Canllawiau

Taliadau Caledi Adenilladwy Credyd Cynhwysol (RHPs)

Os yw eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau oherwydd sancsiwn neu gosb am dwyll, gallwch wneud cais am daliad caledi i helpu i gwrdd â’ch anghenion hanfodol sylfaenol uniongyrchol.

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Bydd angen i chi ad-dalu taliad caledi unwaith y bydd eich sancsiwn neu gosb twyll wedi dod i ben.

Cymhwysedd

I fod yn gymwys i gael taliad caledi, rhaid i chi fodloni’r holl o’r canlynol:

  • rydych wedi cael eich sancsiynu ac wedi cael eich taliad Credyd Cynhwysol wedi leihau ar 100% o’ch lwfans safonol (50% neu fwy os ydych mewn cwpl)

  • rydych yn 18 oed neu drosodd os bydd eich taliad yn cael ei leihau oherwydd sancsiwn, neu’n 16 oed neu drosodd os bydd eich taliad yn cael ei leihau oherwydd cosb twyll

  • rydych yn cael trafferth diwallu eich anghenion sylfaenol uniongyrchol, neu anghenion plentyn neu berson ifanc rydych yn gyfrifol amdanynt

  • rydych wedi edrych ar bob ffynhonnell gymorth amgen bosibl 

  • rydych wedi cymryd pob cam rhesymol i leihau costau sydd ddim yn hanfodol

Anghenion hanfodol uniongyrchol yw:

I wneud cais am daliad caledi, rhaid i chi allu profi na allwch ddiwallu’r anghenion hyn.

Rhaid i hawlydd sengl neu ddau aelod o gwpl sydd wedi cael sancsiwn fod wedi cwrdd â: 

  • eu holl ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn y 7 diwrnod cyn iddynt wneud cais am y taliad caledi

  • yr ‘amod cydymffurfio’ am unrhyw gosb ‘lefel isel’ - yr hyn y gofynnwyd iddynt ei wneud i ddod â chosb i ben heb ddyddiad gorffen

Gallwch wneud cais os gostyngwyd eich taliad diweddaraf ar 100% (neu 50% neu fwy ar gyfer cwpl) o’ch lwfans safonol am ddim ond rhan o’ch cyfnod asesu diwethaf.

Er enghraifft, os cafodd eich taliad olaf ei leihau am 20 diwrnod yn unig, yn hytrach nag am fis cyfan, gallwch barhau i wneud cais am daliad caledi ar yr adeg na allwch gwrdd â’ch anghenion hanfodol sylfaenol uniongyrchol.  

Pan na allwch gael taliad caledi

Fel arfer, ni allwch gael taliad caledi os ydych ond yn brin o arian neu os oes angen i chi dalu am gost frys.

Nid ydych yn gymwys i gael taliad caledi os yw eich Credyd Cynhwysol yn cael ei sancsiynu ar y gyfradd is. Y gyfradd is yw 40% o’ch lwfans safonol dyddiol, neu 20% o’ch lwfans safonol dyddiol os ydych mewn cwpl.

Faint allech chi ei gael

Rydym yn cyfrifo cyfradd ddyddiol ar gyfer eich taliad caledi. Mae hyn yn 60% o gyfanswm eich sancsiwn. Swm y taliad caledi y gallwch ei gael yw’r gyfradd ddyddiol wedi’i lluosi gan nifer y diwrnodau y mae’r sancsiwn yn para. 

Dim ond un taliad caledi y gallwch ei gael ym mhob cyfnod asesu.

Enghraifft: 

Mae Geoff yn hawlydd sengl dros 25 oed. 

Ar 1 Mai, mae Geoff yn cael sancsiwn. 

Gan fod Geoff yn hawlydd sengl dros 25 oed, cafodd ei daliad Credyd Cynhwysol diweddaraf ei ostwng £10.40 y dydd oherwydd y sancsiwn hwn. 

Gostyngwyd ei Gredyd Cynhwysol gan gyfanswm o £312 (30 diwrnod ar £10.40 y diwrnod). 

Mae’n gwneud cais am daliad caledi ar 5 Mai, ac mae’n gymwys. 

Ei gyfradd taliad caledi dyddiol yw 60% o (£312 x 12)/365. Mae hyn yn £6.15 y diwrnod. 

Mae disgwyl cael ei daliad Credyd Cynhwysol nesaf mewn 26 diwrnod. 

Cyfanswm y taliad caledi y gall ei gael am 25 diwrnod yw 25 x £6.15. Cyfanswm o £153.75.

Pryd i wneud cais

Gallwch ond gwneud cais ar ôl i chi dderbyn taliad Credyd Cynhwysol am lai nag y byddech fel arfer yn ei gael oherwydd sancsiwn neu gosb.

Rhaid gwneud cais ar wahân ar gyfer pob cyfnod asesu rydych yn derbyn taliad gostyngedig, neu ddim taliad, ac rydych yn dal i fod mewn caledi.

Os yw eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf yn ddyledus mewn 7 diwrnod neu lai

Gallwch gynyddu nifer y diwrnodau y gallwch gael taliad caledi amdanynt os yw eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf yn ddyledus mewn 7 diwrnod neu lai. Gellir ei ymestyn i ba un bynnag o’r rhain yw’r dyddiad cynharaf:  

  • y diwrnod cyn mae taliad ar gyfer y mis canlynol yn ddyledus 

  • pan ddaw’r sancsiwn neu’r gosb i ben

Sut i wneud cais 

I wneud cais, gallwch: 

  • ofyn i’ch cyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol – eich ‘anogwr gwaith’

  • defnyddio eich dyddlyfr ar-lein

  • cysylltu â llinell gymorth Credyd Cynhwysol 

Yn ystod y broses gwneud cais, bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • beth rydych wedi’i wneud i ddod o hyd i ffynonellau eraill o arian

  • pa incwm neu gynilion eraill sydd efallai gennych i’ch helpu i dalu’ch costau

  • beth rydych wedi’i wneud i leihau eich costau sydd ddim yn hanfodol

  • pa gostau byw na allwch eu talu

Os ydych mewn cwpl, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch:

  • gytuno i dderbyn y cynnig o daliad caledi

  • derbyn bod y taliad caledi yn ad-daladwy

Pryd y byddwch yn derbyn eich taliad

Os derbynnir eich cais, fel arfer telir taliadau caledi yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc ar yr un diwrnod. 

Ad-dalu taliadau caledi

Bydd angen i chi dalu taliad caledi yn ôl unwaith y bydd eich sancsiwn neu gosb twyll wedi dod i ben.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau’n awtomatig hyd at 25% o’ch lwfans safonol nes i chi ad-dalu’r taliad caledi. Y lwfans safonol yw’r swm sylfaenol o Gredyd Cynhwysol a gewch, heb gynnwys symiau ychwanegol ar gyfer pethau fel tai. 

Enghraifft 

Derbyniodd Ella daliad caledi o £215.25. 

Lwfans safonol Ella fel arfer yw £393.45 y mis. 

I ad-dalu ei thaliad caledi mae ei Chredyd Cynhwysol yn gostwng 25% o’i lwfans safonol. 

Bydd ei thaliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng o £98.36 y mis (25% o £393.45) nes iddi ei dalu’n ôl yn gyfan gwbl. 

Bydd yn cymryd tri mis iddi dalu’r taliad caledi o £215.25, gan dalu £98.36 ym misoedd 1 a 2, a £18.53 ym mis 3.

Ad-dalu os nad ydych bellach yn hawlio Credyd Cynhwysol 

Os nad ydych bellach yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd Rheoli Dyled y DWP (Adran Gwaith a Phensiynau) mewn cysylltiad i drafod ei ad-dalu ar gyfradd fforddiadwy.

Cael trafferth ad-dalu taliad caledi

Os na allwch fforddio eich didyniadau taliad caledi, gallwch ffonio Rheoli Dyled y DWP i drafod eich opsiynau.

Ffoniwch Rheoli Dyled y DWP i siarad am eich opsiynau: 

Rheoli Dyled y DWP 

Ffôn: 0800 916 0647    

Ffôn testun: 0800 916 0651 

NGT text relay – os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn: 18001 then 0800 916 0647 

Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am 7.30pm 

Darganfyddwch fwy am gostau galwadau 

Cymorth ariannol arall 

Os nad ydych yn gymwys i gael taliad caledi, efallai y gallwch gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu gymorth a chefnogaeth ariannol arall.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 October 2024

Sign up for emails or print this page