Mewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant

Defnyddiwch y cyfrif hwn i dalu am eich Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth (yn agor tudalen Saesneg), neu i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio.

I barhau i gael eich Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, neu ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, mae’n rhaid i chi fewngofnodi bob 3 mis a chadarnhau bod eich manylion yn gyfredol.

Os ydych eisiau cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, neu ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, a’ch bod chi’n dod o un o wledydd yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, bydd angen statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog (yn agor tudalen Saesneg) arnoch, neu ganiatâd i gael mynediad at arian cyhoeddus.

Os ydych chi’n gymwys i gael gofal plant yn rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, mewngofnodwch i gael cod i’w roi i’ch darparwr gofal plant.

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mewngofnodwch er mwyn:

  • talu arian i mewn i’ch cyfrif
  • talu’ch darparwr gofal plant
  • gwneud cais am blentyn newydd

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch a ddefnyddioch wrth wneud cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mewngofnodi

Cyn i chi ddechrau

Rydych chi’n mewngofnodi i’ch cyfrif mewn ffordd wahanol os ydych chi’n ddarparwr gofal plant (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych chi wedi gallu defnyddio’r gwasanaeth

Efallai y gallwch hawlio iawndal os ydych chi wedi cael problemau technegol gyda’ch cyfrif.