Canllawiau

Credyd Cynhwysol: arian, cynilion a buddsoddiadau

Sut mae arian a buddsoddiadau yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol. Rydym yn galw hyn yn 'cyfalaf'.

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Beth rydym yn ei ystyried

Pan fyddwn yn asesu eich hawl i Gredyd Cynhwysol, rydym yn ystyried fel ‘cyfalaf’ gwerth yr holl arian, cynilion a buddsoddiadau rydych yn berchen arnynt, neu rydych yn berchen ar y cyd â rhywun arall.

Gall faint o arian, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych chi (a’ch partner) effeithio ar:

  • p’un ag ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol

  • faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei dderbyn

Mae’r holl arian, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych yn y DU a thramor yn cael eu hystyried, gan gynnwys:

  • arian parod

  • arian yn eich cyfrif banc, gan gynnwys eich prif gyfrif banc

  • cyfrifon cyfredol a chyfrifon digidol yn unig fel PayPal

  • cyfrifon cynilo: cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu, undeb credyd, Help i Gynilo, cyfrifon Swyddfa’r Post a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)

  • cynilion i blant yn eich enw chi

  • arian sy’n eiddo i rywun arall, ond sydd yn eich enw chi

  • cynilion ar gyfer gwaith adeiladu hanfodol (oni bai eu bod o grant neu fenthyciad)

  • cynilion ar gyfer gofal meddygol

  • Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs): arian parod, cyfranddaliadau, Cyllid Arloesi, Cymorth i Brynu, ac ISAs Gydol Oes

  • Bondiau Premiwm, difidendau a chyfranddaliadau

  • asedau cryptoa

  • eiddo rydych yn berchen arno ond ddim yn byw yno eich hun (ar wahân i amgylchiadau penodol)

  • eiddo, tir a chynilion tramor

  • taliadau etifeddiaeth

  • cyfrifon busnes ac asedau ar gyfer busnesau a gaeodd dros 6 mis yn ôl

  • arian mewn cronfeydd ymddiriedolaeth, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau

  • budd-daliadau heb eu gwario, er enghraifft Budd-dal Plant, Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)

  • incwm heb ei wario

Nid ydym yn ystyried eich dyled pan fyddwn yn cyfrifo cyfanswm eich arian, cynilion a buddsoddiadau.

Os ydych yn byw gyda’ch partner

Mae eich arian, cynilion a buddsoddiadau cyfun yn cael eu hystyried hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. 

Beth sydd ddim yn cael ei gyfrif fel arian, cynilion a buddsoddiadau

Nid yw eich eiddo personol yn cael eu hystyried.

Efallai na fydd rhai mathau o arian, cynilion, buddsoddiadau neu asedau eraill yn effeithio ar eich cais am Gredyd Cynhwysol. Mae angen i chi barhau i ddweud wrthym am y rhain fel y gallwn benderfynu a ddylid eu tynnu oddi ar eich arian, cynilion a buddsoddiadau cyffredinol.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am:

Nid oes angen i chi ddweud wrthym am:

  • bolisïau yswiriant bywyd sydd heb dalu allan

  • contractau cynllun angladd

  • cynilion neu fuddsoddiadau sy’n perthyn i’ch plant yn enw eich plant. Darllenwch fwy am Credyd Cynhwysol a chynilion plant

  • cyfrifon busnes ac asedau ar gyfer busnesau sy’n dal i weithredu neu sydd wedi cau yn ystod y 6 mis diwethaf

Incwm

Mae eich incwm yn cael ei gyfrif fel cynilion os nad yw wedi’i wario erbyn diwedd y cyfnod asesu ar ôl yr un y cafodd ei dderbyn ynddo.

Enghraifft

Mae cyfnod asesu Katie ar gyfer Credyd Cynhwysol yn rhedeg o’r 8fed o’r mis i’r 7fed o’r mis nesaf. 

Cafodd Katie gyflog o £2,000 ar 1 Ebrill. Roedd hyn o fewn ei chyfnod asesu rhwng 8 Mawrth a 7 Ebrill. 

Erbyn diwedd ei chyfnod asesu nesaf (8 Ebrill i 7 Mai), mae hi wedi gwario £1,500 o’r incwm hwn. 

Ar gyfer y cyfnod asesu nesaf (8 Mai i 7 Mehefin) dylai adrodd am y £500 a gynilwyd fel rhan o’i chynilion.

Mae ad-daliadau treth ac ad-daliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu cyfrif fel incwm.

Eiddo

Eiddo rydych yn berchen arno ac yn byw ynddo

Nid yw gwerth yr eiddo rydych yn berchen arno ac yn byw ynddo yn cael ei ystyried wrth asesu eich Credyd Cynhwysol.

Cronfeydd o werthu eich cartref

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am arian o werthu’ch cartref, hyd yn oed os ydych yn bwriadu ei ddefnyddio i brynu cartref arall i chi’ch hun. Ni fyddwn yn ystyried yr arian hwn am 6 mis. Gellir ymestyn hyn o dan amgylchiadau arbennig.

Grantiau neu fenthyciadau i atgyweirio neu newid eich cartref

Nid yw grantiau neu fenthyciadau ar gyfer atgyweiriadau neu addasiadau hanfodol i’ch prif gartref yn cael eu hystyried am 6 mis. Gellir ymestyn hyn os bydd y gwaith atgyweirio neu’r newidiadau yn cymryd mwy na 6 mis.

Eiddo rydych yn berchen arno, ond nid ydych yn byw ynddo

Mae eiddo yn eich enw nad ydych yn byw ynddo yn cael ei ystyried oni bai ei fod yn brif gartref i:

  • berthynas agos sydd wedi ymddeol neu sydd â chyflwr iechyd difrifol

  • cyn-bartner sy’n rhiant unigol

Rydym angen gwybod am werth unrhyw eiddo y mae gennych ddiddordeb ariannol ynddo, er enghraifft:

  • tai gwyliau

  • carafannau

  • tir

  • eiddo rydych yn ei osod allan

  • eiddo mae rhywun arall yn byw ynddo, lle mae eich enw wedi’i ychwanegu at y morgais

Er enghraifft, os ydych wedi cael eich ychwanegu at y morgais ar gyfer y cartref y mae eich chwaer yn byw ynddo, mae’r cartref hwn yn eich enw chi a bydd angen ei ddatgan.

Eiddo busnes

Nid yw eiddo rydych yn berchen arno i gynnal masnach, fel gwesty neu wely a brecwast, yn cael ei ystyried ar gyfer Gredyd Cynhwysol.

Terfynau arian, cynilion a buddsoddiadau

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel arfer mae’n rhaid i chi beidio â bod gyda mwy na £16,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau fel hawlydd sengl neu os ydych yn byw gyda phartner.

Os oes gennych lai na £6,000, ni fydd yn effeithio ar eich dyfarniad.

Mae rheolau cymhwysedd arian, cynilion a buddsoddiadau gwahanol os ydych chi wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo ac wedi cael cais i symud i Gredyd Cynhwysol.

Os oes gennych rhwng £6,000 a £16,000

Os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau rhwng £6,000 a £16,000 bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau.

Bydd eich taliadau yn cael eu gostwng £4.35 am bob £250 sydd gennych rhwng £6,000 a £16,000.

Bydd £4.35 arall yn cael ei dynnu am unrhyw swm sy’n weddill nad yw’n £250 cyflawn.

Enghreifftiau

Mae gan Sam gynilion o £6,300. 
Mae ganddi £300 o gynilion dros y terfyn o £6,000. 
Mae ei Chredyd Cynhwysol yn cael ei leihau 2 x £4.35 y mis, sef £8.70.

Mae gan Leeroy gynilion o £14,500. 
Mae ganddo £8,500 o gynilion dros y terfyn o £6,000. 
Mae ei Gredyd Cynhwysol yn cael ei leihau 34 x £4.35 y mis, sef £147.90.

Mae gan Helen gynilion o £17,000. 
Nid yw hi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Cynilion plant

Nid yw arian, cynilion a buddsoddiadau sy’n perthyn i’ch plant, ac sydd yn eu henw nhw, yn cael eu hystyried wrth asesu eich Credyd Cynhwysol. Er enghraifft, nid oes angen i chi ddweud wrthym am gyfrifon cynilo plant yn eu henw nhw fel ISAs Iau a Chronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

Sut i ddweud wrthym am eich arian, cynilion a buddsoddiadau

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gofynnir i chi ddweud wrthym am yr holl arian, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych pan fyddwch yn gwneud eich cais. Os nad yw math wedi’i restru, er enghraifft tystysgrifau Cynilo Cenedlaethol, gallwch roi gwybod i ni gan ddefnyddio’r opsiwn ‘cynilion a buddsoddiadau eraill’.

Rhoi gwybod am newidiadau i’ch arian, cynilion a buddsoddiadau

Rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i’ch arian, cynilion a buddsoddiadau cyn gynted ag y byddant yn digwydd. Gwnewch hyn drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol, ‘rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau’ a diweddaru eich ‘arian, cynilion a buddsoddiadau’.

Os byddwch yn dweud wrthym yn hwyr neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid, gallech gael gormod o Gredyd Cynhwysol. Gelwir hyn yn ordaliad. Byddwch yn cael llai o Gredyd Cynhwysol bob mis hyd nes y byddwch yn ad-dalu’r gordaliad.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newid yn eich arian, cynilion a buddsoddiadau neu eu gwerth. Gall hyn gynnwys:

  • taliadau etifeddiaeth

  • tâl diswyddo

  • cyfandaliadau pensiwn ac yswiriant bywyd

  • taliadau iawndal

  • setliadau ysgariad

  • newid yng ngwerth buddsoddiadau neu asedau eraill

Cyplau a newidiadau mewn amgylchiadau

Os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner

Yn eich cyfrif mae angen i chi ‘roi gwybod am newid mewn amgylchiadau’ a diweddaru eich manylion ‘byw gyda phartner’. Yna dylech roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau mewn ‘arian, cynilion a buddsoddiadau’.

Os yydych nawr yn rhan o gwpl sy’n byw gyda’i gilydd

Yn eich cyfrif mae angen i chi ‘roi gwybod am newid mewn amgylchiadau’ a diweddaru eich manylion ‘byw gyda phartner’.

Lleihau eich arian, cynilion a buddsoddiadau ar bwrpas

Os ydych yn fwriadol yn lleihau eich arian, cynilion a buddsoddiadau, neu’n eu trosglwyddo i rywle arall i gael neu gynyddu eich Credyd Cynhwysol, gelwir hyn yn ‘amddifadu cyfalaf’.

Nid ydych wedi lleihau eich arian, cynilion a buddsoddiadau yn fwriadol os yw wedi cael ei ddefnyddio i:

  • dalu neu leihau dyled

  • talu am nwyddau a gwasanaethau a oedd yn rhesymol o dan eich amgylchiadau

Os penderfynwn eich bod wedi lleihau eich arian, cynilion neu fuddsoddiadau yn fwriadol, bydd eich Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar pe byddech yn dal gydag ef. Gelwir hyn yn ‘gyfalaf tybiannol’.

Twyll

Efallai y cewch eich erlyn neu bydd angen i chi dalu cosb os ydych yn ceisio effeithio ar eich dyfarniad Credyd Cynhwysol drwy:

  • leihau eich arian, cynilion neu fuddsoddiadau yn fwriadol

  • rhoi gwybodaeth ffug yn fwriadol am eich arian, cynilion neu fuddsoddiadau

Taliadau iawndal a chymorth lles

Nid yw rhai taliadau iawndal a chymorth lles yn cael eu hystyried fel cynilion naill ai am gyfnod amhenodol neu hyd at 12 mis.

Byddwn angen gwybod manylion am daliadau iawndal a lles rydych wedi’u derbyn.

Iawndal salwch ac anaf personol

Ni chymerir taliadau iawndal salwch ac anaf personol i ystyriaeth am y 12 mis cyntaf ar ôl i chi eu derbyn.

Ar ôl 12 mis, dim ond taliadau anaf personol neu salwch sy’n cael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth neu a ddefnyddir i brynu blwydd-dal sydd ddim yn cael eu hystyried.

Cynlluniau iawndal arbennig

Nid yw taliadau o’r cynlluniau iawndal arbennig canlynol yn cael eu cyfrif fel arian, cynilion neu fuddsoddiadau:

  • Cynllun Ymddiriedolaeth Ymfudwyr Plant ar gyfer cyn-fewnfudwyr plant o Brydain

  • Tân Tŵr Grenfell ar 14 Mehefin 2017

  • System TG Horizon neu Bates and Others v Post Office Ltd gan Swyddfa’r Post neu’r ysgrifennydd gwladol

  • carcharu, llafur dan orfod, anaf, colli eiddo, neu golli plentyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd

  • cynlluniau iawndal gwaed heintiedig: Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Lloegr, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru, Infected Blood Payment Scheme for Northern Ireland, Macfarlane Trust, Eileen Trust, MFET Ltd, Skipton Fund, Caxton Foundation

  • Cam-drin Plant Sefydliadol yn y DU

  • Bomio Llundain ar 7 Gorffennaf 2005

  • Bomio Manceinion ar 22 Mai 2017

  • Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol

  • ymosodiadau terfysgol yn Llundain ar 22 Mawrth 2017 neu 3 Mehefin 2017

  • Cynllun Talu Difrod Brechlyn

  • diagnosis amrywiolyn Clefyd Creutzfeldt-Jacob (vCJD)

  • Dioddefwyr Cynllun Iawndal Terfysgaeth Dramor

  • Croes Fictoria neu Croes Sior

  • Cynllun Iawndal Windrush

Nid yw’r rhestr hon o gynlluniau iawndal arbennig yn gynhwysfawr.

Taliadau cymorth lles

Nid yw’r taliadau cymorth lles canlynol yn cael eu cyfrif fel arian, cynilion neu fuddsoddiadau am hyd at 12 mis ar ôl i chi eu derbyn:

  • taliadau ôl-daliadau budd-daliadau, gyda neu heb iawndal am daliad hwyr

  • Taliadau Cymorth Profedigaeth (Lwfans Rhiant Gweddw yn gynt)

  • taliadau lles cynghorau lleol o dan y Ddeddf Plant, y Ddeddf Gwaith Cymdeithasol neu Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

  • Taliadau’r Gronfa Gymdeithasol, o dan y Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau

Nid yw’r taliadau cymorth lles yr Alban canlynol yn cael eu cyfrif fel arian, cynilion neu fuddsoddiadau am hyd at 12 mis ar ôl i chi eu derbyn:

  • Cymorth i Ofalwyr (Grantiau Gofalwyr Ifanc)

  • Cymorth Blynyddoedd Cynnar

  • Cymorth Costau Angladd

  • Cymorth Gwresogi Gaeaf

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 September 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 October 2024 + show all updates
  1. Added 'infected blood compensation schemes' to the list of special compensation schemes that are not counted as money, savings or investments.

  2. First published.

Sign up for emails or print this page