Dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol

Gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol:

  • ar ddogfen sydd gennych eisoes, er enghraifft P60, slip cyflog neu lythyrau am fudd-daliadau
  • yn eich cyfrif treth personol
  • yn ap CThEF
  • yn eich Apple Wallet neu Google Wallet (os oeddech wedi ei gadw yno o’r blaen)

Gallwch hefyd ddefnyddio’ch cyfrif treth personol neu ap CThEF i lawrlwytho llythyr sy’n dangos eich rhif Yswiriant Gwladol.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae angen i chi ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol
  • rydych yn gwybod eich rhif, ond mae ei angen arnoch ar lythyr

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Profi pwy ydych er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn

Byddwch yn cael gwybod os oes angen profi pwy ydych pan fyddwch yn mewngofnodi. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n cynnwys defnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru.

Os na allwch brofi pwy ydych, mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu defnyddio’r gwasanaeth i gael llythyr gyda’ch rhif Yswiriant Gwladol. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn postio hyn i’r cyfeiriad sydd ganddynt amdanoch yn eu cofnodion.

Dod o hyd i’ch rhif ar-lein

Dechrau nawr

Ffyrdd eraill o gael eich rhif Yswiriant Gwladol

Os na allwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar unrhyw un o’ch dogfennau neu drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen CA5403 a’i hanfon i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen
  • cysylltu â CThEF i gael llythyr yn cadarnhau eich rhif Yswiriant Gwladol - gall hyn gymryd hyd at 15 diwrnod i gyrraedd

Ni fydd CThEF yn rhoi’ch rhif Yswiriant Gwladol i chi dros y ffôn na thrwy sgwrs dros y we.

Os nad ydych erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad ydych erioed wedi cael un o’r blaen.