Mabwysiadu plentyn
Rhieni genedigol: eich hawliau
Er mwyn i gwpl (neu unigolyn) arall fabwysiadu eich plentyn, fel arfer mae’n rhaid i chi gytuno i hynny.
Unwaith y bydd eich plentyn wedi’i fabwysiadu, ni fydd gennych gyfrifoldeb rhiant drostynt mwyach.
Gan ddibynnu ar sefyllfa’r plentyn, efallai y gallwch gadw mewn cysylltiad â nhw. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd ar ffurf llythyrau a lluniau (ac weithiau cyfarfodydd) drwy’r asiantaeth a oedd yn gyfrifol am drefnu’r mabwysiad.
Hawliau’r tad
Fel tad y plentyn fe ofynnir i chi gytuno i’r mabwysiad - ond dim ond os oes gennych gyfrifoldeb rhiant.
Os nad oeddech erioed yn briod â mam y plentyn neu wedi’ch enw ar y dystysgrif geni, gallwch wneud cais i’r llys am Orchymyn Cyfrifoldeb Rhiant i gael cyfrifoldeb rhiant.
Ceisio stopio’r broses fabwysiadu
Os yw’r broses fabwysiadu wedi dechrau, dylech gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
I fabwysiad fod yn gyfreithiol, mae’n rhaid i’r llys ganiatáu gorchymyn llys.
Mae’n rhaid i’r asiantaeth sy’n trefnu’r mabwysiad adael i chi wybod beth yw eich hawliau - a hefyd ar ba bwynt ni ellir atal y mabwysiadu.
Os nad ydych eisiau i’ch plentyn gael ei fabwysiadu, bydd y llys yn rhoi cyfle i chi ddweud pam. Bydd gweithiwr cymdeithasol, sy’n annibynnol ar yr asiantaeth fabwysiadu, yn ymweld â chi ac yn:
- cofnodi’r rhesymau pam nad ydych eisiau i’ch plentyn gael ei fabwysiadu
- gadael i’r llys wybod y rhesymau hyn - gallwch fynd i’r llys i’w hesbonio
Ni ellir gwneud gorchymyn mabwysiadu oni bai bod y llys yn credu ei fod er budd gorau’r plentyn.
Mabwysiadu heb eich caniatâd
Gall y llys benderfynu bod modd i’r plentyn gael ei fabwysiadu heb eich caniatâd os:
- yw’n credu y byddai’r plentyn mewn risg petai ddim yn cael ei fabwysiadu - bydd yn anfon y dystiolaeth maent wedi’i chael atoch, er enghraifft gan y gwasanaethau cymdeithasol
- nid ydych yn gallu rhoi caniatâd, er enghraifft oherwydd anabledd meddyliol