Gwirio cerbyd ail-law rydych yn ei brynu

Dilynwch y camau hyn i wirio nad ydych yn prynu cerbyd sy’n anniogel neu wedi’i ddwyn.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn ichi weld y cerbyd

  1. Gofynnwch y gwerthwr am y rhif cofrestru, gwneuthuriad a model a rhif prawf MOT.

  2. Gwiriwch fod y manylion a roddwyd ichi yn cydweddu â’r wybodaeth a gedwir gan DVLA.

  3. Gwiriwch fod y statws a’r hanes MOT yn cydweddu â’r manylion a roddwyd ichi. 

  4. Gwiriwch a yw’r cerbyd wedi cael ei alw’n ôl oherwydd mater diogelwch difrifol.

Pan rydych yn mynd i weld y cerbyd

  1. Gofynnwch i weld y dystysgrif gofrestru cerbyd V5CW (‘llyfr log’). Gwnewch yn siŵr bod ganddo ddyfrnod ‘DVL’, ac nid yw’r rhif cyfresol rhwng BG8229501 i BG9999030, neu BI2305501 i BI2800000. Os ydyw, efallai bod y V5CW wedi cael ei dwyn - ffoniwch yr heddlu cyn gynted ag y bydd yn ddiogel.

  2. Sicrhewch fod y manylion yn y llyfr log yn cydweddu â’r manylion a roddwyd ichi.

  3. Gwiriwch y rhif adnabod cerbyd a rhif yr injan. Sicrhewch fod y rhain yn cydweddu â’r manylion ar y llyfr log.

Os ydych yn prynu’r cerbyd                      

Trethwch y cerbyd ar unwaith. Bydd arnoch angen y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd o lyfr log y cerbyd.