Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch incwm pensiwn

Sut i ddiweddaru’ch manylion ar-lein os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir oherwydd newidiadau i’ch incwm pensiwn.

Rhowch adborth i ni.

Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni am yr arweiniad hwn er mwyn helpu i wella GOV.UK.

Mae incwm pensiwn yn cael ei gynnwys yn eich cyfrifiad Treth Incwm bob blwyddyn. Dyma pam y gall eich cod treth newid os bydd eich incwm pensiwn yn newid.

Dylech ystyried diweddaru’ch incwm blynyddol amcangyfrifedig os yw’ch incwm pensiwn wedi newid a’ch bod o’r farn y bydd hyn yn effeithio ar eich band Treth Incwm cyfredol. Mae hyn yn gallu digwydd os ydych:

  • yn dechrau pensiwn newydd 
  • yn gyflogedig ac yn cael cynnydd yn eich pensiwn 
  • yn gyflogedig ac yn cymryd taliadau afreolaidd o’ch pensiwn

Gwirio’ch manylion

Gallwch ddefnyddio adran TWE gwasanaethau ar-lein CThEF neu’r ap CThEF i wirio:

  • manylion eich darparwr pensiwn
  • bod eich cyflog amcangyfrifedig ar gyfer y flwyddyn yn cynnwys eich incwm pensiwn

Defnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF:

  1. Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF.
  2. Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
  3. Dewiswch ‘gwirio’r flwyddyn dreth bresennol’ i weld eich Crynodeb Treth Incwm TWE ar gyfer 6 Ebrill i 5 Ebrill.

Defnyddio ap CThEF

  1. Lawrlwythwch ap CThEF.
  2. Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.

Diweddaru’ch manylion os ydynt yn anghywir neu ar goll

Os yw’ch manylion yn anghywir neu ar goll, gallwch ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF neu’r ap CThEF i wneud y canlynol:

  • diweddaru’ch incwm amcangyfrifedig — os yw’r swm yn anghywir 
  • ychwanegu darparwr pensiwn sydd ar goll — gallwch ond gwneud y newid hwn 6 wythnos ar ôl eich taliad cyntaf gan y darparwr sydd ar goll

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dreth pan fyddwch yn cael pensiwn.

Gallwch hefyd roi gwybod i CThEF am y canlynol:

Mae cadw’ch cod treth yn gyfredol yn helpu i sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth. Mae hyn yn ei gwneud yn llai tebygol y byddwch yn talu gormod neu ddim digon o dreth.

Ar ôl i chi ddiweddaru’ch manylion

Ni fydd pob newid y byddwch yn rhoi gwybod i CThEF amdanynt yn effeithio ar eich cod treth. Byddwn yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn os bydd eich cod treth yn newid. Dylai’ch slip cyflog nesaf ddangos eich cod treth newydd ac unrhyw addasiadau os oeddech yn talu’r swm anghywir o dreth. 

Pan fyddwch yn cofrestru i gael diweddariadau di-bapur, byddwch yn cael neges os bydd eich cod treth yn newid. Gallwch fwrw golwg dros y diweddariadau hyn yn:

Mynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth

Gallwch ddewis cael diweddariadau am unrhyw newidiadau i’ch cod treth drwy e-bost neu fel neges ar-lein yn eich cyfrif ar-lein CThEF neu’r ap CThEF. Dysgwch sut i fynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth.

Os oes angen help ychwanegol arnoch i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF  

Gallwch ddysgu sut i:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2025

Print this page