Gwneud didyniadau dyled budd-daliadau o gyflog gweithiwr
Cyfrifo DEA
I gyfrifo’r didyniadau o gyflog eich cyflogai bydd yn rhaid i chi:
- gyfrifo enillion y cyflogai ar ôl treth, Yswiriant Gwladol dosbarth 1 a chyfraniadau pensiwn gweithle
- didynnu’r ganran a ddangosir yn y tabl o enillion y cyflogai
- gwirio a oes gan y gweithiwr orchmynion dyled eraill ac os yw’n cymryd blaenoriaeth dros Atodiad Uniongyrchol o Enillion (DEA) - gweler canllaw’r cyflogwr
Os yw cyfanswm yr holl ddidyniadau yn fwy na 40% o enillion net y cyflogai, mae’n rhaid addasu DEA - gweler canllaw’r cyflogwr.
Os gwneir taliadau bob 2 neu 4 wythnos, cyfrifwch y tâl wythnosol a didynnwch y ganran yn y tabl.
Cyfraddau DEA safonol
Didyniadau o enillion | Tâl wythnosol cyflogai | Tâl misol y gweithiwr |
---|---|---|
Dim i’w ddidynnu | £100 neu lai | £430 neu lai |
3% | £100.01 i £160 | £430.01 i £690 |
5% | £160.01 i £220 | £690.01 i £950 |
7% | £220.01 i £270 | £950.01 i £1,160 |
11% | £270.01 i £375 | £1,160.01 i £1,615 |
15% | £375.01 i £520 | £1,615.01 i £2,240 |
20% | Mwy na £520 | Mwy na £2,240 |
Cyfraddau DEA uwch
Mewn rhai amgylchiadau efallai y gofynnir i chi ddidynnu DEA ar gyfradd uwch. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych pa gyfradd i’w defnyddio pan fyddent yn cysylltu â chi i sefydlu didyniadau DEA.
Didyniadau o enillion | Tâl wythnosol cyflogai | Tâl misol y gweithiwr |
---|---|---|
5% | £100 neu lai | £430 neu lai |
6% | £100.01 i £160 | £430.01 i £690 |
10% | £160.01 i £220 | £690.01 i £950 |
14% | £220.01 i £270 | £950.01 i £1,160 |
22% | £270.01 i £375 | £1,160.01 i £1,615 |
30% | £375.01 i £520 | £1,615.01 i £2,240 |
40% | Mwy na £520 | Mwy na £2,240 |
Ffoniwch y llinell gymorth i gyflogwyr os nad ydych yn sicr pa gyfradd y dylech dalu.
Llinell gymorth i gyflogwyr 0800 916 0614 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm Darganfyddwch am gostau galwadau
Mae mwy o fanylion am gyfrifo DEA yng nghanllaw’r cyflogwr.