Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am dandaliad o ran taliadau mewnforio ar ddatganiad mewnforio a wnaed gan ddefnyddio’r system CHIEF

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod am dandaliad o ran tollau, TAW neu daliadau mewnforio eraill ar ddatganiad mewnforio a wnaed gan ddefnyddio System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).

Os gwnaethoch ddatganiad mewnforio gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS), ac rydych am wneud datgeliad gwirfoddol, bydd angen i chi wneud cais am ddiwygiad gwirfoddol ar ôl clirio.

Os ydych wedi rhoi gwybod i ni’n flaenorol am dandaliad o ran tollau, TAW neu daliadau mewnforio eraill, ac mae angen i chi anfon rhagor o wybodaeth atom am eich datgeliad, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Bydd angen cyfeirnod eich datgeliad arnoch.

Os dewiswyd cyfrifyddu TAW ohiriedig (a elwir hefyd yn ddull talu ‘G’) fel y dull talu ar y datganiad mewnforio gwreiddiol, dylech roi cyfrif am y tandaliad o ran TAW fewnforio ar eich Ffurflen TAW.

Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn, hyd yn oed os dewiswyd y dull talu hwn ar gam.

Os oes angen i chi dalu toll neu drethi ar nwyddau na chawsant eu datgan i’r tollau, ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. I gael cyngor, dylech anfon e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • nodi’r gwallau sydd ar eich datganiad mewnforio gwreiddiol
  • cyfrifo swm y tollau tramor, toll ecséis a TAW fewnforio y dylech fod wedi’i dalu

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Gwybodaeth am y datganiad(au) mewnforio

Bydd angen i chi roi’r canlynol:

  • rhif yr Uned Prosesu Cofnodion (EPU)
  • rhif y cofnod
  • dyddiad y cofnod
  • y Cod Gweithdrefnau Tollau (CPC) gwreiddiol

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon ar y datganiad mewnforio (C88 neu Ddogfen Weinyddol Sengl), neu ar y nodyn talu E2 gan ddefnyddio System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).

Yr hyn a gafodd ei dandalu

Bydd angen i chi roi gwybod i ni y swm a dalwyd i CThEF, a’r swm y dylid bod wedi’i dalu i CThEF, ar gyfer pob un o’r canlynol a gafodd eu tandalu:

  • TAW fewnforio (B00)
  • Toll Dramor (A00)
  • toll ecséis
  • Toll Ychwanegol (A20)
  • Toll Wrth-ddympio Terfynol (A30)
  • Toll Wrth-ddympio Dros Dro (A35)
  • Toll Wrthbwyso Terfynol (A40)
  • Toll Wrthbwyso Dros Dro (A45)
  • Toll Dramor ar Gynnyrch Amaethyddol (A10)
  • Toll Digolledu (D10)

Mae’n rhaid i chi hefyd roi’r cyfrifiadau sy’n dangos swm y dreth neu doll y dylid bod wedi’i thalu.

Os ydych yn gwrthbwyso gordaliad Toll Dramor (A00) yn erbyn tandaliad Toll Ychwanegol (A20) (neu’r ffordd arall), anfonwch e-bost at dîm C18 yn gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.

Rheswm dros y tandaliad

Ar gyfer treth neu doll sydd wedi’i thandalu, bydd angen i chi roi gwybod i ni pa wybodaeth oedd yn anghywir ar y datganiad mewnforio.

Datgelu treth a tholl sydd wedi’u tandalu ar gyfer sawl datganiad mewnforio

Gallwch gynnwys tandaliadau o sawl datganiad mewnforio gan yr un mewnforiwr mewn un datgeliad.

Datgelu treth neu doll mewnforio sydd wedi’i dandalu ar ran mewnforiwr

Os ydych yn gweithredu ar ran mewnforiwr, mae’n rhaid i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:

  • rhif EORI y mewnforiwr (os oes ganddo un)
  • enw masnachu’r mewnforiwr
  • a yw wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ai peidio
  • ei gyfeiriad, fel y gallwn anfon copi o’r nodyn gorchymyn ato

Sut i ddatgelu

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Dylai’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) hwn fod:

  • yr un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a ddefnyddir i gael mynediad at wasanaethau tollau eraill, megis ‘Cael rhif EORI
  • y Dynodydd Defnyddiwr (ID) rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes
  • yn gysylltiedig â chyfrif sefydliad neu gyfrif unigolyn — ni allwch gael mynediad at y gwasanaeth hwn gan ddefnyddio Dynodydd Defnyddiwr (ID) sy’n gysylltiedig â chyfrif asiant

Os nad oes gennych chi, neu’ch sefydliad, Dynodydd Defnyddiwr (ID) yn barod, gallwch greu un ar y dudalen fewngofnodi. Pan ofynnir am y math o gyfrif, dewiswch naill ai ‘sefydliad’ neu ‘unigolyn’, peidiwch â dewis ‘asiant’.

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi fewngofnodi, mae’n bosibl y gofynnir i chi danysgrifio i’r Gwasanaethau Masnachwyr Tollau. Dim ond unwaith y gofynnir i chi wneud hyn. Bydd angen defnyddiwr Porth Llywodraeth sy’n weinyddwr arnoch i drefnu’r tanysgrifiad ar gyfer sefydliad.

Mae angen i chi gwblhau’r datgeliad mewn un tro. Ni allwch gadw’ch atebion a dychwelyd yn nes ymlaen.

Dechrau nawr

Ar ôl i chi ddatgelu

Os cytunwn â’r cyfrifiadau a ddarparwyd gennych, bydd CThEF yn anfon Nodyn Gorchymyn Ar Ôl Clirio (C18) atoch drwy’r post cyn pen 14 diwrnod calendr.

Bydd y nodyn hwn yn cadarnhau’r hyn sydd arnoch ac, os nad ydych wedi talu drwy ohiriad, bydd yn rhoi gwybod i chi sut i dalu.

Mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 10 diwrnod calendr ar ôl derbyn y nodyn gorchymyn, neu bydd llog yn cael ei godi arnoch.

Os gwnaethoch ordalu o ran tollau neu TAW fewnforio gallwch wneud cais am ad-daliad o dollau mewnforio neu TAW fewnforio (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os nad ydych wedi cael y nodyn gorchymyn cyn pen 14 diwrnod, anfonwch e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 October 2024 + show all updates
  1. Information on paying by deferment account on Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) service has been removed as it is no longer available.

  2. Added translation

Sign up for emails or print this page