Canllawiau

Beth i'w wneud os ydych yn cael negeseuon annisgwyl gan GOV.UK One Login

Beth i'w wneud os ydych yn derbyn e-bost, neges destun neu alwad ffôn gan GOV.UK One Login nad oeddech chi'n ei ddisgwyl neu'n meddwl y gallai fod yn sgam neu hacio.

Newid eich cyfrinair

Newidiwch eich cyfrinair GOV.UK One Login os ydych yn cael neges nad oeddech chi’n ei disgwyl. Gallai hyn fod yn:

  • e-bost yn dweud wrthych i ailosod eich cyfrinair
  • e-bost neu neges destun gyda chod diogelwch
  • e-bost yn gofyn i chi fewngofnodi
  • galwad ffôn

Newid eich cyfrinair yw’r ffordd orau i gadw’ch GOV.UK One Login yn ddiogel ac i’ch amddiffyn rhag sgam neu hacio.

Rydym yn argymell eich bod yn:

  • creu cyfrinair diogel a chofiadwy, er enghraifft drwy ddefnyddio 3 gair ar hap
  • defnyddio cyfrinair gwahanol i’r un rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i’ch e-bost

Ffyrdd eraill o gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel

Peidiwch:

  • ymateb i neges a allai fod yn sgam gwe-rwydo - gwiriwch sut i adnabod sgamiau os nad ydych yn siwr
  • dweud wrth unrhyw un beth yw eich cod diogelwch neu unrhyw wybodaeth arall, gan gynnwys os byddant yn gofyn i chi am y wybodaeth hon dros y ffôn
Cyhoeddwyd ar 24 May 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 June 2024 + show all updates
  1. Added Welsh translation

  2. First published.