Canllawiau

Sancsiynau Credyd Cynhwysol

Gellir lleihau eich taliadau Credyd Cynhwysol os na fyddwch yn cwblhau eich gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith y cytunwyd arnynt heb reswm da. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Beth yw sancsiwn

I gael taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi dderbyn cytundeb o’r enw ‘ymrwymiad hawlydd’. Mae hyn yn cynnwys ‘gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith’ - unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith y mae’n rhaid i chi eu cwblhau i dderbyn Credyd Cynhwysol.

Bydd yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gallai gynnwys:

  • apwyntiadau gyda’ch anogwr gwaith

  • diweddaru’ch CV

  • chwilio am swyddi

Mae’n rhaid i chi wneud popeth rydych chi’n cytuno iddo fel rhan o’ch ymrwymiad neu efallai y bydd eich taliad yn cael ei leihau. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Sut i osgoi sancsiwn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall:

  • yr holl bethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i dderbyn Credyd Cynhwysol

  • beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn cwblhau un neu fwy o’ch gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith

Er mwyn osgoi sancsiwn, mae’n rhaid i chi wneud popeth rydych chi wedi cytuno iddo fel rhan o’ch ymrwymiad hawlydd, fel:

  • mynd i bob apwyntiad Credyd Cynhwysol ar amser a chymryd rhan mewn cyfweliadau

  • gwneud popeth rydych wedi cytuno i’w wneud i ddod o hyd i waith, fel cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi a gwneud cais am swyddi addas

Gwnewch yn siŵr bod eich ymrwymiad hawlydd yn seiliedig ar eich amgylchiadau presennol drwy roi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau.

Os na allwch gwrdd â’ch ymrwymiadau

Os na allwch wneud y pethau yn eich ymrwymiad hawlydd, rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith drwy ychwanegu nodyn at eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol, neu drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir gan eich anogwr gwaith.

Er enghraifft, os:

  • oes gennych apwyntiad ysbyty ar yr un pryd â chyfarfod gyda ni

  • rydych yn mynd yn sâl yn annisgwyl ac yn methu â gwneud gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

  • mae argyfwng domestig yn golygu na allwch fynd i gyfweliad am swydd

Os penderfynwn fod gennych reswm da, ni fydd eich taliad yn cael ei leihau. Os penderfynwn nad oedd gennych reswm da, efallai y byddwch yn cael sancsiwn.

Os ydych yn cael sancsiwn

Os ydych yn cael sancsiwn, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf, neu gyfres o daliadau, yn cael ei leihau. Byddwch yn cael neges dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol neu lythyr yn dweud wrthych:

  • o faint mae eich taliad yn cael ei leihau

  • am ba hyd y gall y sancsiwn barhau neu beth sydd angen i chi ei wneud i ddod â’r sancsiwn i ben

  • beth rydych wedi methu ei wneud

Ni fydd gennych 2 sancsiwn ar unwaith, ond gall sancsiynau redeg gefn wrth gefn.

O faint fydd eich taliadau yn cael eu lleihau gan

Mae sancsiwn yn lleihau swm y lwfans safonol o Gredyd Cynhwysol rydych chi’n ei dderbyn.

Bydd eich taliadau yn cael eu lleihau 100% o gyfradd lwfans safonol Credyd Cynhwysol ar gyfer pob diwrnod y mae’r sancsiwn mewn lle. Fodd bynnag, os ydych yn 16 neu 17 oed, neu os mai eich unig gyfrifoldeb yw mynychu apwyntiadau gyda ni i drafod gwaith, bydd eich taliadau’n cael eu lleihau gan 40% o’r gyfradd lwfans safonol ar gyfer pob diwrnod mae’r sancsiwn mewn lle.

Os yw eich taliadau eisoes wedi’u lleihau oherwydd enillion neu incwm arall ac nad oes digon o’ch Credyd Cynhwysol i gymryd swm llawn y sancsiwn, bydd eich taliadau’n cael eu gostwng i ddim ac ystyrir bod y sancsiwn yn cael ei chymhwyso’n llawn.

Os ydych yn cael symiau ychwanegol ar ben eich lwfans safonol, fel ar gyfer plant neu gostau tai, bydd y rhain yn dal i gael eu talu i chi.

Efallai y byddwch yn colli’ch hawl i fudd-daliadau eraill, fel cymorth ariannol gyda chostau’r GIG os cewch sancsiwn.

Cyfraddau lleihau dyddiol

Eich amgylchiadau Cyfradd lleihau 100% y diwrnod Cyfradd lleihau 40% y diwrnod
Sengl dan 25 oed £10.20 £4.00
Sengl 25 neu drosodd £12.90 £5.10
Hawlwyr ar y cyd o dan 25 oed (fesul hawlydd sydd wedi’u sancsiynu) £8.00 £3.20
Hawlwyr ar y cyd, un neu’r ddau 25 neu drosodd (fesul hawlydd sydd wedi’u sancsiynu) £10.10 £4.00

Gallai eich cyfradd lleihau dyddiol newid os bydd swm y Credyd Cynhwysol rydym yn ei dalu neu eich amgylchiadau’n newid.

Pryd efallai y bydd gennych lai o arian yn cael ei dynnu i ffwrdd

Efallai y bydd gennych lai o arian yn cael ei dynnu i ffwrdd o’ch Credyd Cynhwysol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft:

  • rydych yn gofalu am blant ifanc a phobl ag anableddau

  • rydych yn feichiog ac mae disgwyl i’ch babi gael ei eni mewn llai nag 11 wythnos

  • rydych wedi cael babi llai na 15 wythnos yn ôl

  • rydych yn mabwysiadu plentyn, ac mae’n llai na blwyddyn ers i’r plentyn gael ei leoli gyda chi

Lefelau o sancsiwn

Mae 4 lefel sancsiwn yn dibynnu ar ba grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith (neu ‘amodoldeb’) rydych chi ynddo.

Y lefelau sancsiwn yw:

Sancsiynau lefel isaf

Ar gyfer beth mae’r rhain

Efallai y cewch y sancsiwn isaf os mai eich unig gyfrifoldeb yw cymryd rhan mewn apwyntiadau gyda ni i drafod gwaith, ac nid ydych yn cymryd rhan heb reswm da.

Am faint o amser maent yn para

Mae’r sancsiynau hyn yn para o ddyddiad yr apwyntiad tan y diwrnod cyn i chi gysylltu â ni i drefnu un newydd. Mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn yr apwyntiad newydd.

Sancsiynau lefel isel

Ar gyfer beth mae’r rhain

Mae’r rhan fwyaf o sancsiynau Credyd Cynhwysol yn lefel isel. Maent yn gysylltiedig â’r hyn y disgwylir i chi ei wneud i gael eich Credyd Cynhwysol.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael sancsiwn lefel isel os, heb reswm da, byddwch yn methu:

  • mynychu a chymryd rhan mewn cyfweliadau neu apwyntiadau sy’n canolbwyntio ar waith, ac nid yw sancsiwn lefel isaf yn berthnasol

  • darparu tystiolaeth sy’n gysylltiedig â gwaith rydym wedi gofyn amdani

  • rhoi gwybod am newidiadau yn ymwneud â gwaith fel colli tâl

  • mynd i neu gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi neu gynllun cyflogaeth sydd wedi’i argymell fel rhan o’ch paratoi am waith

  • cymryd camau penodol i gael gwaith cyflogedig, neu i gynyddu eich enillion o waith

Am faint o amser maent yn para os ydych chi’n 18 oed neu drosodd

Mae sancsiwn lefel isel fel arfer yn para o’r dyddiad y gwnaethoch fethu â gwneud y weithgaredd y cawsoch eich sancsiwn amdano, tan y diwrnod cyn i chi wneud y weithgaredd, ynghyd â nifer penodol o ddiwrnodau ychwanegol.

Os nad ydych wedi derbyn sancsiwn yn ystod y 365 diwrnod diwethaf, 7 yw’r nifer sefydlog o ddiwrnodau ychwanegol fel arfer.

Enghraifft

Mae Tom yn 20. Roedd i fod i fynychu cwrs hyfforddi a argymhellwyd gan ei anogwr gwaith, ond anghofiodd fynd. 

Nid oes ganddo reswm da dros beidio â mynychu. 

Mae’n mynd i’r sesiwn hyfforddi nesaf 3 diwrnod yn ddiweddarach. 

Dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gosbi. 

Ei gyfnod sancsiwn fydd 2 ddiwrnod a 7 diwrnod ychwanegol = 9 diwrnod.

Os cawsoch sancsiwn yn ystod y 365 diwrnod diwethaf, mae’r nifer sefydlog o ddiwrnodau ychwanegol a ychwanegir at eich sancsiwn nesaf fel arfer yn dibynnu ar faint o ddyddiau ychwanegol y mae eich sancsiwn ddiweddaraf yn ei gynnwys:

Dyddiau ychwanegol wedi’u hychwanegu at eich sancsiwn diweddaraf Dyddiau ychwanegol wedi’u hychwanegu at hyd eich sancsiwn nesaf
7 diwrnod ychwanegol 14 diwrnod ychwanegol
14 diwrnod ychwanegol 28 diwrnod ychwanegol
28 diwrnod ychwanegol 28 diwrnod ychwanegol

Os oedd eich sancsiwn lefel isel flaenorol o fewn y 14 diwrnod diwethaf, nid yw nifer y diwrnodau ychwanegol a ychwanegir at eich sancsiwn nesaf yn codi. Mae’r diwrnodau ychwanegol yr un nifer ag a gawsoch am eich sancsiwn ddiweddaraf.

Am faint o amser maent yn para os ydych chi’n 16 neu 17 oed

Os na chawsoch sancsiwn lefel isel yn ystod y 365 diwrnod diwethaf, mae sancsiwn lefel isel fel arfer yn para o’r dyddiad y gwnaethoch fethu â gwneud y weithgaredd y cawsoch sancsiwn amdano, tan y diwrnod cyn i chi wneud y weithgaredd.

Os cawsoch sancsiwn lefel isel yn ystod y 15 i 365 diwrnod diwethaf, mae eich sancsiwn fel arfer yn para o’r dyddiad y gwnaethoch fethu â gwneud y weithgaredd y cawsoch sancsiwn amdano, tan y diwrnod cyn i chi wneud y weithgaredd, ynghyd â 7 diwrnod ychwanegol.

Os oedd eich sancsiwn lefel isel ddiweddaraf o fewn y 14 diwrnod diwethaf, mae eich sancsiwn fel arfer yn para o’r dyddiad y gwnaethoch fethu â gwneud y weithgaredd y cawsoch sancsiwn amdano, tan y diwrnod cyn i chi wneud y weithgaredd, ynghyd â’r un nifer o ddiwrnodau ychwanegol oedd eich sancsiwn ddiweddaraf yn ei gynnwys.

Sancsiynau lefel canolradd

Ar gyfer beth mae’r rhain

Os nad ydych yn gwneud digon i chwilio am waith neu os nad ydych ar gael i weithio, efallai y cewch sancsiwn lefel canolradd.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael sancsiwn lefel canolradd os, heb reswm da, rydych:

  • yn gorfod chwilio am waith, ond nid ydych yn gwneud cais am swydd benodol pan ofynnir i chi wneud hynny

  • ddim yn cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i waith cyflogedig neu gynyddu eich enillion o waith

  • yn gorfod bod ar gael ar gyfer cyfweliadau am swydd, ond nid ydych ar gael i fynd i gyfweliadau na dechrau gweithio

  • yn gorfod bod ar gael ar gyfer gwaith, ond nid ydych yn gallu na bod yn barod i wneud gwaith â thâl ar unwaith

Am faint o amser maent yn para

Byddwch yn cael eich sancsiynu am 28 diwrnod (4 wythnos) am eich sancsiwn lefel canolradd cyntaf mewn unrhyw gyfnod o 365 diwrnod. Os ydych wedi cael sancsiwn lefel canolradd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond nid o fewn y 14 diwrnod diwethaf, gallai’r sancsiwn bara am 91 diwrnod (13 wythnos).

16 a 17 oed

Os ydych yn 16 neu 17 oed, bydd sancsiwn lefel canolradd fel arfer yn 7 diwrnod. Os ydych chi wedi cael sancsiwn lefel canolradd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd y sancsiwn fel arfer yn 14 diwrnod.

Sancsiynau lefel uchel

Ar gyfer beth mae’r rhain

Mae sancsiwn lefel uchel ar gyfer rhai mathau o fethiannau sy’n ymwneud â gwaith cyflogedig.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael sancsiwn lefel uchel os ydych:

  • yn gorfod chwilio am waith, ond nid ydych yn gwneud cais am swydd benodol pan ofynnir i chi wneud hynny heb reswm da

  • yn gorfod bod ar gael ar gyfer gwaith, ond nid ydych yn derbyn swydd sy’n cael ei chynnig i chi heb reswm da

  • yn gadael swydd neu golli cyflog drwy ddewis tra’n hawlio Credyd Cynhwysol neu ychydig cyn i chi hawlio, heb reswm da

  • yn gadael swydd neu golli tâl oherwydd camymddwyn, tra’n hawlio Credyd Cynhwysol neu ychydig cyn i chi hawlio

Am faint o amser maent yn para

Byddwch yn cael eich sancsiynu am 91 diwrnod (tua 3 mis) am eich sancsiwn lefel uchel gyntaf mewn unrhyw gyfnod o 365 diwrnod. Os ydych wedi cael sancsiwn lefel uchel o’r blaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond nid o fewn y 14 diwrnod diwethaf, gall y sancsiwn fod hyd at uchafswm o 182 diwrnod (tua 6 mis).

Os byddwch yn gadael gwaith neu’n methu â derbyn cynnig swydd cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol mae yna reolau arbennig ar gyfer pa mor hir y bydd eich sancsiwn yn para.

16 a 17 oed

Os ydych yn 16 neu 17 oed, bydd sancsiwn lefel uchel fel arfer yn 14 diwrnod. Os ydych chi wedi cael sancsiwn lefel uchel yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd y sancsiwn fel arfer yn 28 diwrnod.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad sancsiwn

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad sancsiwn, neu os oes gennych fwy o dystiolaeth, gallwch ofyn am adolygiad. Gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.

Gallwch wneud hyn drwy roi nodyn yn eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol, dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu yn ysgrifenedig. I gael gwybod mwy, gweler Herio penderfyniad budd-daliadau (ailystyriaeth orfodol).

Cymorth ariannol os yw eich taliad yn cael ei leihau

Os na allwch dalu am eich anghenion rhent, gwres, bwyd neu hylendid oherwydd eich bod wedi cael sancsiwn, gallwch ofyn am daliad caledi.

Byddwch yn ad-dalu’r taliad caledi trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol. Bydd y rhain yn is hyd nes y byddwch yn ei dalu’n ôl.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Chwefror 2025

Print this page