Gwirio a yw cyfanwerthwr alcohol wedi'i gymeradwyo
Os prynwch alcohol i’w werthu ymlaen, mae’n rhaid i chi wirio a yw’r cyfanwerthwr neu’r cynhyrchwr rydych yn ei brynu oddi wrtho wedi’i gymeradwyo.
Gallwch gael eich dirwyo neu fynd i’r carchar os prynwch alcohol oddi wrth gyfanwerthwr sydd heb ei gymeradwyo.
Os ydych yn unigolyn sy’n prynu alcohol ar gyfer digwyddiad unigol, megis parti unwaith y flwyddyn, nid oes rhaid i chi wirio. Mae’n dal yn rhaid i chi gael trwydded i werthu alcohol, a elwir yn Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro.
Mae’n rhaid gwirio cyfanwerthwyr o Ynys Manaw ar wahân.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen Cyfeirnod Unigryw (URN) y cyfanwerthwr neu’r cynhyrchwr arnoch. Dylai hwn fod wedi’i argraffu ar eu hanfonebau. Cysylltwch â nhw os na allwch ddod o hyd iddo.