Gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EM yn y Gymraeg
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau canlynol gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) ar-lein yn y Gymraeg:
- Hunanasesiad
- TAW
- Treth Gorfforaeth
- Talu Wrth Ennill Ar-lein i gyflogwyr
- Elusennau Ar-lein
- Toll Peiriannau Hapchwarae
- Y Crynodeb Treth Blynyddol
- Gwasanaeth Car Cwmni TWE
- Gwneud Cais am Lwfans Priodasol
- Gwasanaeth Talu
- Gwasanaeth Cynorthwywyr y Gellir Ymddiried Ynddynt
- Gwasanaeth Buddiannau drwy’r Gyflogres
- Cael cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth
- Diogelu’ch lwfans oes
- Gwnewch gais am gydnabyddiaeth fel elusen at ddibenion treth
- Cyfrif treth personol
- Cyfrif treth busines
- Rhowch wybod i CThEM os ydych wedi tandalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn y sector gofal cymdeithasol
- Rheoli’ch credydau treth
- Gofynnwch am gopi o’ch UTR Treth Gorfforaeth
Cofrestru ar gyfer trethi
Rhaid i chi gofrestru ar gyfer trethi cyn i chi gofrestru ar gyfer:
- Treth Gorfforaeth
- Hunanasesiad
- TAW
- Talu Wrth Ennill Ar-lein i gyflogwyr
Peidiwch â defnyddio acenion ar lafariaid pan fyddwch yn llenwi’r ffurflenni ar-lein.
Bydd CThEM yn anfon y canlynol atoch:
- Eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad neu Dreth Gorfforaeth
- Rhif cofrestru ar gyfer TAW
Bydd angen y rhain arnoch pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.
Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth
Byd angen ID Defnyddiwr a chyfrinair arnoch cyn y byddwch yn gallu mewngofnodi a defnyddio’r gwasanaeth.
-
Ewch i wasanaethau ar-lein CThEM a chlicio ‘Cofrestru’.
-
Dilynwch y camau i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth sydd ei angen arnoch.
-
Byddwch yn cael ID Defnyddiwr a bydd yn rhaid i chi ddewis cyfrinair.
Dechrau defnyddio’r gwasanaeth
Bydd angen cod cychwyn arnoch i ddechrau defnyddio’r holl wasanaethau hyn, ac eithrio TAW. Anfonir hwn atoch cyn pen saith diwrnod gwaith ar ôl i chi gofrestru. Os ydych chi’n byw dramor, gall gymryd hyd at 21 diwrnod i gyrraedd.
Rhowch eich cyfrif ar waith drwy fewngofnodi cyn pen 28 diwrnod i’r dyddiad a nodir ar y llythyr. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd y cod yn dod i ben a bydd yn rhaid i chi ofyn am un newydd.
Cysylltwch â llinellau cymorth Cymraeg CThEM os oes angen help arnoch i ddefnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau.
Talu Wrth Ennill Ar-lein
Os ydych chi’n gyflogwr newydd, bydd angen i chi ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol neu feddalwedd cyflogres arall i gyflwyno gwybodaeth am y gyflogres i CThEM.
Negeseuon e-bost gwe-rwydo a sgamiau treth
Ni fydd CThEM byth yn defnyddio negeseuon testun na negeseuon e-bost i wneud y canlynol:
- rhoi gwybod i chi am ddirwy neu ad-daliad treth
- gofyn am wybodaeth am daliadau personol
Anfonwch unrhyw negeseuon e-bost amheus at gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu tarwch olwg ar arweiniad ar adnabod sgamiau CThEM os nad ydych chi’n siŵr.