Rhaglen Waith ac Iechyd
Mae’r Rhaglen Waith ac Iechyd yn eich helpu i ddod o hyd i swydd a chadw swydd os ydych chi’n ddi-waith.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cymhwyster
Gallech fod yn gymwys os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr a’ch bod chi:
- yn anabl
- yn ddi-waith
- yn ofalwr neu gyn-ofalwr
- yn ddigartref
- yn gyn-aelod o lluoedd arfog Ei Fawrhydi (EF)
- yn aelod o lluoedd arfog EF wrth gefn
- yn bartner i aelod neu gyn-aelod o’r lluoedd arfog EF
- yn gadael gofal
- person ifanc mewn gang neu mewn perygl o ymwneud â gang
- yn ffoadur
- unigolyn sy’n cael ei adsefydlu o Afghanistan
- yn ddioddefwr trais yn y cartref
- yn ddibynnol (neu wedi bod yn ddibynnol) ar gyffuriau neu alcohol ac mae’n eich atal rhag cael gwaith
- yn gyn-droseddwr ac rydych chi wedi cwblhau dedfryd o garchar neu ddedfryd gymunedol
- yn droseddwr gyda dedfryd gymunedol
Nid oes rhaid i chi fod yn cael budd-daliadau i wneud cais.
Beth fyddwch yn ei gael
Cewch gymorth personol i’ch helpu chi i:
- adnabod eich anghenion cyflogaeth
- paru eich sgiliau i waith sydd ar gael
- eich rhoi mewn cysylltiad â chyflogwyr
- dod o hyd i gyflogaeth hirdymor
- gael hyfforddiant i’ch helpu i ddod o hyd i waith
- rheoli problemau iechyd i leihau eu heffaith ar waith
Sut i wneud cais
Gofynnwch i’ch anogwr gwaith os ydych chi’n gymwys. Byddant yn gwneud cais ar eich rhan.
Os nad oes gennych anogwr gwaith, ewch i’ch Canolfan Byd Gwaith leol a gofyn i gael siarad gydag anogwr gwaith am y Rhaglen Waith ac Iechyd.