Cyfrifwch eich addasiad ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025
Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo’r addasiad i’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer gwaredu asedion ar neu ar ôl 30 Hydref 2024 pan newidiodd y cyfraddau.
Mae prif gyfraddau Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer gwaredu asedion ar neu ar ôl 30 Hydref 2024 wedi newid.
Nid oes unrhyw newid i’r cyfraddau sy’n berthnasol i waredu eiddo preswyl a buddiant a drosglwyddir.
Ni fydd y Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn defnyddio’r prif gyfraddau newydd ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yn awtomatig yn ei chyfrifiadau.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi gyfrifo addasiad i’r dreth sy’n cael ei chyfrifo’n awtomatig. Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell ar gyfer addasiadau i wneud hyn.
Gallwch gael help gyda’ch Ffurflen Dreth gan gyfrifydd neu gan ymgynghorydd treth.
Pwy ddylai ddefnyddio’r gyfrifiannell
Defnyddiwch y gyfrifiannell os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
gwnaethoch waredu asedion ar neu ar ôl 30 Hydref 2024
-
rydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 fel unigolyn, ymddiriedolwr neu gynrychiolydd personol
-
mae eich cyfanswm eich enillion cyfalaf yn fwy na’ch lwfans rhydd o dreth (yr enw ar hyn yw’r ‘swm blynyddol wedi’i esemptio’)
Os ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad gan ddefnyddio meddalwedd fasnachol, bydd angen i chi ddefnyddio bod y cyfraddau cywir yn cael eu defnyddio.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi gyfrifo’ch enillion a faint o dreth sydd arnoch.
Dylech hefyd wirio’r canlynol:
-
y rheolau ynghylch gwrth-achub y blaen ar dudalen CG10249 o’r Llawlyfr ar Enillion Cyfalaf i wneud yn siŵr bod y dyddiad cywir ar gyfer y gwarediad wedi’i ddefnyddio yn y gyfrifiannell ac i weld a oes angen datganiad gyda’ch Ffurflen Dreth
-
y rheolau ar golledion ar dudalen CG14561 o’r Llawlyfr ar Enillion Cyfalaf i wneud yn siŵr bod colledion a gafwyd rhwng aelodau o’r teulu a phobl gysylltiedig yn cael eu gwrthbwyso’n gywir
I ddefnyddio’r gyfrifiannell i gyfrifo’ch ffigur addasiad ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf bydd angen y canlynol arnoch:
-
dyddiad gwaredu
-
swm yr enillion
-
incwm trethadwy
-
manylion unrhyw golledion cyfalaf
-
manylion unrhyw gynlluniau pensiwn neu daliadau Rhodd Cymorth