Rhoi gwybod i CThEF am newidiadau i’ch cofrestriad GUC Mewnforio TAW yn yr UE
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF eich bod wedi datgofrestru rhag defnyddio’r Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW o ran Mewnforio (GUC Mewnforio) mewn gwlad yn yr UE neu wedi newid manylion eich busnes.
Gallwch ond defnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF am y canlynol:
- rydych eisoes wedi datgofrestru o’r Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW o ran Mewnforio (GUC Mewnforio) yn yr UE (yn agor tudalen Saesneg)
- newid eich manylion busnes, megis e-bost cyswllt, cyfeiriad y busnes neu rif TAW yn y DU
Cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’n rhaid i chi ddatgofrestru neu newid eich manylion busnes yn y wlad lle rydych wedi cofrestru.
Pwy all roi gwybod i CThEF
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn un o’r canlynol:
- perchennog y busnes
- cyfryngwr sy’n gweithredu ar ran perchennog y busnes
Mae cyfryngwr yn berson sydd wedi cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio yn yr UE ac sy’n gyfrifol am roi cyfrif am TAW ar gyfer cyflenwr sy’n gwerthu nwyddau a fewnforiwyd o bell.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Mewngofnodwch i’r gwasanaeth gan ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth, neu gallwch ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost.
Os ydych yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi datgofrestru o’r cynllun GUC Mewnforio TAW
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif cofrestru GUC Mewnforio
- y dyddiad y gwnaethoch ddatgofrestru o’r cynllun GUC Mewnforio yn yr UE
- enw’r wlad lle rydych wedi datgofrestru
Os ydych yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi newid eich manylion busnes
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich cyfeiriad busnes newydd, eich manylion cyswllt newydd neu’ch rhif cofrestru TAW newydd yn y DU, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi newid
- eich rhif cofrestru GUC Mewnforio
- enw’r wlad yn yr UE lle rydych wedi cofrestru
Sut i roi gwybod i CThEF
Bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost, er mwyn i ni allu cadarnhau’ch newidiadau.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau eich bod wedi rhoi gwybod i ni am y newidiadau i’ch cofrestriad GUC Mewnforio TAW neu i’ch manylion busnes.
Byddwn yn diweddaru ein cofnodion gan ddefnyddio’r wybodaeth a roddwyd gennych.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 October 2024 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
First published.