Datrys problemau gyda rhedeg cyflogres
Gwnaethoch dalu’r swm anghywir i CThEF
Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud i gywiro taliad yn dibynnu a wnaethoch dalu gormod neu rhy ychydig, a sut digwyddodd y gwall.
Os ydych wedi talu rhy ychydig i CThEF
Os gwnaethoch dandalu o ganlyniad i wall yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) neu’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS), cywirwch hyn yn eich cyflwyniad rheolaidd nesaf. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ychwanegu’r tandaliad at eich bil TWE nesaf.
Os gwnaethoch dandalu oherwydd eich bod wedi nodi’r swm anghywir wrth dalu CThEF, talwch y gweddill cyn gynted â phosibl neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog neu gosb. Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon wrth dalu.
Os ydych wedi talu gormod i CThEF
Os gwnaethoch ordalu o ganlyniad i gamgymeriad yn eich FPS neu’ch EPS, mae’n rhaid i chi gywiro hyn yn eich cyflwyniad rheolaidd nesaf. Bydd CThEF yn didynnu’r gordaliad o’ch bil TWE nesaf.
Os gwnaethoch ordalu oherwydd eich bod wedi nodi’r swm anghywir wrth dalu CThEF, neu oherwydd eich bod wedi gwneud taliad dyblyg, gallwch fantoli’ch cyfrif drwy dalu llai yn eich bil TWE nesaf.
Gallwch hefyd hawlio ad-daliad os ydych wedi gordalu (yn agor tudalen Saesneg).