Canllawiau

Cynlluniau dychwelyd i'r gwaith Credyd Cynhwysol a Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)

Cynlluniau dychwelyd i'r gwaith i helpu hawlwyr Credyd Cynhwysol a JSA i symud yn agosach at neu i mewn i waith.

Mathau o gynlluniau

Nod cynlluniau dychwelyd i’r gwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch profiad, a’ch helpu i ddod o hyd i waith. Bydd eich anogwr gwaith yn gwybod pa fath o gymorth y mae pob cynllun yn ei gynnwys ac a allai eich helpu i symud o fudd-daliadau i waith.

Gall eich anogwr gwaith eich cyfeirio at un neu fwy o’r cynlluniau hyn:

Hyfforddiant neu help arall i ennill sgiliau newydd

Bydd eich anogwr gwaith yn gwirio’r sgiliau sydd gennych. Os nad oes gennych y math o sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, efallai y cewch gynnig cymorth i wella’ch sgiliau.

Efallai y gofynnir i chi:

  • gwrdd ag ymgynghorydd gyrfaoedd i drafod eich sgiliau a’ch nodau swydd

  • cwrdd â darparwr hyfforddiant, fel mewn coleg, i drafod hyfforddiant

  • cwblhau cwrs hyfforddiant

Bydd ymgynghorydd gyrfaoedd yn eich helpu i feddwl am:

  • pa fath o swyddi yr hoffech eu gwneud

  • y sgiliau sydd gennych

  • sut y gall hyfforddiant wella eich siawns o ddod o hyd i waith neu swydd â chyflog gwell

Bydd darparwr hyfforddiant yn asesu:

  • eich sgiliau Saesneg, mathemateg, a gwybodaeth a thechnoleg gyfrifiadurol (TGCh)

  • eich sgiliau iaith lafar, os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf

  • unrhyw sgiliau neu gymwysterau penodol i swydd sydd gennych

  • sgiliau eraill o swyddi blaenorol neu brofiad gwaith

Am faint o amser mae cyrsiau hyfforddiant yn para

Bydd faint o amser rydych chi’n ei dreulio yn hyfforddi yn dibynnu ar y math o gwrs a’r help rydych ei angen i wella’ch sgiliau.

Mae hyfforddiant ar gyfer swyddi penodol, fel gwasanaeth cwsmeriaid, fel arfer yn para 1 i 2 wythnos. Bydd hyfforddiant i wella eich sgiliau Saesneg, mathemateg neu TGCh fel arfer yn hirach. Bydd eich anogwr gwaith yn esbonio beth mae’r cwrs yn ei olygu a phryd y bydd angen i chi fynychu.

Efallai y bydd angen i chi fynychu’r apwyntiad a chwblhau’r hyfforddiant a argymhellir

Os yw’ch anogwr gwaith yn eich anfon i gwrdd ag ymgynghorydd gyrfaoedd neu ddarparwr hyfforddiant, efallai y bydd angen i chi fynychu’r apwyntiad.

Efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei sancsiynu os byddwch yn methu mynychu, heb reswm da:

  • apwyntiad gydag ymgynghorydd gyrfaoedd neu ddarparwr hyfforddiant

  • cyrsiau hyfforddiant a argymhellir gan eich anogwr gwaith

Efallai y bydd dal angen i chi fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith

Os bydd bod ar hyfforddiant yn eich atal rhag mynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith neu wneud pethau eraill a nodir yn eich ymrwymiad hawlydd, rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.

Beth sy’n digwydd os ydych yn cael swydd

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn dod o hyd i waith â thâl.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac yn dod o hyd i waith â thâl efallai y byddwch:

  • yn dal i allu hawlio Credyd Cynhwysol

  • ddim angen mynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith mwyach

Profiad gwaith

Os nad oes gennych lawer neu ddim hanes gwaith, gall profiad gwaith eich helpu i:

  • ennill llawer o’r sgiliau mae cyflogwyr eu hangen

  • ychwanegu profiad i’ch CV a’ch ffurflenni ceisiadau am swydd

  • dangos darpar gyflogwyr y gallwch weithio mewn amgylchedd proffesiynol fel eu rhai nhw

  • cael geirda ar gyfer cais am swydd

Er ei fod fwyaf defnyddiol i hawlwyr ifanc, mae lleoliadau profiad gwaith yn agored i hawlwyr addas a chymwys o bob oed.

Mae profiad gwaith hefyd yn eich helpu i:

  • wella eich rhagolygon swydd

  • gweld pa sgiliau ac ymddygiadau mae cyflogwyr eu heisiau gan bobl

  • gweld sut mae eich sgiliau yn ffitio i’r gweithle

  • meithrin eich hyder

  • dangos i gyflogwr y sgiliau sydd gennych

Beth mae bod ar brofiad gwaith yn ei olygu

Bydd hyn yn amrywio. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys gweithio mewn swyddfa, warws, siop adwerthu neu fwyty. Mae lleoliadau profiad gwaith yn cael eu rhedeg gan gyflogwyr a elwir yn ‘gyflogwyr sy’n cynnal’.

Bydd y cyflogwr sy’n cynnal yn egluro eich dyletswyddau.

Gallai gynnwys pethau fel:

  • gwasanaeth cwsmeriaid

  • rheoli stoc

  • dyletswyddau gweinyddol

Bydd angen i chi fodloni’r un safonau ymddygiad â phobl eraill y byddwch yn gweithio gyda hwy, er enghraifft:

  • presenoldeb

  • cadw amser

  • hylendid personol ac ymddangosiad

  • dilyn yr holl reolau iechyd a diogelwch a roddir i chi gan y cyflogwr sy’n cynnal

Am faint o amser mae’r profiad gwaith yn para

Mae’r profiad gwaith yn para 2 i 8 wythnos. Fel arfer bydd disgwyl i chi fynychu am 25 i 30 awr yr wythnos.

Os yw’r cyflogwr sy’n cynnal yn cynnig prentisiaeth i chi (swydd â thâl gyda hyfforddiant), a’ch bod yn derbyn, gallwch wneud hyd at 4 wythnos ychwanegol o brofiad gwaith tra bod y gwaith papur ar gyfer eich prentisiaeth yn cael ei gwblhau. Byddwch yn parhau i gael budd-dal nes bydd eich prentisiaeth yn dechrau.

Pryd fyddwch yn gallu cymryd rhan

Gallwch gymryd rhan mewn lleoliadau profiad gwaith cyn gynted ag y derbynnir eich cais Credyd Cynhwysol neu JSA.

Sut i gael cyfle profiad gwaith

Efallai y darganfyddwch y cyfle eich hun neu bydd anogwr gwaith yn dod o hyd i leoliad.

Os dewch o hyd i gyfle eich hun, rhowch wybod i’ch anogwr gwaith. Gallant sicrhau bod y cyflogwr yn addas ac yn cynnig cyfle profiad gwaith o safon.

Yn dibynnu ar y cyflogwr, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais am brofiad gwaith. Gallai hyn olygu llenwi ffurflen gais neu fynychu cyfweliad anffurfiol. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ymgeisio am swydd.

Bydd eich anogwr gwaith yn gofyn i chi lofnodi ffurflen caniatâd data, fel y gallant rannu’ch gwybodaeth gyda’r cyflogwr sy’n cynnal.

Mae lleoliadau profiad gwaith yn wirfoddol

Mae penderfynu derbyn cynnig lleoliad profiad gwaith yn wirfoddol. Unwaith y byddwch wedi cytuno i fynychu’r lleoliad profiad gwaith, mae’n fuddiol i chi fynychu a chymryd rhan, ond nid yw’n rhywbeth y mae’n ofynnol i chi ei wneud.

Os penderfynwch beidio â chymryd neu gwblhau profiad gwaith, ni fydd eich budd-dal yn cael ei leihau.

Os cynigir swydd i chi, efallai y bydd angen i chi ei dderbyn

Os cynigir swydd i chi yn ystod neu’n dilyn eich profiad gwaith, mae’n debygol y bydd eich anogwr gwaith yn eich annog i’w dderbyn, a bydd angen i chi ei dderbyn fel arfer. Os bydd hyn yn digwydd ac nad ydych yn derbyn y swydd, heb reswm da, gallai eich budd-dal gael ei sancsiynu.

Efallai y bydd dal angen i chi fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith

Os bydd bod ar leoliad profiad gwaith yn eich atal rhag mynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith neu wneud pethau eraill a nodir yn eich ymrwymiad hawlydd, rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.

Beth sy’n digwydd os ydych yn cael swydd

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich anogwr gwaith os ydych yn dod o hyd i waith â thâl.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac yn dod o hyd i waith â thâl efallai y byddwch:

  • yn dal i allu hawlio Credyd Cynhwysol

  • ddim angen mynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith mwyach

Treialon Gwaith

Mae treialon gwaith yn gyfnod prawf ar gyfer swydd go iawn. Maent yn ffordd wych i chi a’r cyflogwr weld a yw’r swydd yn ffit dda, cyn i chi ddechrau.

Byddwch yn parhau i gael eich budd-dal ac ni fyddwch yn cael cyflog tra byddwch ar y treial.

Yn ystod y treial, chi yw’r unig berson sy’n cael ei ystyried ar gyfer y swydd wag. Mae hyn yn golygu bod y  swydd yno i chi os ydych chi a’r cyflogwr yn fodlon ar ôl y cyfnod prawf.

Mae’n rhaid i’r cyflogwr gael swydd wag wirioneddol maent yn bwriadu ei llenwi. Mae’n rhaid i’r swydd:

  • fod yn para am 16 awr yr wythnos neu fwy

  • disgwyl i barhau am o leiaf 13 wythnos

  • fod wedi’i leoli yn y DU

Am faint o amser mae treialon gwaith yn para

Chi sy’n penderfynu cyfnod pob treial gwaith gyda’r cyflogwr. Dylai’r cyfnod treial cychwynnol fod am ychydig ddyddiau yn unig. Os ydych chi a’r cyflogwr yn cytuno, yna gellir adolygu ac ymestyn hyn.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall treial bara hyd at 30 diwrnod gwaith, dros gyfnod o ddim mwy na 6 wythnos.

Mae treialon gwaith yn wirfoddol

Mae cymryd rhan mewn treial gwaith yn wirfoddol. Fodd bynnag, dylech fanteisio ar y cyfle hwn i oresgyn unrhyw amheuon a allai fod gennych chi neu’r cyflogwr.

Nid oes rhaid i chi dderbyn y cynnig o swydd ar ôl y treial

Mae treialon gwaith wedi’u cynllunio i’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir wrth dderbyn swydd. Os cynigir y swydd neu brentisiaeth i chi yn ystod neu ar ôl y treial gwaith, byddwch yn penderfynu a ydych am ei dderbyn ai peidio. Nid oes angen i chi ei dderbyn fel rhan o’ch cais am fudd-dal.

Rhaid i chi ddal i fodloni’r gofynion yn eich ymrwymiad hawlydd

Tra byddwch ar dreial gwaith mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion a nodir yn eich ymrwymiad hawlydd, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd gyda’ch anogwr gwaith.

Os ydych yn teimlo y bydd eich treial gwaith yn eich atal rhag gwneud y pethau a nodir yn eich ymrwymiad hawlydd, rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.

Rhaglenni Academi Gwaith yn seiliedig ar Sector (SWAPs)

Mae SWAPs yn rhoi hyfforddiant a phrofiad gwaith i chi ar gyfer diwydiannau neu feysydd gwaith penodol. Maent ar gael yn Lloegr a’r Alban.

Maent yn helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn gweithwyr newydd. Fe’u cynlluniwyd i’ch helpu i fagu hyder mewn ffordd sy’n gwella eich rhagolygon o gael swydd ac a fydd yn ychwanegu at eich CV. Ar y diwedd, byddwch naill ai’n cael cyfweliad swydd neu’n helpu gyda phroses gais y cyflogwr.

Mae cyflogwyr yn defnyddio’r cynllun SWAPs i helpu i recriwtio i sectorau swyddi gyda galw mawr am staff. Felly, bydd y math o SWAP sydd ar gael yn agos atoch yn amrywio.

Am faint o amser mae SWAPs yn para

Mae SWAPs yn para hyd at 6 wythnos.

Pryd allwch chi gymryd rhan

Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau SWAP, siaradwch â’ch anogwr gwaith. Byddant yn trafod y math o gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal leol ac os ydynt yn addas i chi.

Os ydych chi’n derbyn cynnig SWAP, rhaid i chi fynychu

Mae penderfynu derbyn cynnig SWAP yn wirfoddol. Ond unwaith y byddwch wedi cytuno i ddechrau, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau’r hyfforddiant cyn cyflogaeth a mynychu’r cyfweliad swydd gwarantedig (os cynhwysir). Bydd eich ymrwymiad hawlydd yn cael ei ddiweddaru os yw hyn yn berthnasol i chi.

Os na fyddwch yn cwblhau’r rhannau o’r SWAP y mae’n ofynnol i chi eu gwneud heb reswm da, gallai eich budd-dal gael ei sancsiynu.

Mae SWAPs hefyd yn cynnwys profiad gwaith. Nid yw hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei wneud, ond mae’n fuddiol i chi wneud hynny. Mae profiad gwaith yn amhrisiadwy ac yn caniatáu i chi a’r cyflogwr sy’n cynnal weld a ydych yn addas ar gyfer y math o waith sydd ar gael.

Ni fydd eich budd-dal yn cael ei sancsiynu os penderfynwch beidio â manteisio ar y lleoliad profiad gwaith.

Efallai y bydd angen i chi dderbyn y swydd a gynigir yn dilyn cyfweliad gwarantedig

Os cynigir swydd neu brentisiaeth i chi yn dilyn cyfweliad gwarantedig SWAP, efallai y bydd eich anogwr gwaith yn gofyn i chi ei dderbyn. Os nad ydych yn derbyn y swydd sy’n cael ei chynnig i chi, heb reswm da, gallai eich budd-dal gael ei sancsiynu.

Efallai y bydd dal angen i chi fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith

Os bydd bod ar y SWAP yn eich atal rhag mynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith neu wneud pethau eraill a nodir yn eich ymrwymiad hawlydd, rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.

Beth sy’n digwydd os ydych yn cael swydd

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn dod o hyd i waith â thâl.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac yn dod o hyd i waith â thâl efallai y byddwch:

  • yn dal i allu hawlio Credyd Cynhwysol

  • ddim angen mynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith mwyach

Cynllun Ailddechrau

Mae’r Cynllun Ailddechrau yn rhoi cymorth un-i-un rheolaidd ac wedi’i deilwra i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a’ch symud yn nes at, ac i mewn i waith. Mae ar gael yng Nghymru a Lloegr.

Fel arfer, cewch eich cyfeirio gan eich anogwr gwaith.

Pryd gallwch gymryd rhan

Fel arfer, rydych yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Ailddechrau yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • rydych wedi derbyn Credyd Cynhwysol am o leiaf 6 mis

  • rydych wedi cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm am o leiaf 6 mis

  • roeddech yn hawlio JSA Dull Newydd yn union cyn hawlio Credyd Cynhwysol, ac mae’r cyfanswm amser hawlio JSA Dull Newydd a Chredyd Cynhwysol yn ychwanegu at fwy na 6 mis

Am faint o amser mae’r Cynllun Ailddechrau’n para

Mae’r cymorth yn para hyd at 12 mis, neu hyd nes y byddwch yn dod o hyd i waith, neu hyd nes y bydd eich amgylchiadau personol yn newid.

Os byddwch yn rhoi’r gorau i hawlio Credyd Cynhwysol neu JSA, rydych yn dal yn gymwys i barhau ar y Cynllun Ailddechrau. Ond mae cymryd rhan yn y cynllun yn wirfoddol.

Beth fydd yn digwydd yn ystod y Cynllun Ailddechrau

Byddwch yn gweithio gydag anogwr gwaith eich Cynllun Ailddechrau drwy gydol eich taith yn ôl i gyflogaeth.

Bydd cyfranogwyr y Cynllun Ailddechrau yn cael:

  • asesiad sgiliau

  • cynllun gweithredu wedi’i deilwra

  • sesiynau bob pythefnos gyda gweithiwr achos

  • mynediad at amrywiaeth eang o gefnogaeth fel hyfforddiant sy’n benodol i swydd, sgiliau cyflogadwyedd ac ymarfer cyfweliad

  • cyfleoedd gwaith

Os yw’ch anogwr gwaith wedi eich cyfeirio at y Cynllun Ailddechrau, rhaid i chi fynychu

Mae’n rhaid i chi fynychu apwyntiadau anogwr gwaith am y Cynllun Ailddechrau. Unwaith y byddwch wedi dechrau’r Cynllun Ailddechrau mae’n rhaid i chi gymryd rhan ym mhob sesiwn a gweithgaredd.

Os na fyddwch yn cwblhau’r rhannau o’r Cynllun Ailddechrau mae’n ofynnol i chi eu gwneud, heb reswm da, gallai eich budd-dal gael ei sancsiynu.

Rhaid i chi ddal i fodloni’r gofynion yn eich ymrwymiad hawlydd

Tra byddwch ar y Cynllun Ailddechrau mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion a nodir yn eich ymrwymiad hawlydd, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’ch anogwr gwaith.

Os ydych chi’n teimlo y bydd cymryd rhan yn y Cynllun Ailddechrau yn eich atal rhag gwneud y pethau a nodir yn eich ymrwymiad hawlydd, rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.

Help gyda chostau

Tra rydych yn cymryd rhan mewn cynllun dychwelyd i’r gwaith, efallai y bydd angen i chi dalu am:

  • deithio i weithle gwaith y cyflogwr neu i’r man lle cynhelir yr hyfforddiant

  • gofal plant

  • dillad smart ar gyfer cyfweliadau neu i ddechrau gweithio

Efallai y gallwch gael help i dalu amdanynt os yw’r costau’n rhwystr i chi gyflawni’r nodau yn eich ymrwymiad hawlydd.

Os ydych chi’n cymryd rhan yn y cynlluniau canlynol, bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau a sut rydych yn gwneud cais:

  • hyfforddiant neu help arall i gael mwy o sgiliau

  • SWAPs

  • profiad gwaith

  • treialon gwaith

Yn ystod eich amser ar y Cynllun Ailddechrau dylai darparwr y cynllun ddarparu cyllid ar gyfer teithio, gofal plant a threuliau eraill i’ch helpu i gymryd rhan a dychwelyd i’r gwaith.

Bydd angen i chi dalu am brydau bwyd a brynir tra byddwch yn cymryd rhan mewn unrhyw gynllun dychwelyd i’r gwaith.

Sancsiynau

Mae eich ymrwymiad hawlydd yn nodi’r hyn y disgwylir i chi ei wneud i barhau i dderbyn eich budd-dal. Mae’n cynnwys beth mae angen i chi ei wneud i gadw mewn cysylltiad â’ch anogwr gwaith a’r pethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i baratoi ar gyfer gwaith a chwilio amdano.

Efallai y bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y cynlluniau yn y canllaw hwn.

Os na fyddwch yn cymryd rhan mewn cynllun cyflogaeth pan fydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych, heb reswm da, gallai’ch taliadau budd-dal gael eu lleihau. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Os gofynnir i chi adael cynllun oherwydd camymddwyn difrifol, fel dwyn, trais neu gam-drin geiriol, gallai eich taliadau budd-dal gael eu sancsiynu.

Darganfyddwch fwy am sancsiynau:

Cymorth arall i ddychwelyd i’r gwaith

Gall eich anogwr gwaith drafod cymorth lleol arall sydd ar gael drwy eich canolfan gwaith, er enghraifft:

  • Mae prentisiaethau cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd gydag astudiaeth

  • Mae Bootcamps Sgiliau yn eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt

  • Mae ReAct+ yn cynnig cymorth wedi’i deilwra os ydych dros 20 oed, wedi cael eich diswyddo ac yn byw yng Nghymru

Chwilio am swyddi a gwefannau cyngor gyrfaoedd

Skills for Careers

Mae gan Skills for Careers syniadau gyrfa a hyfforddiant y gallwch eu gwneud ar eich cyflymder eich hun.

helpswyddi

Mae gan helpswyddi  gymorth i’ch helpu i fod yn barod am swydd, cyngor ar chwilio am swyddi, help gyda CVs, ceisiadau a chymorth cyfweliad. Mae’n cynnwys dolenni i rai cynlluniau recriwtio cenedlaethol a help os ydych o dan 25 oed ac yn chwilio am waith.

Gyrfa Cymru

Mae Gyrfa Cymru yn rhestru’r gwefannau chwilio am swyddi poblogaidd yng Nghymru ac mae ganddynt gyngor ar gael swydd.

My World of Work, Yr Alban

Mae gan My World of Work  gwybodaeth a chymorth am swyddi, gyrfaoedd a hyfforddiant.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Tachwedd 2024

Print this page