Canllawiau

Cyfrifo’ch ffigur rhyddhad gorgyffwrdd

Os ydych yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth, defnyddiwch y gyfrifiannell i gyfrifo’ch ffigur rhyddhad gorgyffwrdd ar gyfer Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.

Defnyddiwch y gyfrifiannell rhyddhad gorgyffwrdd i’ch helpu i gyfrifo’r ffigur rhyddhad gorgyffwrdd i’w gynnwys yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os ydych yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth.

Dylai’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch fod yn eich cofnodion busnes. Defnyddiwch amcangyfrifon rhesymol os nad yw’r wybodaeth hon gennych.

Cyn i chi ddechrau

Byd angen y dyddiad y dechreuodd eich busnes, neu’r dyddiad y gwnaethoch ymuno â’r bartneriaeth.

Os dechreuodd eich busnes, neu daethoch chi’n bartner, cyn 6 Ebrill 1994

Bydd angen eich cyfnod cyfrifyddu ar gyfer blwyddyn dreth 1996 i 1997 arnoch.

Ar gyfer blwyddyn dreth 1997 i 1998 bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • eich cyfnod cyfrifyddu
  • eich elw neu golled (eich cyfran chi os ydych mewn partneriaeth)
  • eich lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli (eich cyfran chi os ydych mewn partneriaeth)

Os dechreuodd eich busnes, neu daethoch chi’n bartner, ar neu ar ôl 6 Ebrill 1994

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfnodau cyfrifyddu ar gyfer y 3 blynedd gyntaf
  • elw neu golledion ym mhob cyfnod (eich cyfran chi os ydych mewn partneriaeth)

Os newidiwyd eich dyddiad cyfrifyddu cyn blwyddyn dreth 2023 i 2024

Os dechreuodd eich busnes, neu daethoch chi’n bartner, cyn 6 Ebrill 1994, bydd angen arnoch unrhyw newidiadau yn eich data cyfrifyddu (dyddiad olaf eich cyfnod cyfrifyddu) ar neu ar ôl 6 Ebrill 1997.

Os dechreuodd eich busnes, neu daethoch chi’n bartner, ar neu ar ôl 6 Ebrill 1994, bydd angen arnoch unrhyw newidiadau i ddata cyfrifyddu ar ôl y 3 blynedd gyntaf o fod mewn busnes neu mewn partneriaeth.

Ni allwch ddefnyddio’r gyfrifiannell os ydych wedi gwneud mwy na 2 newid.

Os newidiodd eich dyddiad cyfrifyddu i ddyddiad cynharach yn y flwyddyn dreth, bydd hefyd angen yr elw neud colled (eich cyfran chi os ydych mewn partneriaeth) o’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y cyfnod cyfrifyddu diwethaf sy’n dod i ben gyda’r hen ddyddiad cyfrifyddu
  • y cyfnod cyfrifyddu cyntaf sy’n dod i ben gyda’r dyddiad cyfrifyddu newydd

Cyfrifo’ch rhyddhad gorgyffwrdd

Dechrau nawr

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2024

Print this page