Canllawiau

Defnyddio meddalwedd i ffeilio gwybodaeth am eich cwmni

Sut i anfon gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau trwy ein sgemâu extensible markup language (XML), trwy brynu meddalwedd neu ddatblygu’ch meddalwedd eich hun.

Mae pecynnau ffeilio trwy feddalwedd yn gadael ichi anfon gwybodaeth atom trwy ein porth extensible markup language (XML).

Os ydych chi’n ffeilio llawer o ddogfennau, mae’n bosibl y bydd hyn yn ffitio i’ch llif gwaith yn rhwyddach. Po fwyaf o ddogfennau yr ydych yn eu ffeilio, mwyaf buddiol mae’r opsiwn hwn yn debyg o fod.

Mae hefyd yn rhatach ffeilio dogfennau’n electronig gan ddefnyddio meddalwedd. Er enghraifft, mae’n costio £13 i gorffori cwmni gan ffeilio trwy feddalwedd, ond mae’n costio £40 i ffeilio ffurflen bapur. Mae corffori’r un diwrnod yn costio £30 gan ffeilio trwy feddalwedd, a £100 ar bapur.

Gellir ffeilio’r ffurflenni canlynol gan ddefnyddio ein gwasanaeth ffeilio trwy feddalwedd (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd) a hefyd mathau ychwanegol o gyfrifon a chorfforiadau cwmnïau.

Sut i ffeilio ar lein gan ddefnyddio meddalwedd

Bydd angen ichi agor cyfrif cyflwynydd ffeilio ar-lein (Saesneg yn unig) a naill ai prynu meddalwedd addas neu ddatblygu’ch meddalwedd eich hun.

Er mwyn datblygu’ch meddalwedd eich hun, bydd arnoch angen arbenigedd yn extensible markup language (XML). Gallwch:

  • darllenwch ein manylebau technegol
  • mynd i’n XML schema page ar gyfer yr holl fathau o drafodion a phrosesau cyflwyno

Ffeilio cyfrifon blynyddol mewn fformat iXBRL

Gallwn gael a phrosesu cyfrifon cwmnïau sydd wedi eu cynhyrchu yn fformat inline extensible reporting language (iXBRL). Mae mwy o ddarparwyr pecynnau meddalwedd yn sicrhau bod hyn ar gael.

Dyma rai o’r buddion:

  • dim rhagor o lythyrau esboniadol
  • dim costau postio
  • eu danfon yn gynt ac yn fwy diogel a chael cydnabyddiaeth ar unwaith eu bod wedi dod i law
  • cadarnhad awtomatig o’u derbyn neu eu gwrthod
  • llai o risg o gosbau ffeilio hwyr

Dim ond i ffeilio cyfrifon sy’n dod o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 y gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth iXBRL.

Gweld rhagolwg o’r ddogfen yr ydych yn ei chyflwyno

Os ydych chi’n datblygu iXBRL i ffeilio cyfrifon ar lein, gallwch roi prawf ar eich cyflwyno gan ddefnyddio ein dilysydd.

Dylech ddefnyddio’r offeryn ‘show image’ i wirio’r ddogfen yr ydych yn ei chyflwyno trwy iXBRL. Bydd hyn yn rhoi rhagolwg o sut yn union y bydd eich delwedd yn edrych ar ein system ni.

Mae’n bosibl na fydd eich dogfen yn edrych fel yr ydych yn disgwyl, hyd yn oed os yw wedi llwyddo yn y broses dilysu. Mae hyn oherwydd y dulliau gwahanol a ddefnyddir i rendro’r iXBRL.

Tacsonomeg cyfrifon

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ffeilio iXBRL ar gyfer cyfrifon a dagiwyd gan ddefnyddio’r dacsonomeg ganlynol.

Pwyntiau mynediad tacsonomeg 2023 (o 5 Ebrill 2023):

Pwyntiau mynediad tacsonomeg 2022 (o 1 Ebrill 2022):

Pwyntiau mynediad tacsonomeg 2021 (o 1 Ionawr 2021):

Pwyntiau mynediad tacsonomeg SECR 2021:

Pwyntiau mynediad tacsonomeg 2019 (o 1 Ionawr 2019):

Pwyntiau mynediad tacsonomeg SECR 2019:

Dylai micro-endidau (FRS 105) ddefnyddio pwynt mynediad FRS 102.

Gallwch weld pob rhan o’r dacsonomeg ar unwaith gan ddefnyddio pwynt mynediad trosolwg tacsonomeg y Cyngor Adrodd Ariannol. Nid yw hyn yn cynnwys tacsonomeg yr elusennau.

Tacsonomeg cyfrifon ar gyfer cwmnïau rhestredig

Pwyntiau mynediad UKSEF 2023:

Pwyntiau mynediad UKSEF 2022:

Pwyntiau mynediad UKSEF 2021:

Cyhoeddwyd ar 4 November 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 July 2023 + show all updates
  1. A new validator link for previewing your submission has been added.

  2. You can file accounts using the 2023 FRC suite of taxonomies from 5 April 2023.

  3. Users can now file iXBRL accounts using the FRC 2022 suite of taxonomies.

  4. The FRC published the 2022 suite of taxonomies on 8 October 2021. We are currently working to update our systems and you’ll be able to file accounts using these taxonomies from April 2022.

  5. New 2021 taxonomies added, and older 2014 taxonomies deleted.

  6. From 13 October 2020, the note 'Average number of employees during the period' will become a compulsory field and will be validated.

  7. Added translation