Canllawiau

Credyd Cynhwysol ar gyfer personél y lluoedd arfog sy'n gwasanaethu dramor

Sut y gall personél y lluoedd arfog sy'n gwasanaethu dramor wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Cymhwysedd

Mae gan bersonél sy’n gwasanaethu a’u teuluoedd hawl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, waeth beth fo’u lleoliad. Mae hyn yn golygu y gall teuluoedd sydd wedi’u lleoli dramor gyflwyno ceisiadau yn yr un ffordd â’r rhai sydd yn y DU.

Sut i wneud cais

Nid yw’r cyfrif Credyd Cynhwysol yn derbyn ffurf cyfeiriad safonol Swyddfa Bost y Lluoedd Prydeinig (BFPO). Os ydych yn gwasanaethu ar hyn o bryd, neu’n mynd i fod yn gwasanaethu’n dramor yn fuan, rhaid i chi ddefnyddio’r ffurf cyfeiriad canlynol wrth wneud cais am Gredyd Cynhwysol:

UNED NEU GATRAWD

GWEITHREDIAD

BARICS neu GWERSYLL neu GORSAF RAF neu LONG LLYNGES (os yw’n berthnasol)

Rhif BFPO

COD POST: HA4 6NG

Bydd tîm o Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog y DWP yn cefnogi ceisiadau Credyd Cynhwysol ar gyfer personél sy’n gwasanaethu dramor. Bydd defnyddio’r cyfeiriad uchod yn sicrhau bod eich cais yn mynd i’r tîm hwn.

Mae hon yn broses dros dro wrth i ni alluogi’r cyfrif Credyd Cynhwysol i dderbyn cyfeiriadau tramor ar gyfer personél y lluoedd arfog.

Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych eisoes yn gwasanaethu dramor ac yn hawlio Credyd Cynhwysol

Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ac yn gwasanaethu dramor, dylech fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol a diweddaru eich cyfeiriad trwy roi gwybod am ‘newid mewn amgylchiadau’. Bydd hyn yn galluogi eich cais i gael ei reoli gan Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog y DWP.

Canllawiau manwl

Mae gan Defence Instruction Notice (DIN) Universal Credit - BFPO location claim process, address format (mynediad mewnol i’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn unig) ganllawiau manylach.

Gwella ceisiadau gan luoedd arfog tramor

Yn y tymor hir, byddwn yn gwella ceisiadau tramor drwy:

  • alluogi’r cyfrif Credyd Cynhwysol i dderbyn cyfeiriadau a chodau post BFPO

  • diweddaru canllawiau staff Credyd Cynhwysol i gadarnhau bod gan bersonél a theuluoedd sy’n gwasanaethu hawl i gyflwyno ceisiadau Credyd Cynhwysol pan fyddant yn gwasanaethu dramor, ac ychwanegu canllawiau penodol ar gyfer llenwi ffurflenni Credyd Cynhwysol

  • diweddaru JSP 770, yr Hysbysiad Cyfarwyddyd Amddiffyn mewnol (DIN), a thudalennau GOV.UK perthnasol pan all y cyfrif Credyd Cynhwysol dderbyn cyfeiriadau a chodau post BFPO

Cyswllt

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Ionawr 2025

Print this page