Canllawiau

Rhowch wybod i CThEF am eich cynlluniau Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth

Pryd a sut i roi gwybod wrth CThEF am gynlluniau Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS) newydd, neu gynlluniau sydd wedi dod i ben.

Mae’n rhaid i chi gofrestru pob cynllun ERS newydd ar Wasanaethau Ar-lein CThEF, gan gynnwys dyfarniadau neu roddion untro o gyfranddaliadau.

Mae rhoddion a dyfarniadau o gyfranddaliadau mewn cwmnïau, a elwir yn aml yn Warantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS), yn cael eu defnyddio’n aml gan gyflogwyr i wobrwyo, cadw neu roi cymelliadau i gyflogeion. Gallant fod â mantais dreth neu heb fantais dreth.

Asiantau
Dim ond ar gyfer cynlluniau ERS sydd eisoes wedi’u cofrestru y byddwch yn gallu bwrw golwg dros a chyflwyno datganiadau — ni fyddwch yn gallu cofrestru na dod â chynllun ERS i ben.

Dysgwch sut i gofrestru fel asiant treth proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg).

Pryd i roi gwybod i CThEF

Dylai cynlluniau newydd sydd â mantais dreth gael eu cofrestru erbyn 6 Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsant eu sefydlu. Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, bydd angen i chi ddilyn y broses ar gyfer cofrestru’n hwyr.

Dim ond pan fydd digwyddiad y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano y bydd angen i chi gofrestru cynlluniau sydd heb fantais dreth, er enghraifft:

  • caffael neu waredu gwarantau
  • aseinio neu ryddhau opsiynau gwarantau

Dylech gofrestru’ch cynllun sydd heb fantais dreth erbyn 6 Gorffennaf yn dilyn pryd y bu’r digwyddiad cyntaf y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano.

Ar gyfer cynlluniau Cymelliadau Rheoli Mentrau (EMI)

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am opsiwn EMI a ganiatawyd (yn agor tudalen Saesneg) cyn pen 92 diwrnod i ddyddiad y caniatâd os ganiatawyd yr opsiwn cyn 6 Ebrill 2024.

Os caniatawyd ef ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhai di chi roi gwybod i CThEF am hyn ar neu cyn 6 Gorffennaf yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y rhoddwyd y caniatâd.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF o fewn y dyddiadau cau byddwch mewn perygl o golli unrhyw fuddion treth i chi a’ch cyflogeion.

Cyn i chi gofrestru

  1. Mae angen i chi ychwanegu’r gwasanaeth ERS at Wasanaethau Ar-lein CThEF cyn y gallwch gofrestru cynllun ERS gyda ni.

  2. I gofrestru, mae angen cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch — gallwch gael hwn o Wasanaeth TWE ar-lein CThEF i Gyflogwyr gan ddefnyddio’ch ID Defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Os oes angen i chi gofrestru fel cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg), gall gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i gael eich cyfeirnod TWE.

Ychwanegu’r gwasanaeth ERS at Wasanaethau Ar-lein CThEF

  1. Mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEF i Gyflogwyr.

  2. Dewiswch ‘Ychwanegu treth, toll neu gynllun nawr’.

  3. Dewiswch ‘Cyflogwyr neu gyfryngwyr, er enghraifft TWE i gyflogwyr neu CIS’.

  4. Dewiswch ‘Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS)’.

Cofrestru cynllun ERS gyda CThEF

Ar ôl i’r gwasanaeth ERS gael ei ychwanegu at Wasanaethau Ar-lein CThEF, gallwch gofrestru cynlluniau ERS gyda ni.

  1. Mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEF i Gyflogwyr.

  2. Dewiswch ‘Gwasanaeth ERS Ar-lein’.

  3. Dewiswch ‘Cofrestru cynllun neu drefniant’.

  4. Dewiswch y math o gynllun rydych am ei gofrestru a chliciwch ar ‘Nesaf’.

  5. Llenwch y datganiad hunanardystio.

  6. Ail-nodwch eich manylion mewngofnodi i gwblhau’r cofrestriad.

Bydd CThEF yn dyrannu cyfeirnod cynllun cyn pen 7 diwrnod ar ôl cofrestru cynllun ERS. Gallwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod ar Wasanaethau Ar-lein CThEF drwy ddewis ‘Bwrw golwg dros gynlluniau a threfniadau’.

Cofrestriadau hwyr

Erbyn 6 Gorffennaf yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y dyfernir y cyfranddaliadau neu’r grant opsiynau cyntaf ynddi, rhaid i chi gofrestru’ch:

  • Cynllun Cymell Cyfranddaliadau
  • Cynllun Cynilo Wrth Ennill
  • Cynllun Opsiwn Prynu Cyfranddaliadau Cwmni

Pan eich bod wedi cofrestru’ch cynllun, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad diwedd blwyddyn erbyn 6 Gorffennaf yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.

Ar gyfer Cymelliadau Rheoli Mentrau (EMI), mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am opsiwn EMI a ganiatawyd (yn agor tudalen Saesneg). I wneud hyn, bydd angen i chi gofrestru’ch cynllun EMI yn gyntaf. Ar ôl i chi gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno’ch hysbysiad EMI erbyn y dyddiad cau a chyflwyno’ch datganiad diwedd blwyddyn erbyn 6 Gorffennaf yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.

Ar gyfer cynlluniau sydd heb fantais dreth, lle mae yna ddigwyddiad y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad diwedd blwyddyn erbyn 6 Gorffennaf yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.

Os ydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru cynllun cyfranddaliad newydd neu ar gyfer cyflwyno hysbysiad EMI, mae’n rhaid i chi roi’ch rheswm dros fethu’r dyddiad cau yn ysgrifenedig, naill drwy e-bost i shareschemes@hmrc.gov.uk neu i’r cyfeiriad canlynol:

Elusennau, Cynilion a Rhyngwladol 1 / Charities, Savings and International 1
CThEF/HMRC
BX9 1UA 

Os byddwn yn derbyn bod gennych esgus rhesymol am fethu’r dyddiad cau, fe esboniwn y camau nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys sut i wneud y canlynol:

  • cofrestru eich cynllun yn hwyr
  • cyflwyno unrhyw ddatganiadau hwyr
  • cyflwyno unrhyw hysbysiadau EMI hwyr

Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddefnyddio dull diogel o drosglwyddo data er mwyn eich galluogi chi i gyflwyno unrhyw ddatganiadau hwyr. Y dull o drosglwyddo data y mae CThEF yn ei ffafrio yw’r Gwasanaeth Cyfnewid Data Diogel (yn agor tudalen Saesneg) (SDES).

Gall cyflwyno datganiad hwyr arwain at gosbau am gyflwyno’n hwyr yn cael eu codi arnoch. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sut i apelio yn erbyn unrhyw gosbau am gyflwyno’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi gofrestru

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad ERS erbyn 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth neu mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Cyflwyno datganiad ERS (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer pob cynllun ERS cofrestredig bob blwyddyn hyd nes y byddwch yn dod â’r cynllun i ben, hyd yn oed os nad oes digwyddiad y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano.

  2. Cadw copi o’ch datganiad ar gyfer eich cofnodion eich hun.

  3. Cyflwyno datganiad ‘dim’ os nad oes gennych unrhyw beth i roi gwybod amdano — i gyflwyno datganiad ‘dim’ bydd angen arnoch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch roi gwybod i CThEF am y cynllun.

Sut i awdurdodi asiant i gyflwyno datganiadau ERS

Bydd angen i chi awdurdodi’ch asiant os hoffech iddo gyflwyno’ch datganiad ERS ar eich rhan. I wneud hyn, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Darllenwch ragor am sut i awdurdodi asiant drwy’ch cyfrif treth busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Rhoi gwybod i CThEF fod eich cynllun ERS wedi dod i ben

I roi gwybod i CThEF fod eich cynllun ERS wedi dod i ben (yn agor tudalen Saesneg), bydd angen arnoch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch roi gwybod i CThEF am y cynllun (ni all asiantau ERS ddod â chynllun ERS i ben).

  1. Mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEF i Gyflogwyr.

  2. Dewiswch ‘Bwrw golwg dros gynlluniau a threfniadau’.

  3. Dewiswch y cynllun y mae angen i chi ddod ag ef i ben. Byddwch yn cael eich arwain i sgrin arall ar ôl dewis y cynllun.

  4. Dewiswch ‘Datganiadau diwedd blwyddyn’.

  5. Dewiswch ‘Rhoi dyddiad y digwyddiad terfynol’ a nodwch y dyddiad y daeth yr ERS i ben (gall y dyddiad fod yn y gorffennol, ond mae’n rhaid cyflwyno datganiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth y mae dyddiad y digwyddiad terfynol ynddi).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 January 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 May 2024 + show all updates
  1. Information has been added to support late registrations and submitting nil returns.

  2. We have updated the guidance with more information about when to tell HMRC about a grant of an Enterprise Management Incentive (EMI) option.

  3. Before you submit your employment related securities return or notification, you need to save a copy of it for your own records. This is because the online service will not save the details and you will not be able to access them again.

  4. If you need to register as an employer, it can now take up to 15 working days to get your PAYE reference number.

  5. A Welsh translation has been added,

  6. Information about the 2 ways an agent can be authorised has been added to the 'How to authorise an agent to submit an ERS return' section.

  7. Guidance has been added to explain how to add employment related securities to HMRC Online Services and how to register employment related securities with HMRC. Steps have also been added to show how to authorise an agent to submit employment related security returns on your behalf.

  8. Guidance on how and when you'll get your scheme reference number has been updated.

  9. More information about how to tell HMRC about your ERS schemes has been added.

  10. First published.

Sign up for emails or print this page