Gwneud cais am brofiant
Beth yw profiant
Mae profiant yn rhoi hawl gyfreithiol ichi ddelio ag eiddo, arian a meddiannau (‘ystad’) unigolyn ar ôl iddynt farw.
Ni ddylech wneud unrhyw gynlluniau ariannol neu roi eiddo ar y farchnad hyd nes eich bod wedi cael profiant.
Mae’r cyfarwyddyd a’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae yna reolau gwahanol ynglŷn â phrofiant yn Yr Alban a phrofiant yng Ngogledd Iwerddon.
Sut i gael profiant
Mae’n rhaid i chi wneud cais i gael profiant. Cyn gwneud cais, rhaid i chi wirio:
- a oes angen profiant
- eich bod yn gymwys i wneud cais
- a oes Treth Etifeddiant i’w thalu
Gwirio a oes angen profiant
Cysylltwch â’r sefydliadau ariannol yr oedd yr unigolyn a fu farw yn eu defnyddio (er enghraifft, banc a chwmni morgais) i gael gwybod a oes angen profiant arnoch i gael mynediad at ei asedau. Mae gan bob sefydliad ei reolau ei hun.
Efallai na fydd arnoch angen profiant:
- os mai cynilion yn unig oedd gan y sawl a fu farw
- os oedd y sawl a fu farw yn berchen ar gyfranddaliadau neu arian gydag eraill - bydd y rhain yn trosglwyddo’n awtomatig i’r perchnogion sydd wedi goroesi oni bai eu bod wedi cytuno fel arall
- os oedd y sawl a fu farw yn berchen ar dir neu eiddo fel ‘tenantiaid ar y cyd’ gydag eraill - bydd y rhain yn trosglwyddo’n awtomatig i’r perchnogion sydd wedi goroesi
Gwirio a allwch wneud cais am brofiant
Dim ond rhai pobl all wneud cais am brofiant. Mae pwy all wneud cais yn dibynnu ar p’un a oes ewyllys ai peidio.
Os oes ewyllys, gall yr ysgutorion a enwir ynddi wneud cais.
Os nad oes ewyllys, gall y perthynas byw agosaf wneud cais.
Penderfynu gwerth yr ystad a chyfrifo Treth Etifeddiant
Cyn gwneud cais am brofiant, mae’n rhaid ichi ganfod a oes angen ichi dalu Treth Etifeddiant.
I wneud hyn, bydd angen ichi amcangyfrif gwerth ystad yr ymadawedig. Hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu, byddwch angen gwybod gwerth yr ystad fel rhan o’ch cais am brofiant.
Gwneud cais am brofiant
Gallwch wneud cais am brofiant ar-lein neu drwy’r post ar ôl i chi benderfynu gwerth yr ystad.
Cymorth a chyngor
Os nad ydych wedi gwneud cais eto a bod gennych gwestiwn ynghylch gwneud cais am brofiant, cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
Sgwrsio dros y we
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Atal cais am brofiant a wnaed gan rywun arall
Gallwch herio cais am brofiant (‘cyflwyno cafeat’), cyn iddo gael ei ganiatáu. Er enghraifft, os oes anghydfod ynghylch pwy all wneud cais am brofiant neu a oes ewyllys.