Gyrru cartref modur
Mae arnoch angen y drwydded gywir i yrru cartref modur neu fan gwersylla, ac mae angen i’ch cerbyd fod o fewn terfynau maint y DU.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gofynion trwydded
Mae’r drwydded sydd ei hangen arnoch i yrru cartref modur yn dibynnu ar eich oedran ac uchafswm màs awdurdodedig (MAM) y cerbyd. Dyma bwysau’r cerbyd ynghyd â’r llwyth mwyaf y gall ei gario.
I yrru cartref modur gyda MAM rhwng 3.5 a 7.5 tunnell, mae arnoch angen trwydded categori C1.
I yrru cartref modur gyda MAM dros 7.5 tunnell, mae arnoch angen trwydded categori C.
Gwiriwch pa gerbydau y gallwch eu gyrru a’r gofynion trwydded ac oedran ar gyfer tynnu cerbydau.
Efallai y bydd gofynion trwydded yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon.
Mewnforio cartref modur a therfynau maint
I fewnforio cartref modur i’r DU yn barhaol bydd angen ichi ei gofrestru.
Mae maint cartrefi modur wedi’i gyfyngu yn y DU - ni allwch gofrestru un sy’n fwy na 12 metr o hyd a 2.55 metr o led.
Nid yw’r mesuriadau’n cynnwys drychau gyrru, bymperi cefn, lampau nac adlewyrchyddion.
Nid oes terfyn uchder, ond os yw’r cartref modur dros 3 metr o daldra mae’n rhaid ichi gael hysbysiad yn dangos yr uchder lle gall y gyrrwr ei weld.