Gwneud cais i gael sicrwydd ymlaen llaw ar gynllun cyfalaf menter
Ewch ati i gael gwybod a allai’ch cynnig i godi buddsoddiadau fod yn gymwys ar gyfer cynllun cyfalaf mentrau a’r hyn sydd angen i chi wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw.
Gallwch nawr wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein newydd ar gyfer pob cynllun.
Mae gofyn i CThEF a ydyn nhw’n cytuno y byddai buddsoddiad yn bodloni amodau cynllun cyfalaf mentrau yn cael ei alw’n sicrwydd ymlaen llaw. Gallwch ddefnyddio hyn i ddangos buddsoddwyr posibl y gallai buddsoddiad fod yn gymwys ar gyfer cynllun. Ni fydd yn dweud wrthych a fyddai buddsoddwr yn bodloni amodau’r cynllun (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi wneud ceisiadau ar wahân ar gyfer pob buddsoddiad arfaethedig yr ydych am gael sicrwydd ymlaen llaw ar ei gyfer.
Nid oes gwasanaeth sicrwydd ymlaen llaw bellach ar gyfer Rhyddhad Treth Buddsoddiad Cymdeithasol gan mai dim ond ar gyfer buddsoddiadau a wnaed ar neu cyn 5 Ebrill 2023 y mae’r cynllun ar gael.
Buddsoddwyr
Mae unrhyw sicrwydd ymlaen llaw a roddir i gwmni sy’n defnyddio’r Cynllun Buddsoddiad Menter Seed a’r Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau, ond mewn perthynas ag amodau penodol o’r cynlluniau cyfalaf menter sy’n cael eu bodloni yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gan y cwmni.
Ni ddylid ei gymryd fel ardystiad mwy cyffredinol nac fel arwydd o berfformiad buddsoddi posibl. Dylai buddsoddwyr ystyried cynnal eu diwydrwydd dyladwy eu hunain cyn bwrw ymlaen â buddsoddiad
Cyn i chi wneud cais
Gallwch wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw ar gyfer y cynlluniau cyfalaf mentrau canlynol, ond dylech wirio’r amodau ar gyfer pob un ohonynt:
- Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau (yn agor tudalen Saesneg)
- Cynllun Buddsoddiad Cychwynnol mewn Mentrau (yn agor tudalen Saesneg)
- Ymddiriedolaeth Cyfalaf Mentro (yn agor tudalen Saesneg)
Fel arfer, bydd angen i chi roi manylion eich buddsoddwyr posib i ni ystyried eich cais.
Gallwch hefyd wirio pryd na fyddwn yn ystyried cais ar gyfer:
- Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau
- Cynllun Buddsoddiad Cychwynnol mewn Mentrau
- Ymddiriedolaeth Cyfalaf Mentro
Dysgwch ragor am hyn yn y Llawlyfr Cynlluniau Cyfalaf Menter (yn agor tudalen Saesneg).
Pwy all wneud cais
Gallwch gwblhau cais os ydych yn un o’r canlynol:
- ysgrifennydd y cwmni
- cyfarwyddwr
- ymddiriedolwr — os yw’r fenter gymdeithasol yn ymddiriedolaeth elusennol
- asiant
Gallwch benodi asiant i wneud cais ar eich rhan. Bydd yn rhaid iddo wneud y canlynol:
- ychwanegu llythyr wedi’i lofnodi — wedi’i ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf
- cadarnhau awdurdodiad y cwmni i weithredu ar ei ran gyda phob cais newydd
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Ar gyfer pob cynllun
Bydd angen i chi gynnwys:
- faint o arian rydych yn bwriadu ei godi
- y cynllun busnes a’r rhagolygon ariannol
- copi o’r cyfrifon diweddaraf os ydyn nhw ar gael
- cwmnïau a fydd yn defnyddio’r buddsoddiadau
- manylion am yr holl fasnachu a gweithgareddau a faint yr ydych yn disgwyl ei wario ar bob un
- copi cyfoes o’r memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, a manylion am unrhyw newidiadau rydych yn disgwyl eu gwneud
- copi o’r gofrestr aelodau o’r dyddiad yr ydych yn gwneud cais am sicrwydd ymlaen llaw
- drafft diweddaraf unrhyw ddogfennau rydych yn eu defnyddio i esbonio eich cynnig i fuddsoddwyr posib
- manylion unrhyw gytundebau eraill rhwng y cwmni a’r cyfranddalwyr neu’r Ymddiriedolaeth Cyfalaf Mentro
- llythyr wedi’i lofnodi gan un o’ch cyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr — os cewch asiant i weithredu ar eich rhan
- unrhyw ddogfennau eraill i ddangos eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun
Os nad ydych wedi defnyddio cynllun cyfalaf mentrau o’r blaen bydd yn rhaid i chi roi manylion eich buddsoddwyr posib.
Ar gyfer Cynlluniau Buddsoddiad Menter, Cynlluniau Buddsoddiad Menter ‘Seed’ ac Ymddiriedolaethau Cyfalaf Mentro
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod sut rydych yn bodloni’r amod o ran risg i gyflwr gyfalaf (yn agor tudalen Saesneg). Hyd yn oed os ydych wedi defnyddio’r cynlluniau o’r blaen, gall hyn olygu bod angen i chi gynnwys manylion eich buddsoddwyr posib.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni (ar gyfer Cynlluniau Buddsoddi mewn Mentrau ac Ymddiriedolaethau Cyfalaf Mentro) sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer twf a datblygiad o’ch cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych wedi defnyddio’r cynlluniau hyn o’r blaen
Ar gyfer Ymddiriedolaethau Cyfalaf Mentro, bydd angen i chi roi gwybod i ni’r canlynol:
- ymddiriedolaethau sy’n bwriadu buddsoddi
- enw rheolwyr eu cronfa
Os ydych yn gwneud cais am Gynllun Buddsoddi Mentro neu Gynllun Buddsoddiad Menter ‘Seed’ ac mae’r canlynol yn wir:
- mae’ch cwmni neu fenter gymdeithasol yn codi arian yn uniongyrchol gan fuddsoddwyr — mae’n rhaid i chi roi enw a chyfeiriad unrhyw ddarpar fuddsoddwyr
- mae’ch cwmni neu fenter gymdeithasol wedi’i restru ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM) — nid oes angen i chi roi gwybodaeth i fuddsoddwyr
- mae’ch cwmni neu fenter gymdeithasol yn cynllunio rhestru ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen — mae’n rhaid i chi roi enw a rhif cofrestru’r cynghorydd enwebedig sy’n cynorthwyo ei restru
- mae’ch cwmni neu fenter gymdeithasol yn ceisio buddsoddi drwy reolwr cronfa neu hyrwyddwr busnes — mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth eu bod wedi cytuno i weithredu ar eich rhan a byddant yn parhau i weithio gyda chi
- mae’ch cwmni neu fenter gymdeithasol yn ceisio buddsoddi drwy blatfform cyllido torfol — mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth eu bod wedi derbyn eich cynnig ac y byddant yn parhau i weithio gyda chi
Gwneud cais ar-lein ar gyfer sicrwydd ymlaen llaw
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Bydd CThEf yn cysylltu â chi pan fydd yn gwneud penderfyniad.
Os ydych yn cael sicrwydd ymlaen llaw
-
Byddwn yn anfon datganiad atoch yn dweud bod y buddsoddiad yn debygol o fod yn gymwys, y gallwch ei ddangos i’ch buddsoddwyr.
-
Bydd angen i chi gyflwyno datganiad cydymffurfio i ddefnyddio’r cynllun os ewch ymlaen gyda’r buddsoddiad.
-
Rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau ers i chi gwblhau’ch cais sicrwydd ymlaen llaw pan fyddwch yn cyflwyno’r datganiad — fel arall ni fydd y sicrwydd yn berthnasol mwyach.
-
Byddwn yn rhoi caniatâd i chi roi tystysgrifau i fuddsoddwyr, fel y gallant hawlio rhyddhad treth — nid oes angen i chi godi’r swm llawn o fuddsoddiad a gynhwysoch yn eich cais.
Os nad ydych yn cael sicrwydd ymlaen llaw
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn credu nad yw’ch cais yn bodloni amodau’r cynllun.
Os nad yw’ch cais yn cael ei ystyried neu ei fod yn anghyflawn, ni fyddwn yn rhoi unrhyw adborth.
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych gwestiynau pellach am eich cais, gallwch e-bostio enterprise.centre@hmrc.gov.uk.
Nid ydym yn ymdrin â cheisiadau gan fuddsoddwyr i Dreth Incwm neu ryddhad Treth Enillion Cyfalaf o dan unrhyw un o’r 4 cynllun nac am hawliadau i Ryddhad Colledion Cyfranddaliadau. Mae’r rhain yn cael eu trin gan y swyddfa dreth sy’n delio â’r ceisiadau hynny.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2016Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Added translation
-
The Social Investment Tax Relief scheme can now only be used for investments made on or before 5 April 2023.
-
We have updated the content with guidance on how to apply using the new online form for all schemes except Social Investment Tax Relief. We've included guidance on applying by email or post with a covering letter and supporting documents for Social Investment Tax Relief.
-
The email disclaimer has been updated.
-
Information has been added about who can complete the application, how to authorise an agent to apply on your behalf and a completed checklist you'll need to include to apply.
-
The address to send your application for advance assurance on a venture capital scheme has been updated.
-
Applicants must now check the scheme conditions before applying for advance assurance and will usually need to provide potential investor details.
-
First published.