Treth a thollau ar gyfer nwyddau a anfonir o dramor
Rhoddion
I fod yn gymwys fel rhoddion, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am y nwyddau:
- wedi’u disgrifio fel rhoddion ar y datganiad tollau
- bod ar gyfer pen-blwydd neu achlysur arall
- wedi’u prynu a’u hanfon rhwng unigolion (nid cwmnïau)
- wedi’u bwriadu at ddefnydd personol
Anfon mwy nag un rhodd
Os ydych yn anfon mwy nag un rhodd yn yr un parsel, cewch y lwfans Toll Dramor ac sy’n rhydd o TAW ar gyfer pob rhodd os ydyn nhw:
- ar gyfer gwahanol bobl
- wedi’u rhestru ar ddatganiad tollau gyda’u gwerthoedd unigol
- wedi’u lapio’n unigol