Pan fydd angen ichi wneud HOS

Skip contents

Eithriadau ar gyfer masnachwyr moduron

Nid oes angen ichi wneud HOS ar gerbyd os ydych yn fasnachwr moduron neu’n brofwr cerbydau ac mae’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • dim ond dros dro y mae yn eich meddiant (hyd nes y byddwch yn ei werthu)

  • mae’n cael ei gadw ar safle eich busnes

  • mae’r ceidwad cofrestredig wedi hysbysu DVLA bod y cerbyd wedi’i werthu neu ei drosglwyddo ichi

Rydych yn cyfrif fel masnachwr moduron os ydych yn:

  • ddeliwr moduron

  • arwerthwr moduron

  • datgymalwr cerbydau

  • yswiriwr cerbydau yn gofalu am gerbyd tra bod hawliad yn cael ei setlo

  • cwmni cyllid sydd â thrwydded i ddal cerbyd dros dro yn dilyn gorchymyn adfeddiannu