Ildio eich trwydded yrru yn wirfoddol
Nid oes unrhyw oedran cyfreithiol lle mae’n rhaid ichi roi’r gorau i yrru. Gallwch ddewis pryd i ildio neu roi’r gorau i’ch trwydded ac am faint o amser, p’un a yw’ch rheswm yn gyflwr meddygol neu’n rhywbeth arall.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os oes gennych gyflwr meddygol
Gallwch ildio eich trwydded yn wirfoddol i DVLA os:
-
yw eich meddyg yn dweud wrthych am roi’r gorau i yrru am 3 mis neu fwy
-
yw eich cyflwr meddygol yn effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel ac yn para am 3 mis neu fwy
-
nad ydych yn bodloni’r safonau meddygol gofynnol ar gyfer gyrru diogel oherwydd eich cyflwr meddygol
Efallai y gallwch gael eich trwydded yrru yn ôl os gallwch fodloni’r safonau meddygol gofynnol o ffitrwydd.
Os ydych yn ildio eith trwydded yn wirfoddol
Mae ildio eich trwydded yn ei gwneud hi’n haws ailymgeisio am un newydd os ydych am yrru eto yn y dyfodol
Gallwch ailymgeisio am drwydded newydd os ydych am yrru eto ar ôl ildio eich trwydded yrru.
Pan fyddwch yn ailymgeisio am drwydded newydd, bydd DVLA yn cynnal archwiliadau meddygol i benderfynu a yw’n ddiogel ichi barhau i yrru. Efallai y byddwch yn gallu parhau i yrru tra byddant yn gwneud hyn.
Os nad ydych yn ildio eich trwydded
Mae’n rhaid ichi roi gwybod i DVLA o hyd am unrhyw gyflwr meddygol sy’n effeithio ar eich gyrru. Bydd DVLA yn cynnal archwiliadau meddygol i benderfynu a allwch barhau i ddal trwydded yrru. Cyn belled â bod eich trwydded yn ddilys, gallwch yrru tra byddant yn gwneud hyn oni bai bod eich meddyg wedi dweud wrthych am beidio â gwneud hynny.
Os bydd DVLA yn penderfynu nad yw’n ddiogel ichi yrru, bydd eich trwydded yn cael ei dirymu.
Sut i ildio eich trwydded yrru yn wirfoddol
Ceir gwahanol ffyrdd o ildio eich trwydded yrru yn dibynnu ar:
-
eich rheswm dros ildio eich trwydded
-
y math o drwydded cerbyd sydd gennych
Os yw am reswm meddygol
Os ydych yn ildio trwydded gar neu feic modur, lawrlwythwch y datganiad o ildio gwirfoddol.
Os ydych yn ildio trwydded fws, coets neu lori, lawrlwythwch y ffurflen VOC99/CERT.
Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i DVLA ynghyd â’ch trwydded yrru. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os nad yw am reswm meddygol
Anfonwch eich trwydded yrru i DVLA ynghyd â llythyr eglurhaol sy’n dweud eich bod am ildio eich trwydded.
Postiwch eich trwydded yrru a’ch llythyr eglurhaol i:
DVLA
Abertawe
SA99 1AB
Gwirio eich sgiliau gyrru
Siaradwch â’ch meddyg teulu os ydych am barhau i yrru ond yn poeni am eich gallu i wneud hynny.
Gallwch hefyd gael asesiad gyrru mewn prawf cyfrinachol a gwrthrychol gan sefydliadau fel y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) ac I Am Road Smart.