Gwneud cais am wybodaeth am gerbyd neu ei geidwad cofrestredig gan DVLA

Skip contents

Gwneud cais am wybodaeth am gerbyd arall neu ei geidwad cofrestredig

Gallwch ofyn am fanylion ceidwad cofrestredig cerbyd arall. Bydd arnoch angen ‘achos rhesymol’, er enghraifft:

  • darganfod pwy oedd yn gyfrifol am ddamwain
  • olrhain ceidwad cofrestredig am gerbyd sydd wedi’i adael 
  • olrhain ceidwad cofrestredig am gerbyd sydd wedi’i barcio ar dir preifat 
  • rhoi tocynnau parcio
  • rhoi rhybuddion talu am dresbas
  • olrhain pobl sy’n gyfrifol am yrru i ffwrdd heb dalu am nwyddau a gwasanaethau
  • olrhain pobl sy’n cael eu hamau o dwyll yswiriant

Dim ond os ydynt yn aelodau o Gymdeithas Parcio Prydain neu’r Gymuned Parcio Rhyngwladol y gall cwmnïau rheoli parcio ceir preifat sy’n rhoi tocynnau parcio neu rybuddion talu am dresbas wneud cais am wybodaeth gan DVLA.

Sut i wneud cais

Llenwch ffurflen a gwneud cais drwy’r post. Ceir manylion am sut i dalu a ble i anfon eich cais ar bob ffurflen.

Mae’r ffurflen y mae angen ichi ei defnyddio yn dibynnu ar p’un ai a ydych yn:

Os nad yw eich cwmni yn cyhoeddi rhybuddion talu am barcio neu dresbas ac rydych am gael gwybodaeth am gerbyd ar ddyddiad penodol, gallwch:

  • wneud cais am wybodaeth enw a chyfeiriad am geidwad cerbyd - defnyddiwch ffurflen V888/2AW
  • gwneud cais am unrhyw wybodaeth arall am gerbyd (er enghraifft manylion cwmni yswiriant) - defnyddiwch ffurflen V888/2BW

Gallwch lawrlwytho wybodaeth bellach am wneud cais am wybodaeth gan DVLA.