Canllawiau

Credyd Cynhwysol os ydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo

Mae angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo ac rydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gan fod Credydau Treth yn dod i ben yn fuan.

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Dylech ond darllen y canllaw hwn os ydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo

Mae yna wahanol reolau cymhwyster a chanllawiau os ydych chi’n cael llythyr Hysbysiad Ymfudo a’ch bod chi’n:  

Os nad ydych wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo, ewch i’r canllaw Credyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol ar gyfer pobl o oedran Pensiwn y Wladwriaeth sy’n gweithio

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn gweithio ac yn derbyn credydau treth.

Os ydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael llythyr Hysbysiad Trosglwyddo, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os:

  • rydych yn dal i weithio
  • rydych wedi adnewyddu eich credydau treth
  • mae gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000
  • rydych yn derbyn pensiwn

I barhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser ar eich llythyr.

Gallwch barhau i weithio heb unrhyw ‘amodau sy’n gysylltiedig â gwaith’ am 12 (cyfnod asesu](www.gov.uk/credyd-cynhwysol/sut-rydych-yn-cael-eich-talu). (Tua 12 mis) Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi:

  • gynyddu eich oriau
  • dod o hyd i waith ychwanegol
  • fynychu cyfarfodydd sy’n gysylltiedig â gwaith yn eich canolfan gwaith lleol

Budd-daliadau sy’n dod i ben

Mae’r budd-daliadau canlynol yn dod i ben ac yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol:

  • Credyd Treth Gwaith

  • Credyd Treth Plant

Bydd eich budd-daliadau yn dod i ben hyd yn oed os penderfynwch beidio â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Cymorth gyda chostau tai

Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, gallwch gael swm ychwanegol o arian i’w dalu tuag at eich costau tai, fel rhent, oni bai eich bod yn byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro. 

Darganfyddwch fwy am gostau tai a Chredyd Cynhwysol.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Tai

Os [ydych mewn llety â chymorth neu lety dros dro]](#rydych-mewn-llety-a- chymorth-neu-lety-dros-dro) bydd eich Budd-dal Tai yn parhau ac ni fydd yn dod i ben.

Rydych yn gymwys i ail hawlio Budd-dal Tai os nad ydych yn cael Credyd Cynhwysol neu’n stopio hawlio Credyd Cynhwysol.

Rydych mewn llety â chymorth neu lety dros dro

Os ydych yn byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro, bydd eich Budd-dal Tai yn parhau i gael ei dalu gan eich cyngor lleol.

Os penderfynwch beidio â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai. Fodd bynnag, bydd eich credydau treth yn dod i ben.

Gan eich bod yn cael Budd-dal Tai, ni allwch gael y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau tai.

Os ydych yn cael Budd-dal Tai ac nad ydych yn siŵr a ydych yn byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro, siaradwch gyda eich cyngor lleol.

Ail hawlio Budd-dal Tai

Oni bai eich bod yn byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro, bydd eich Budd-dal Tai yn dod i ben 2 wythnos ar ôl eich dyddiad terfyn amser. Fodd bynnag, rydych yn gymwys i ail hawlio Budd-dal Tai.

Gallwch ail hawlio Budd-dal Tai os:

  • nad ydych yn hawlio Gredyd Cynhwysol

  • rydych yn gwneud cais cyn eich dyddiad terfyn amser ond nid oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol

  • rydych yn stopio derbyn Credyd Cynhwysol. 

Gallwch gael cyngor gan eich cyngor lleol am ôl-ddyddio eich cais am Fudd-dal Tai. Dim ond am hyd at 3 mis y gellir ôl-ddyddio eich cais. 

Darganfyddwch fwy am Gymhwyster am Fudd-dal Tai.

Pryd fydd angen i chi wneud cais

Er mwyn parhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser a roddir yn eich llythyr.

Os nad ydych yn  gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser, dylech gysylltu â’r llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl.

Efallai y byddwch yn gallu cael mwy o amser i chi wneud cais os oes gennych reswm da. Mae’n rhaid i chi ofyn am hyn cyn y terfyn amser ar eich llythyr.

Diogelwch trosiannol

Gan fod eich budd-daliadau yn dod i ben a bod angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol mae rhai o’r rheolau cymhwysedd arferol ar gyfer gwneud cais yn wahanol. Gelwir hyn yn ‘ddiogelwch trosiannol’.

I gael diogelwch trosiannol rhaid i chi wneud cais erbyn y terfyn amser.

Ni fyddwch yn cael diogelwch trosiannol os ydych yn gwneud cais cyn i chi gael llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.

Taliadau ychwanegol diogelwch trosiannol

Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo ar eich budd-daliadau presennol yn fwy nag y byddwch yn ei gael ar Gredyd Cynhwysol, mae ychwanegiad ar gael. 

Os oes gennych ddyled o’ch budd-daliadau presennol, bydd hyn yn cael ei adennill pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol a’i ddidynnu o’ch swm o Gredyd Cynhwysol. Gweler beth fyddwch yn ei gael am fwy am ddidyniadau.

Nid oes angen i chi wneud cais am ddiogelwch trosiannol. Bydd yn cael ei dalu i chi yn awtomatig os ydych yn cael Hysbysiad Trosglwyddo ac yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser.

Arian, cynilion a buddsoddiadau

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau dros £16,000 am 12 cyfnod asesu.

Ar ôl hyn, ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych dal fwy na £16,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau.

Os ydych yn gwneud cais ar ôl y terfyn amser a bod gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Newid mewn amgylchiadau

Os oes gennych newid mewn amgylchiadau, fel rhoi’r gorau i weithio cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, efallai na fyddwch yn gymwys i gael diogelwch trosiannol.

Os oes gennych gynnydd dros dro mewn enillion, gallai hyn ddod â’ch hawl i Gredyd Cynhwysol i ben. Os bydd eich enillion yn lleihau eto o fewn y 3 mis nesaf, ac nad oes unrhyw amgylchiadau eraill yn newid, gallwch ail hawlio Credyd Cynhwysol eto.

Gwneud cais am Gredyd Pensiwn yn hytrach na Chredyd Cynhwysol

Os byddwch yn dewis gwneud cais am Gredyd Pensiwn yn hytrach na Chredyd Cynhwysol, ni fyddwch yn cael diogelwch trosiannol ac efallai y byddwch yn derbyn llai o gymorth ariannol.

Os byddwch wedyn yn penderfynu tynnu’ch cais am Gredyd Pensiwn yn ôl a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser, byddwch yn dal yn gymwys i gael diogelwch trosiannol.

Unwaith y derbynnir cais am Gredyd Pensiwn, mae’r opsiwn i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar gau.

Darganfyddwch fwy am Gredyd Pensiwn. Gallwch hefyd ddefnyddio’r Cyfrifiannell Credyd Pensiwn i weithio allan faint y gallech ei gael.

Beth fyddwch chi’n ei gael

Ar Gredyd Cynhwysol, bydd gan y rhan fwyaf o bobl hawl i’r un swm a gawsant o’u budd-daliadau blaenorol, neu fwy. Os bydd eich amgylchiadau’n newid cyn i chi wneud eich cais, gallai hyn effeithio ar y swm a gewch.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi, er enghraifft os:

  • mae gennych blant
  • mae gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio
  • rydych angen help i dalu eich rhent

Darganfyddwch fwy am beth fyddwch chi’n ei gael.

Cyfrifianellau budd-daliadau

Gallwch ddefnyddio gyfrifiannell budd-daliadau annibynnol am ddim a dienw i amcangyfrif faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Mae cyfrifianellau budd-daliadau yn rhoi amcangyfrifon, felly efallai na fyddant yn gywir.

Mae cyfrifianellau entitledto a Policy in Practice Better Off yn:

  • cyfrifo diogelwch trosiannol (taliadau atodol) sydd ar gael
  • cymryd i ystyriaeth os ydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • gallu cael eu defnyddio os ydych yn derbyn credydau treth a bod gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o £16,000 neu fwy

Nid yw cyfrifiadau yn cynnwys unrhyw ddidyniadau y gellir eu cymryd o’ch swm Credyd Cynhwysol.

Nid yw DWP yn gyfrifol am wybodaeth a roddir gan y cyfrifianellau

Tynnu’r cap ar fudd-daliadau

Mae’r cap ar fudd-daliadau fel arfer yn cael ei gymhwyso i Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill. Mae hyn yn derfyn ar gyfanswm y budd-dal y gallwch ei gael. Fodd bynnag, ni fydd y cap ar fudd-daliadau yn berthnasol os:

  • rydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • rydych yn dal i weithio
  • rydych yn derbyn Hysbysiad Trosglwyddo

Sut mae eich Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo

Cyfrifir Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich amgylchiadau bob mis. Gelwir y rhain yn ‘gyfnodau asesu’. Mae hyn yn wahanol i gredydau treth oedd yn cael eu cyfrifo’n flynyddol.

Enillion

Bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar eich enillion. Mae hyn yn cynnwys incwm o

Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am y cyfnod asesu cyfan - nid o’r dyddiad y byddwch yn rhoi gwybod amdanynt.

Darganfyddwch sut mae eich cyflog yn effeithio eich taliadau.

Didyniadau

Gellir cymryd arian o’ch taliadau Credyd Cynhwysol i dalu am bethau fel:

  • dirwyon llys
  • ôl-ddyledion rhent
  • gordaliadau neu ôl-ddyledion o gredydau treth, Treth Cyngor, Budd-dal Tai, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
  • dyledion cyfleustodau, fel trydan, nwy, dŵr

Ni ellir didynnu arian o bethau fel eich lwfans plant, gofal plant a chostau tai.

Darganfyddwch fwy am arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn hawlio pensiwn 

Gallwch barhau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn eich pensiwn. Fodd bynnag, bydd swm y pensiwn a gewch yn cael ei ddidynnu o’ch swm Credyd Cynhwysol a’i drin fel incwm.

Os ydych wedi oedi (‘gohirio’) eich Pensiwn y Wladwriaeth 

Os ydych wedi oedi cymryd eich pensiwn cyn i chi dderbyn eich Hysbysiad Trosglwyddo, ni fyddwn yn trin eich pensiwn gohiriedig fel incwm am 12 cyfnod asesu.

Os byddwch wedyn yn penderfynu cymryd eich pensiwn o fewn y cyfnod hwn, caiff ei drin fel incwm.

Ar ôl 12 cyfnod asesu, mae swm y pensiwn y mae gennych hawl iddo yn cael ei gyfrif fel incwm, hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â’i gymryd. Gelwir hyn yn incwm ‘tybiannol’. Gall hyn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Unwaith y byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol, ni fyddwch yn gallu parhau i gronni unrhyw: 

  • Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol
  • cyfandaliad Pensiwn y Wladwriaeth (os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016)

Beth fyddwch yn ei gael os ydych yn byw gyda’ch partner

Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm a chynilion eich partner, yn ogystal â’ch un chi.

Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch hefyd wneud cais yn y Gymraeg.

Mae angen i chi greu cyfrif i wneud cais. Mae’n rhaid i chi gwblhau eich cais o fewn 28 diwrnod o greu eich cyfrif neu bydd yn rhaid i chi ddechrau eto.

Pan fyddwch chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd eich budd-daliadau presennol sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol yn dod i ben. Ni allwch fynd yn ôl i’r budd-daliadau hynny, oherwydd eu bod yn dod i ben.

Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch linell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol.

Cyplau sy’n byw gyda’i gilydd

Mae Credyd Cynhwysol yn cyfrif 2 berson fel cwpl os ydynt yn byw yn yr un cartref ac yn:

  • briod â’i gilydd
  • partneriaid sifil ei gilydd
  • byw gyda’i gilydd fel pe baent yn briod

Os ydych yn byw gyda’ch partner mae’n rhaid i chi wneud cais ar y cyd, hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Ni allwch wneud cais ar eich pen eich hun.

Rhaid i’r ddau ohonoch greu cyfrifon Credyd Cynhwysol ar-lein. Bydd y person cyntaf i greu eu cyfrif yn derbyn cod cysylltu partner. Mae angen i chi roi’r cod hwn i’ch partner ei ddefnyddio pan fyddant yn creu eu cyfrif ar-lein. Mae hyn yn cysylltu’r cyfrifon â’i gilydd i wneud eich cyfrif ar y cyd.

Unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrif gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Cyplau sy’n byw ar wahân

Os ydych chi mewn cwpl sy’n byw ar wahân a bod y ddau ohonoch yn cael Hysbysiadau Ymfudo, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud hawliadau unigol ar wahân. Ni allwch hawlio gyda’ch gilydd.

Gan eich bod wedi derbyn Hysbysiad Ymfudo ac yn symud o gredydau treth, bydd gennych hawl i hawlio hyd yn oed os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000.

Ni fyddwch yn gymwys i gael y taliad atodol diogelwch trosiannol.

Penodai 

Os oes gennych benodai sy’n gyfrifol am wneud a chynnal eich ceisiadau budd-dal, bydd eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn cael ei anfon yn uniongyrchol iddynt hwy. Bydd angen iddynt wneud y cais Credyd Cynhwysol ar eich rhan.

Beth fyddwch ei angen i wneud cais

I wneud cais ar-lein, byddwch angen:

  • manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
  • cyfeiriad e-bost
  • mynediad i ffôn

I brofi pwy ydych chi, byddwch angen rhai dogfennau fel eich:

  • trwydded yrru
  • pasbort
  • cerdyn debyd neu gredyd
  • slip cyflog neu P60

I gwblhau eich cais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am:

  • eich tai, er enghraifft faint o rent rydych yn ei dalu
  • eich enillion, er enghraifft slipiau cyflog
  • unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gwaith
  • faint rydych yn ei dalu am ofal plant os ydych eisiau help gyda chostau gofal plant
  • eich cynilion ac unrhyw fuddsoddiadau, fel cyfranddaliadau neu eiddo rydych yn ei rentu allan

Efallai y byddwch angen apwyntiad gyda’r tîm Credyd Cynhwysol os:

  • maent angen mwy o wybodaeth
  • ni allwch ddilysu eich hunaniaeth ar-lein

Byddwch yn cael gwybod a fydd yr apwyntiad hwn mewn canolfan gwaith neu dros y ffôn.

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein

Camau i gael Credyd Cynhwysol

  1. Sefydlu cyfrif Credyd Cynhwysol Ar-lein.

  2. Cwblhau a chyflwyno cais ar-lein.

  3. Profi eich hunaniaeth.

  4. Darparu dogfennau a thystiolaeth i gefnogi’ch cais.

  5. Cytuno ar y gweithgareddau yn eich ymrwymiad hawlydd.

Pan fyddwch yn profi pwy ydych byddwn yn gwybod eich bod wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo a bydd eich gwybodaeth yn cael ei chysylltu’n awtomatig.

Dechrau nawr

Os ydych angen help i wneud cais, gallwch gael cymorth am ddim gan wasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth:

Sut rydych yn cael eich talu

Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu unwaith y mis, fel arfer i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Os nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch y llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol i drefnu ffordd wahanol o gael eich talu.

Gall eich taliad gynnwys swm ar gyfer costau tai, y bydd angen i chi ei dalu i’ch landlord fel arfer. Os oedd costau tai yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch landlord, bydd angen i chi drafod y newid trefniadau talu gyda nhw.

Taliadau terfynol ar gyfer budd-daliadau presennol

Mae dyddiad eich taliadau terfynol o’ch budd-daliadau presennol yn dibynnu ar ba un bynnag sydd gyntaf:

  • y terfyn amser ar eich llythyr
  • pa bryd y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os oes unrhyw daliadau pellach yn ddyledus, byddant yn cael eu gwneud yn fuan ar ôl i’ch hawl ddod i ben.

Symud o gredydau treth

Os ydych yn hawlio credydau treth, bydd eich hawl yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os na fyddwch yn gwneud cais erbyn y terfyn amser, bydd eich hawl i Gredyd Treth yn dod i ben ar y diwrnod cyn y terfyn amser.

Symud o Fudd-dal Tai

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol wedi’i dalu am 2 wythnos arall. Mae’n rhaid i chi ddal i fod yn gymwys am eich budd-dal presennol. Ni fydd angen i chi ad-dalu’r taliadau ychwanegol hyn ac ni fyddant yn effeithio ar y Credyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Os na fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser, eich diwrnod olaf o hawl i’ch budd-daliadau presennol fydd 2 wythnos ar ôl y terfyn amser.

Os ydych yn derbyn credydau treth a Budd-dal Tai, bydd eich credydau treth yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn gwneud cais, neu’r diwrnod cyn eich dyddiad terfyn amser (pa bynnag un sydd gyntaf). Bydd eich Budd-dal Tai yn parhau am 2 wythnos.

Help wrth aros am eich taliad cyntaf

Mae eich cais yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno yn eich cyfrif, ond fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf.

Os ydych angen help gyda’ch costau byw wrth i chi aros am eich taliad cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw o fewn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Bydd angen i chi ad-dalu eich taliadau ymlaen llaw mewn rhandaliadau o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Darganfyddwch fwy am sut rydych yn cael eich talu gan gynnwys dyddiadau talu, os ydych yn byw gyda phartner, a threfniadau talu amgen.

Eich cyfrifoldebau

Pan fyddwch wedi gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi reoli eich cyllid eich hun a chynnal eich cais ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:

  • diweddaru eich cyfrif
  • mynychu apwyntiadau yn y ganolfan gwaith, os yw’n briodol
  • rheoli eich rhent eich hun a chostau tai eraill, oni bai bod gennych drefniant talu arall mewn lle
  • rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau
  • os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi roi gwybod am eich enillion bob mis

I gael taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi dderbyn cytundeb o’r enw ‘ymrwymiad hawlydd’. Bydd yr hyn y bydd angen i chi ymrwymo iddo yn dibynnu ar eich oedran a’ch amgylchiadau. Darganfyddwch fwy am ymrwymiadau hawlydd.

Os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig, ni fydd disgwyl i chi chwilio am waith yn ystod eich 12 cyfnod asesu cyntaf.

Newidiadau mewn amgylchiadau mae’n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn parhau i gael y swm cywir bob mis.

Gallai newidiadau gynnwys:

  • newid eich manylion banc
  • newidiadau i waith ac arian, fel enillion, incwm o bensiwn, swyddi, rhent a chynilion
  • newid i’ch iechyd
  • newidiadau i’ch cartref, gan gynnwys plant, gofal, partner a statws mewnfudo

Darganfyddwch fwy am newidiadau mewn amgylchiadau y mae’n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt.

Gallech gael eich cymryd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Amodau sy’n gysylltiedig â gwaith ac asesiadau

Pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol, am 12 cyfnod asesu, gallwch weithio ac nid oes gennych unrhyw amodau na gofynion.

Fodd bynnag, os ydych yn hunangyflogedig ac yn symud i Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi ddatgan eich enillion bob mis.

Ar ôl 12 cyfnod asesu

Os byddwch yn penderfynu aros ar Gredyd Cynhwysol ar ôl 12 cyfnod asesu a pharhau i weithio, bydd isafswm trothwy enillion (MET) yn berthnasol i’ch enillion.

O’r pwynt hwn, byddwn yn edrych ar eich enillion am y 3 mis diwethaf i weld a wnaethant ostwng o dan y MET. Ar unrhyw adeg yn ystod eich cais, os bydd eich enillion yn gostwng o dan y MET am 3 mis yn olynol, bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei gau. 

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n golygu eich bod yn cael budd-dal anabledd, efallai y bydd gennych hawl i swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol. Ni fydd angen i chi ddarparu nodyn ffitrwydd na chael Asesiad Gallu i Weithio (WCA).

Os nad ydych yn cael budd-dal anabledd, bydd angen i chi ddarparu nodyn ffitrwydd neu fod â WCA i fod â hawl i swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol.

Cymorth

Llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol 

Ffôn: 0800 169 0328  

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae rhifau ffôn 0800 yn rhad ac am ddim i’w ffonio o ffonau symudol a llinellau daear.

Os na allwch siarad neu glywed dros y ffôn

Defnyddiwch ein gwasanaeth Relay UK i wneud galwad am ddim, a gefnogir gan destun i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo Credyd Cynhwysol. Deialwch 18001 ac yna 0800 169 0328.

Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Defnyddiwch ein gwasanaeth ‘video relay’ i wneud galwad wedi’i ddehongli gan BSL i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo.

Os ydych ar gyfrifiadur, ewch i’r gwasanaeth ‘video relay’

  1. dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’

  2. dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’.

Os ydych ar ffôn symudol neu dabled, defnyddiwch yr ap InterpretersLive!.

O’r ap:

  1. dewiswch ‘Directory’, chwiliwch am ‘Universal Credit’

  2. dewiswch ‘Universal Credit - I have a Migration Notice letter’

  3. dewiswch ‘Call Now’, dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’

  4. dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’

  5. dewiswch ‘Connect Now’.

Os ydych angen help, edrychwch ar fideo YouTube

Help a chymorth ariannol arall

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol eraill. Dylech wirio beth allwch chi ei gael

Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gwahanol yn yr Alban.

Os ydych mewn anawsterau ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol, a sefydliadau eraill, fel advicelocal.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 August 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 October 2024 + show all updates
  1. Added details of the Migration Notice Helpline video relay service for British Sign Language users. Added information about appointees in the ‘How to claim Universal Credit’ section. Added 'If you live in Wales, you can also claim in Welsh.' If you live in temporary or supported housing, your Housing Benefit will continue to be paid by your local council, even if you decide not to claim Universal Credit.

  2. Added a link to the new page on how money, savings and investments affect Universal Credit.

  3. Added translation

  4. Added guidance on how to claim and what transitional protection you're eligible for, if you're in a couple who live apart and you both get Migration Notice letters.

  5. Content added to confirm that if you're state pension age and getting a disability benefit, you will not need to provide a fit note or have a Work Capability Assessment (WCA) when you move to Universal Credit.

  6. First published.

Sign up for emails or print this page