Gwirio faint o Dreth Incwm a daloch y llynedd
Ar ôl i’ch Treth Incwm gael ei chyfrifo, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gyfrifo faint a daloch o 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024.
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo Treth Incwm pawb rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd.
Ni allwch wirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf os gwnaethoch dalu unrhyw ran o’ch Treth Incwm y llynedd drwy Hunanasesiad.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae hefyd yn bosibl y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael ad-daliad treth neu i dalu’r dreth sydd arnoch. Bydd angen llythyr cyfrifiad treth arnoch (a elwir yn ‘P800’) sy’n nodi eich bod yn gallu gwneud hyn ar-lein.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.
Gwirio’ch Treth Incwm
Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i wirio faint o Dreth Incwm a daloch y llynedd.
Os na allwch greu cyfrif treth personol
Cysylltwch â CThEF am gyngor os na allwch greu cyfrif treth personol.
Gallwch hefyd amcangyfrif eich Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer blynyddoedd blaenorol heb fewngofnodi.
Gwirio treth ar gyfer y flwyddyn bresennol
Mae ffordd wahanol o wirio faint o Dreth Incwm rydych yn ei thalu yn ystod y flwyddyn dreth hon.