Canllawiau

Sut y caiff eiddo domestig ei asesu ar gyfer bandiau Treth Gyngor

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn egluro sut y caiff eiddo domestig ei brisio ar gyfer bandiau Treth Gyngor.

Mae prisiadau Treth Gyngor yn seiliedig ar werth eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes.

Mae’r gwerth yn seiliedig ar y pris y byddai’r eiddo wedi’i gael pe bai wedi’i werthu ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 1991 yn Lloegr ac 1 Ebrill 2003 yng Nghymru.

Pennir band i bob eiddo ar yr un sail, gan gynnwys eiddo a brynwyd o dan gynlluniau disgownt, megis Hawl i Brynu.

Ni chaiff y disgownt yn y pris prynu a gymhwysir at yr eiddo hwn ei ystyried wrth bennu’r band. Nid yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn defnyddio mynegeion pris eiddo ar gyfer gwybodaeth na phrisiadau

Bandiau Treth Gyngor yn Lloegr (yn seiliedig ar werthoedd 1 Ebrill 1991)

Band

Gwerth ar 1 Ebrill 1991

A

hyd at £40,000

B

£40,001 i £52,000

C

£52,001 i £68,000

D

£68,001 i £88,000

E

£88,001 i £120,000

F

£120,001 i £160,000

G

£160,001 i £320,000

H

mwy na £320,000

Bandiau Treth Gyngor yng Nghymru (yn seiliedig ar werthoedd 1 Ebrill 2003)

Band

Gwerth ar 1 Ebrill 2003

A

hyd at £44,000

B

£44,001 i £65,000

C

£65,001 i £91,000

D

£91,001 i £123,000

E

£123,001 i £162,000

F

£162,001 i £223,000

G

£223,001 i £324,000

H

£324,001 i £424,000

I

mwy na £424,000

Asesiadau bandiau Treth Gyngor

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn asesu eiddo i sicrhau ei fod yn y band Treth Gyngor cywir. Mae’n asesu peth eiddo yn awtomatig, er enghraifft pan fydd eiddo wedi’i wneud yn llai neu pan fydd eiddo’n cael ei adeiladu o’r newydd. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd yn asesu eiddo pan ofynnir iddi wneud hynny, megis yn ystod apêl Treth Gyngor neu yn ystod adolygiad bandiau.

Mae asesiadau’n seiliedig ar nifer o ffactorau, megis:

  • maint yr eiddo
  • cynllun yr eiddo
  • cymeriad yr eiddo
  • lleoliad yr eiddo
  • newid yn y defnydd o’r eiddo
  • gwerth yr eiddo ar 1 Ebrill 1991 (Lloegr) neu 1 Ebrill 2003 (Cymru)

Gwirio’ch band Treth Gyngor yng Nghymru a Lloegr neu’r Alban.

Gall eiddo sydd wedi cynyddu o ran maint symud i fand uwch pan gaiff ei brynu nesaf.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch yr asesiad o’ch band Treth Gyngor cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Eiddo newydd

Pan fydd eiddo newydd wedi’i adeiladu, neu pan fydd eiddo sydd ohoni yn cael ei addasu ar gyfer defnydd domestig (er enghraifft, addasiad warws), bydd yn rhaid i’r eiddo gael band Treth Gyngor.

Os ydych wedi symud i mewn i eiddo sydd heb fand Treth Gyngor, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol.

Bydd y cyngor yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio i bennu band.

Mae arweiniad ar gael ar sut i ddechrau talu Treth Gyngor.

Ymweliadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Os nad yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gallu cael digon o wybodaeth i bennu band i eiddo, bydd yn trefnu ymweliad.

Fel arfer, gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arni o’r tu allan, felly ni fydd angen iddi darfu arnoch.

Bydd yr arolygydd yn aml yn tynnu lluniau i arbed amser.

Yn gyffredinol, dim ond 1 neu 2 o luniau allanol sy’n angenrheidiol – fel y bydd asiant tai yn eu defnyddio. Os na all Asiantaeth y Swyddfa Brisio gael yr holl wybodaeth o’r tu allan, efallai y bydd yn gofyn am gael mynd i mewn i’r eiddo.

Os oes angen lluniau o’r tu mewn, ni fyddant yn cael eu tynnu heb eich caniatâd.

Gellir ond cynnal archwiliadau gyda’ch caniatâd. Mae staff Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn archwilio eiddo yn unol â chod ymarfer y llywodraeth ar roi pwerau mynediad ar waith.

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn trefnu’r ymweliad pan fydd yn gyfleus i chi. Mae ymweliadau fel arfer yn cymryd rhwng 10 a 30 munud.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld ar y llythyr apwyntiad. Mae staff bob amser yn cario ac yn cyflwyno cardiau adnabod sy’n cynnwys eu llun.

Os yw rhywun yn honni bod angen archwilio’ch cartref at ddibenion Treth Gyngor a bod gennych amheuon, peidiwch â rhoi mynediad iddo.

Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i wirio a yw galwyr yn swyddogol os oes gennych unrhyw bryderon.

Ymholiadau

Ffôn (Cymru) 03000 505505
Ffôn (Lloegr) 03000 501501
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 08:30 i 17:00. Ar gau ar wyliau’r banc.

Gwybodaeth am gostau galwadau: https://www.gov.uk/costau-galwadau

Pennu bandiau ar gyfer tai amlbreswyliaeth

Gelwir eiddo domestig sydd ag anheddau ar wahân yn dai amlbreswyliaeth. Mae pob rhan o eiddo a osodir ar wahân yn gymwys fel annedd ar wahân gyda’i band ei hun. Efallai y bydd amgylchiadau pan all Asiantaeth y Swyddfa Brisio gyfuno’r bandiau.

Enghreifftiau

Tai amlbreswyliaeth heb fawr o addasiad, os o gwbl: Pan fo mân addasiadau wedi’u hychwanegu, gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio roi’r holl eiddo mewn un band.

Gallai hyn fod yn berthnasol pan fo cloeon drws yn cael eu hychwanegu a bod preswylwyr y rhannau a osodir ar wahân yn rhannu cegin ac ystafell ymolchi y tŷ gwreiddiol.

Tai amlbreswyliaeth gydag addasiadau i bob llawr: Gellir rhoi un band pan fo gan bob llawr o dŷ a osodir mewn rhannau gyfleusterau safonol a phan ellir trin pob llawr fel uned hunangynhaliol.

Mae hyn yn berthnasol pan fo meddianwyr y llawr yn rhannu cegin ac ystafell ymolchi.

Tai amlbreswyliaeth gydag ystafelloedd ar osod sydd wedi’u haddasu: Efallai y bydd ystafelloedd a osodir ar wahân mewn tŷ amlbreswyliaeth wedi’u haddasu, er enghraifft, fel bod ganddynt eu cegin fach eu hunain neu gawod/bath a thoiled ar wahân.

Byddant yn cael eu band eu hunain er y gallant rannu rhai cyfleusterau. Wrth benderfynu, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ystyried i ba raddau y mae pob rhan wedi’i newid yn strwythurol.

Tai amlbreswyliaeth sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol: Yn gyffredinol, ni fyddai’r mathau hyn o eiddo yn cael eu cyfuno a byddai asesiadau ar wahân ar gyfer pob uned fewnol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am dai amlbreswyliaeth.

Mae’ch awdurdod lleol yn cyfrifo bil Treth Gyngor ar wahân ar gyfer pob eiddo y pennwyd band iddo ac yn casglu taliadau. Mae’r cyngor yn gyfrifol am weithredu’r disgowntiau neu’r eithriadau perthnasol.

Os ydych yn credu bod eich band yn anghywir, neu na ddylai’ch cartref fod â band o gwbl, efallai y byddwch yn gymwys i apelio.

Bandiau Treth Gyngor a rhandai

Os bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu bod eich eiddo yn cynnwys mwy nag 1 llety byw ar wahân, efallai y codir tâl arnoch am fwy nag un band Treth Gyngor.

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio gyflwyno band Treth Gyngor ar wahân i bob:

“adeilad, neu ran o adeilad, sydd wedi’i adeiladu neu ei addasu i’w ddefnyddio fel llety byw ar wahân”

Mae’r cyfarwyddiadau gweithredol a ddilynir wrth gymhwyso hyn i’w gweld yn Nodyn ymarfer 5: dadgyfuno anheddau yn llawlyfr Treth Gyngor Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Enghraifft

“Mae teulu yn addasu dwy ystafell yn eu tŷ fel bod perthynas yn gallu byw gyda nhw.

Mae hyn yn cynnwys gosod offer cegin a thoiled a chawod yn ogystal â chreu mynedfa unigol i’r rhandy newydd. Fel llety byw ar wahân, byddai angen band Treth Gyngor ei hun ar y rhandy hwn fel arfer.”

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gwneud penderfyniad ar bob achos yn seiliedig ar natur benodol adeiladu a/neu addasu’r eiddo, megis:

  • mynediad annibynnol i gyntedd, landin neu fan cyffredin arall, neu fynediad oddi wrth y rhain
  • ei gyfleusterau ei hun ar gyfer cysgu a pharatoi bwyd
  • cyfleusterau ymolchi a thoiled

Nodweddion ffisegol yn unig sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu a yw man ychwanegol o lety byw yn bodoli o fewn eiddo domestig, nid sut y caiff ei ddefnyddio.

Mae dal angen band Treth Gyngor ar wahân os yw rhan o dŷ, fflat neu eiddo domestig arall y gellid ei meddiannu ar wahân yn wag.

Os oes gennych randy, efallai y bydd gennych yr hawl i ryddhad gan yr awdurdod lleol. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Ni fyddai llety a feddiannir gan denantiaid yn cael ei drin fel rhandy, ond byddai ganddo ei fand Treth Gyngor ei hun o hyd.

Gweinyddir disgowntiau ac eithriadau amrywiol gan eich awdurdod lleol (cyngor).

Os ydych wedi cael gwared ar lety byw ar wahân drwy wneud newidiadau ffisegol i’ch tŷ, fflat neu eiddo domestig arall, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Dim ond os yw’r rhan o’r llety byw neu’r rhandy wedi’i newid yn ddigonol fel na ellid byw ynddo ar wahân mwyach y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gallu tynnu band Treth Gyngor.

Nid yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gallu rhoi cyngor penodol ar unrhyw newidiadau a gynllunnir i eiddo. Gall ond esbonio sut y cymhwysir rheoliadau Treth Gyngor perthnasol.

Os ydych o’r farn bod eich eiddo wedi cael band Treth Gyngor ychwanegol yn anghywir, mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

Talu Treth Gyngor

Mae’ch awdurdod lleol (cyngor) yn pennu cyfraddau ac yn casglu’ch taliadau Treth Gyngor.

Gallwch gael hyd i’r cyfraddau Treth Gyngor a bennir gan eich awdurdod lleol.

Mae’n bosibl talu’ch Treth Gyngor ar-lein.

Sut mae eiddo yn cael eu mesur at ddibenion Treth Gyngor

Caiff tai eu mesur ar sail Arwynebedd Dan Do wedi’i Leihau (RCA) ac mae fflatiau’n cael eu mesur ar sail Arwynebedd Llawr Effeithiol (EFA).

Arwynebedd dan do wedi’i leihau (RCA)

Mae’r RCA yn cynnwys yr arwynebedd sydd dan do o fewn y waliau allanol, wedi’i fesur yn allanol.

Mae’r RCA yn eithrio’r isod (h.y. tynnir y canlynol o’r arwynebedd dan do):

  1. bargod bondo
  2. balconïau agored
  3. llwybrau dan do a choridorau allanol
  4. arwynebeddau llofft heb eu trosi
  5. garejys cysylltiedig a rhai integrol*
  6. golchdai* a storfeydd tanwydd*/bynceri glo
  7. ystafelloedd gwydr* a phortshys*
  8. unrhyw estyniad o natur dros dro neu o ansawdd sylweddol is i’r brif annedd*.
  9. lle bo atriwm, dim ond y lefel isaf y dylid ei chynnwys (mae grisiau, fodd bynnag, yn cael eu cynnwys ar bob lefel)

Os bydd unrhyw un o’r eitemau ar y rhestr* yn cael eu cyrraedd o’r prif dŷ ac wedi’u gorffen i safon debyg, byddant yn cael eu cynnwys yn y mesuriad.

Mae adeiladau allanol yn cael eu cofnodi ar wahân.

Mae arwynebeddau mewnol sydd ag uchder o dan 1.5m wedi’u heithrio – heblaw am arwynebeddau o dan y grisiau. Mae trwch wal allanol tybiannol yn cael ei ychwanegu at bob dimensiwn cyn cyfrifo’r arwynebeddau er mwyn cynnal cysondeb e.e. mewn byngalos cabanau gwyliau neu drosiadau llofft gyda nenfydau ar oleddf.

Sylwer: RCA o’i chymharu ag Arwynebedd Allanol Gros (GEA)

Mae GEA yn cael ei ddefnyddio yn bennaf yn y diwydiant eiddo i fesur adeiladau annomestig. Mae’n cynnwys garejys, cromgelloedd o dan y palmant, mannau llwytho, adeiladau allanol sy’n rhannu o leiaf un wal gyda’r prif adeilad, ystafelloedd gwydr, balconïau mewnol a storfeydd tanwydd.

Mae diffiniad VOA o RCA yn wahanol iawn i ddiffiniad RICS o GEA.

Mesur trosiadau llofft gyda nenfydau ar oleddf a gwneud addasiadau o ran trwch wal

Dim ond arwynebeddau dros uchder o 1.5m sydd wedi’u cynnwys. Mae swm ar gyfer trwch wal allanol tybiannol yn cael ei ychwanegu at bob mesuriad (ar gyfer tŷ) er mwyn ei addasu i RCA.

  • waliau ceudod allanol - gweler y tabl isod am ychwanegiadau ar gyfer pob wal
  • waliau allanol solet - ychwanegu 23cm ar gyfer pob wal
Y Math o Wal Ychwanegu
  Waliau Ceudod Eiddo a/neu estyniadau a adeiladwyd cyn 1995 28cm
  Eiddo ac estyniadau a adeiladwyd rhwng 1995 a 2002 30.5cm  
  Eiddo ac estyniadau a adeiladwyd yn 2002-2022 33cm  
  Eiddo ac estyniadau a adeiladwyd o 2022 ymlaen* 35.5cm  

Isloriau

Mae arwynebeddau islawr sydd wedi’u gorffen i safon llety’r prif dŷ wedi’u cynnwys yn yr RCA. Mae trwch wal allanol tybiannol yn cael ei ychwanegu at y mesuriadau mewnol i gyfrifo ffigur yr RCA.

*Newidiodd rheoliadau adeiladu ym mis Mehefin 2022 i’w gwneud hi’n ofynnol cael bwlch wal o 125mm. Mae cyfnod pontio i’w gael, felly ni fydd hyn yn berthnasol i eiddo lle gwnaed y cais cynllunio cyn Mehefin 2022 a lle dechreuodd y gwaith cyn Mehefin 2023.

Arwynebedd llawr effeithiol (EFA)

Arwynebedd Llawr Effeithiol (EFA) yw arwynebedd ystafelloedd y gellir ei ddefnyddio o fewn annedd, wedi’i fesur hyd at wyneb mewnol waliau’r ystafelloedd hynny. Defnyddir y sail hon o fesur ar gyfer fflatiau.

Mae hyn yn eithrio’r canlynol:

  • cynteddau a phennau grisiau
  • cypyrddau mewn arwynebeddau sydd wedi’u heithrio
  • colofnau, pierau, brestiau simnai ac ati.
  • ystafelloedd ymolchi/toiledau/cawodydd
  • pob man sydd ag uchder sy’n llai na 1.5m
  • arwynebeddau a gwmpesir gan waliau styd a phartisiynau

Mae EFA yn cynnwys yr arwynebedd a feddiannir gan unedau neu gypyrddau gosod mewn ystafelloedd mesuredig. Mae hefyd yn cynnwys arwynebedd storfeydd a chypyrddau mawr y mae modd cerdded i mewn iddynt, a’u cyrraedd o’r tu mewn i’r annedd.

Sylwer: EFA o’i chymharu ag Arwynebedd Mewnol Net (NIA)

Arwynebedd Mewnol Net (NIA) yw’r arwynebedd y gellir ei ddefnyddio o fewn adeilad, wedi’i fesur hyd at wyneb mewnol waliau perimedr ar bob llawr. Mae’n cynnwys arwynebeddau sydd wedi’u hamgáu a’u croesi gan bartisiynau an-strwythurol, megis coridorau. Mae coridorau ond yn cael eu heithrio os maent yn cael eu defnyddio’n gymunedol.

Mae EFA yn cael ei gydnabod yng nghod Ymarfer Mesur RICS.

Mae rhestr fechan o awdurdodau bilio yn Lloegr lle nad yw fflatiau yn cael eu mesur yn ôl EFA. Nid yw’n effeithio ar sut rydym yn asesu eich Band.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 January 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 July 2024 + show all updates
  1. 'How properties are measured for Council Tax purposes' has been added.

  2. We have amended the guidance to include changes to English HMOs

  3. The contents on this page were updated in all sections.

  4. Added translation

  5. Added Welsh translation.

  6. Consolidation of information of two pages ('Banding of houses in multi occupation (HMOs)' and 'Council Tax bands and annexes')

  7. First published.

Sign up for emails or print this page