Prynu rhif cofrestru personol
Gallwch brynu rhif cofrestru personol ar gyfer eich platiau rhif gan DVLA ar-lein neu mewn ocsiwn. Chwilio ar-lein i weld pa rifau sydd ar gael a’u cost.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cynnwys
Bydd arnoch angen cerdyn debyd neu gredyd i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Gallwch dim ond defnyddio rhifau cofrestru personol ar gerbyd sydd wedi’i gofrestru (neu ar fin gael ei gofrestru), wedi’i drethu ac yn cael ei ddefnyddio yn y DU.
Ni allwch wneud i’r cerbyd edrych yn fwy newydd nag ydyw mewn gwirionedd. Er enghraifft, ni allwch roi rhif cofrestru ‘07’ ar gerbyd a gofrestrwyd yn 2003.
Pan rydych yn prynu rhif cofrestru personol, rydych yn prynu’r hawl i aseinio’r rhif hwn i gerbyd a gofrestrwyd yn eich enw chi neu enw rhywun arall (yr enwebai).
Ocsiynau rhifau cofrestru
Mae Rhifau Cofrestru Personol DVLA hefyd yn arwerthu rhai rhifau cofrestru unigryw. Cynhelir yr ocsiynau hyn tua 6 waith y flwyddyn ac mae prisiau wrth gefn yn dechrau o £130. Gallwch gynnig ar-lein, yn bersonol, dros y ffôn neu’n ysgrifenedig.
Gwerthiannau preifat
Gallwch brynu rhif cofrestru personol gan ddeliwr neu’n breifat. Os ydych yn gwneud hyn, sicrhewch eich bod yn derbyn y dystysgrif hawl V750W neu’r dystysgrif gadw rhifau V778W.