydd eich cod treth yn newid. Gallwch fwrw golwg dros y ddiweddariadau hyn yn:

  • yr adran negeseuon o’ch cyfrif ar-lein CThEF
  • yr adran gohebiaeth o’ch ap CThEF

Mynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth

Gallwch ddewis cael diweddariadau am unrhyw newidiadau i’ch cod treth drwy e-bost neu fel neges ar-lein yn eich cyfrif ar-lein CThEF neu’r ap CThEF. Dysgwch sut i fynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth.

Os oes angen help ychwanegol arnoch i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF

Gallwch ddysgu sut i:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2025

Print this page