Cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyfarwyddwr
Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyfarwyddwr ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol.
Bydd y gyfrifiannell yn rhoi gwybod i chi faint o Yswiriant Gwladol sydd angen ei dalu gan gyfarwyddwr.
Defnyddio’r gyfrifiannell
Os ydych yn gyfarwyddwr
Gwiriwch fod swm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a ddidynnwyd o’ch cyflog yn gywir.
Os ydych yn gyflogwr
Defnyddiwch y gyfrifiannell i gyfrifo faint o Yswiriant Gwladol y mae angen i chi ei ddidynnu o gyflog cyfarwyddwyr.
Os ydych yn ddatblygwr meddalwedd
Gwiriwch fod y feddalwedd gyflogres rydych chi’n ei datblygu yn cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyfarwyddwyr yn gywir.
Cyn i chi ddechrau
Dim ond ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol y mae’r gyfrifiannell hon.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y llythyren gategori cyfraniadau Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg)
- dyddiad cychwyn rôl y cyfarwyddwyr
- cyfanswm cyflog y cyfarwyddwr hyd yma
- cyfraniadau a wnaed eisoes gan y cyfarwyddwr a’r cyflogwr
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 July 2024 + show all updates
-
Information has been added to explain that the calculator is only for the current tax year.
-
Added translation