Canllawiau

Ymddiriedolaethau ac Enillion Cyfalaf: cyfrifwch eich treth

Defnyddiwch yr arweiniad hwn i’ch helpu i benderfynu a yw Treth Enillion Cyfalaf yn ddyledus a faint y bydd angen i chi ei dalu.

Pryd y mae’n bosibl y bydd Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy

Mae’n bosibl y bydd Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rhoddir asedion mewn i ymddiriedolaeth
  • cymerir asedion allan o ymddiriedolaeth
  • mae buddiolwr yn cael rhywfaint o’r asedion, neu’r holl asedion, sydd mewn ymddiriedolaeth

Mae manylion ynghylch pwy sy’n gorfod talu’r dreth a phryd y mae angen ei thalu i’w cael yn y canllaw Ymddiriedolaethau a threthi.

Pryd na fydd Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy

Weithiau, caiff ased ei drosglwyddo i rywun arall ond nid yw Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy.

Pan fydd person yn marw ac yn gadael ei asedion i fuddiolwr neu ymddiriedolaeth

Pan fydd person yn marw ac yn gadael ei asedion i rywun, ni fydd Treth Enillion Cyfalaf i’w thalu p’un a yw’r asedion hynny mewn ymddiriedolaeth ai peidio.

Os caiff ased ei werthu, ei drosglwyddo neu ei waredu yn nes ymlaen, a’i fod wedi cynyddu mewn gwerth ers dyddiad y farwolaeth, efallai bod Treth Enillion Cyfalaf yn ddyledus.

Mae hyn yn berthnasol i ymddiriedolwyr neu fuddiolwyr sy’n etifeddu o dan y canlynol:

Pan fydd person yn marw ac mae buddiant mewn meddiant yn dod i ben

Mae hyn yn digwydd mewn ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant — pan fo gan ymddiriedolwr hawl absoliwt ac ar unwaith i incwm o asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth. Fel arfer, does dim Treth Enillion Cyfalaf i’w thalu pan fydd y buddiolwr yn marw a bod ei fuddiant mewn meddiant yn dod i ben.

Cyfrifwch faint o Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus

Mae Treth Enillion Cyfalaf yn cael ei chyfrifo ar ymddiriedolaethau ar gyfer pob blwyddyn dreth (sy’n rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol). Gallwch gyfrifo faint y bydd angen i chi ei dalu drwy ddilyn y 4 cam canlynol:

  1. Cyfrifo’r ennill neu golled ar gyfer pob eitem yr ydych yn ei gwerthu, trosglwyddo neu fel arall yn cael gwared arni, gan ddidynnu unrhyw gostau caniataol a rhyddhadau.

  2. Didynnu cyfanswm colledion caniataol yr ymddiriedolaeth o gyfanswm yr enillion — er mwyn cael swm yr ennill neu golled.

  3. Cynnwys colledion busnes a ddygwyd ymlaen o flynyddoedd cynharach.

  4. Didynnu lwfans rhydd o dreth yr ymddiriedolwyr.

Bydd y swm sy’n weddill yn cael ei drethu ar y gyfradd Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer ymddiriedolwyr ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025.

Cyfraddau o 30 Hydref 2024 ymlaen

24% ar enillion o eiddo preswyl ac o asedion eraill trethadwy.

Cyfraddau o 6 Ebrill 2024 i 29 Hydref 2024

20% (heb gynnwys eiddo preswyl). 24% ar gyfer gwarediadau o eiddo preswyl.

Mae’r cyfraddau a’r trothwyon ar gyfer blynyddoedd cynharach (yn agor tudalen Saesneg) yn wahanol.

Mae arweiniad pellach yn y nodiadau ar enillion cyfalaf ar ymddiriedolaethau ac ystadau (yn agor tudalen Saesneg).

Costau caniataol

Gall ymddiriedolwyr ddidynnu treuliau penodol pan fyddant yn cyfrifo enillion cyfalaf yr ymddiriedolaeth. Y 2 fath mwyaf cyffredin o draul yw:

  • y gost er mwyn gwella eiddo neu dir i gynnu ei werth pan fydd yn cael ei werthu neu drosglwyddo — er enghraifft, adeiladu ystafell wydr
  • y costau sydd ynghlwm â phrynu a throsglwyddo neu werthu’r eitem — er enghraifft prisio eiddo cyn ei werthu neu dalu ffioedd cyfreithiwr neu frocer stoc

Mae’r mathau o draul sy’n ganiataol yn dibynnu ar fath yr ased. Gallwch ddarllen rhagor ynghylch treuliau caniataol ar dudalen 12 o’r nodiadau ar enillion cyfalaf ar ymddiriedolaethau ac ystadau (yn agor tudalen Saesneg).

Rhyddhad

Mae nifer o wahanol fathau o ryddhadau ar gael y gallai ymddiriedolwyr eu defnyddio i leihau Treth Enillion Cyfalaf yr ymddiriedolaeth.

Rhyddhad Disgrifiad
Rhyddhad Man Preswylio Preifat (yn agor tudalen Saesneg) Nid yw ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddant yn gwerthu eiddo y mae’r ymddiriedolaeth yn berchen arno. Mae’n rhaid iddo fod yn brif breswylfa i rywun y mae’r ymddiriedolaeth yn dweud sy’n gallu byw yno.
Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) Nid yw ymddiriedolwyr yn talu treth os ydynt yn trosglwyddo’r asedion i fuddiolwyr (neu ymddiriedolwyr eraill mewn rhai achosion). Mae’n bosibl y bydd y sawl sy’n cael yr asedion yn talu treth pan fydd yn gwerthu neu’n cael gwared ar yr ased.
Rhyddhad daliol (yn agor tudalen Saesneg) Nid yw ymddiriedolwyr yn talu treth os ydynt yn trosglwyddo’r asedion i fuddiolwyr (neu ymddiriedolwyr eraill mewn rhai achosion). Mae’n bosibl y bydd y sawl sy’n cael yr asedion yn talu treth pan fydd yn gwerthu neu’n cael gwared ar yr ased.

Colledion caniataol

Yn ogystal â thalu treth ar enillion, mae ymddiriedolwyr yn cyfrifo unrhyw golledion o werthu neu gael gwared ar asedion. Mae’n rhaid iddynt wrthbwyso’r rhain yn erbyn enillion trethadwy. Byddwch yn cofnodi colledion, gan gynnwys y rheiny a ddygwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol, ar Hunanasesiad: enillion cyfalaf ymddiriedolaethau ac ystadau (SA905) (yn agor tudalen Saesneg).

Enghraifft

Yn 2022 i 2023, mae gan ymddiriedolaeth enillion cyfalaf o £12,000 a cholledion caniataol o £17,000. Mae’r ymddiriedolwyr yn didynnu’r colledion o’r enillion, gan adael dim enillion trethadwy am y flwyddyn. Does dim Treth Enillion Cyfalaf i’w thalu ac mae colledion nas defnyddiwyd o £5,000 i’w dwyn ymlaen i 2023 i 2024.

Yn 2023 i 2024, mae gan yr ymddiriedolaeth enillion o £7,000 a dim colledion. Mae’r ymddiriedolaeth yn defnyddio dim ond £4,000 o golledion y flwyddyn flaenorol i leihau’r ennill i lefel y swm eithriedig blynyddol — £3,000 ar gyfer 2023 i 2024. Mae ganddynt £1,000 o golledion nas defnyddiwyd o hyd i’w dwyn ymlaen i 2024 i 2025.

Lwfans rhydd o dreth

Yr unig adeg y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr dalu Treth Enillion Cyfalaf yw pan fo cyfanswm yr enillion trethadwy yn fwy na lwfans rhydd o dreth yr ymddiriedolaeth (sef y ‘swm blynyddol wedi’i esemptio’).

Cyfnod Lwfans rhydd o dreth Lwfans rhydd o dreth os yw’r buddiolwr yn anabl
6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025 £1,500 £3,000
6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 £3,000 £6,000
6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023 £6,150 £12,300
6 Ebrill 2021 i 5 Ebrill 2022 £6,150 £12,300
6 Ebrill 2020 i 5 Ebrill 2021 £6,150 £12,300

Os yw setlwr yr ymddiriedolaeth wedi sefydlu mwy nag un ymddiriedolaeth (setliad), bydd y lwfans rhydd o dreth yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y nifer o ymddiriedolaethau hyd at gyfanswm o 5. Os oes 5 ymddiriedolaeth neu fwy, byddai’r lwfans rhydd o dreth yn aros yr un peth ar gyfer pob ymddiriedolaeth ddilynol.

Er enghraifft, yn 2022 i 2023, y lwfans rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaeth yw £6,150. Os yw setlwr wedi sefydlu 2 ymddiriedolaeth, byddai pob ymddiriedolaeth yn cael lwfans rhydd o dreth cyfartal o £3,075.

Os yw setlwr wedi sefydlu 5 ymddiriedolaeth neu fwy, byddai’r swm sydd wedi’i esemptio’n cael ei gyfyngu i £1,200 fesul ymddiriedolaeth (10 neu fwy, os yw hyn ar gyfer budd person anabl). Byddai gan bob ymddiriedolaeth esemptiad sy’n rhydd o dreth o £1,200.

Mae hyn dim ond yn effeithio ymddiriedolaethau a sefydlwyd ar ôl 7 Mehefin 1978, oni bai ei fod yn ymddiriedolaeth ar gyfer buddiolwr anabl, ac os felly, mae’n berthnasol i ymddiriedolaethau a sefydlwyd ar ôl 9 Mawrth 1981.

Gofyn i CThEF wirio gwerth eich ased

Gallwch ofyn i CThEF i wirio prisiad ased y mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf arno. Defnyddiwch ffurflen CG34 Gwirio prisiadau ar ôl i drafodyn gymryd lle ar gyfer enillion cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw’n cytuno â’ch prisiad, ni fydd yn eich herio o ran eich defnydd ohono yn eich Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd.

Rhoi gwybod i CThEF ynghylch enillion cyfalaf a wnaed gan ymddiriedolaeth

Ar gyfer unrhyw warediad eiddo yn y DU, mae’n rhaid i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU a’i thalu cyn pen:

  • 30 diwrnod o’i werthu, os oedd y dyddiad cwblhau rhwng 6 Ebrill 2021 a 26 Hydref 2021
  • 60 diwrnod o’i werthu, os oedd y dyddiad cwblhau ar neu ar ôl 27 Hydref 2021

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod ynghylch cael gwared ar unrhyw asedion eraill mewn Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gwerth yr asedion trethadwy a waredwyd yn fwy na £50,000 (ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 ymlaen)
  • mae cyfanswm yr enillion trethadwy cyn didynnu unrhyw golledion yn fwy na’r swm blynyddol wedi’i esemptio
  • mae cyfanswm yr enillion trethadwy, os nad oes colledion neu ar ôl didynnu colledion, yn fwy na’r swm blynyddol wedi’i esemptio — mae hyn yn arwain at rwymedigaeth Treth Enillion Cyfalaf
  • mae’r ymddiriedolwyr am hawlio am golled cyfalaf caniataol neu wneud hawliad neu ddewis arall

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Awst 2008
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Rates of Capital Gains Tax for trustees in the 2024 to 2025 tax year have been added.

  3. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2024 to 2025.

  4. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2023 to 2024.

  5. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2021 to 2022.

  6. When to report and pay Capital Gains Tax for UK property disposal has been updated.

  7. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2020 to 2021 .

  8. Guidance about the tax-free allowance and telling HMRC about capital gains made by a trust has been updated.

  9. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2019 to 2020.

  10. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2018 to 2019.

  11. In the Tax-free allowance section, the tax-free exemption of £1,100 has been updated to £1,130.

  12. This guidance has been updated to reflect tax year dates and rates effective from 6 April 2017.

  13. Inclusion of 20% rate and explanation under paragraph 'Work out how much Capital Gains Tax is due’.

  14. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2016 to 2017.

  15. Updated rates and allowances for the tax year 2015 to 2016.

  16. First published.

Print this page