Gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol

Skip contents

Atwrneiaeth barhaus

Gallwch wrthwynebu cofrestru atwrneiaeth barhaus (EPA).

Mae 2 ffordd i wrthwynebu - mae’r un a ddefnyddiwch yn dibynnu ar p’un a ydych wedi cael llythyr swyddogol yn dweud bod rhywun eisiau cofrestru’r EPA.

Gwrthwynebu os ydych wedi cael llythyr swyddogol

Bydd y rhoddwr a rhai o’u perthnasau yn cael llythyr yn dweud wrthynt bod atwrnai’n bwriadu cofrestru EPA.

Os ydych chi yn un o’r bobl hyn, gallwch wrthwynebu’r cofrestriad os ydych yn credu:

  • nad yw’r EPA yn gywir yn gyfreithiol, e.e. nid oedd wedi’i lofnodi’n gywir ac nid oedd tyst yn bresennol
  • nid oedd gan y rhoddwr alluedd meddyliol pan wnaed yr EPA
  • diddymodd y rhoddwr eu EPA pan oedd ganddynt alluedd meddyliol
  • roedd twyll wedi digwydd, e.e. cafodd llofnod y rhoddwr ar yr EPA ei ffugio
  • roedd pwysau ar y rhoddwr i wneud EPA
  • mae gan y rhoddwr alluedd meddyliol o hyd felly ni ddylai’r EPA gael ei chofrestru
  • mae atwrnai’n gweithredu uwchlaw ei awdurdod neu yn erbyn buddiannau gorau’r rhoddwr

Llenwch ac anfonwch y:

Llys Gwarchod
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Rhaid i chi wrthwynebu o fewn 5 wythnos i chi gael y llythyr yn dweud wrthych am y cofrestriad.

Gwrthwynebu os na gawsoch lythyr swyddogol

Gallwch wrthwynebu os nad ydych yn credu y dylid cofrestru’r EPA.

Llenwch ac anfonwch ffurflen gais (COP1) i’r Llys Gwarchod. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Anfonwch siec o £408 yn daladwy i’r ‘Llys Gwarchod’.

Rhaid i chi hefyd ysgrifennu at yr OPG i ddweud wrthynt pam eich bod yn gwrthwynebu’r cofrestriad.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

PO Box 16185

Birmingham

B2 2WH

Gostyngiad neu esemptiad o’r ffi

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.

Gwnewch gais am ostyngiad neu esemptiad Os ydych yn gymwys.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Bydd OPG neu’r Llys Gwarchod yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod iddynt dderbyn eich gwrthwynebiad. Byddant yn rhoi gwybod pa gamau y bydd angen i chi eu cymryd nesaf.