Cael eich trwydded yrru lawn

Pan fyddwch yn pasio eich prawf gyrru ymarferol, bydd DVLA fel arfer yn anfon eich trwydded lawn atoch yn awtomatig.

Ar ôl y prawf, bydd yr arholwr yn:

  1. Cymryd eich trwydded yrru cerdyn-llun dros dro.

  2. Rhoi tystysgrif pasio prawf gyrru ichi.

  3. Trefnu i DVLA anfon eich trwydded lawn atoch.

Gallwch ddechrau gyrru cyn gynted ag y byddwch wedi pasio’r prawf ymarferol.

Tra rydych yn aros i’r drwydded lawn gyrraedd, gallwch ddefnyddio’r tystysgrif pasio prawf gyrru i brofi eich bod wedi’i basio.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pan fydd angen ichi wneud cais am drwydded yrru lawn

Bydd dim ond angen ichi wneud cais am eich drwydded yrru lawn os:

  • na roesoch eich trwydded yrru cerdyn-llun dros dro i’r arholwr ar ôl y prawf, er enghraifft oherwydd bod angen ichi ei defnyddio fel ID

  • ydych wedi newid eich enw neu gyfeiriad ac mae bellach yn wahanol i’r enw neu’r cyfeiriad ar y drwydded yrru cerdyn-llun dros dro

  • os oes gennych drwydded yrru dros dro steil hen (un a gyhoeddwyd cyn 1998)

Fel arall, bydd yn cael ei hanfon atoch yn awtomatig.

Sut i wneud cais

Os ydych yn gwneud cais am drwydded lawn, bydd angen ichi:

  • lofnodi’r datganiad ar eich tystysgrif pasio prawf gyrru

  • llenwi ffurflen D1W ‘cais am drwydded yrru’ - gallwch gael un o Swyddfa’r Post sy’n cynnig gwasanaethau DVLA

  • cynnwys dogfennau gwreiddiol sy’n cadarnhau eich hunaniaeth

  • cynnwys ffotograff pasbort (dim ond os oes gennych trwydded dros dro bapur)

  • cynnwys eich trwydded dros dro

Anfonwch yr holl ddogfennau i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BN

Os ydych yn gwneud cais am drwydded lawn drwy’r post, rhaid ichi anfon dogfennau i DVLA o fewn 2 flynedd o basio eich prawf neu bydd rhaid ichi ei sefyll eto.