Rhyddhad treth incwm ar daliadau cynhaliaeth
Mae ‘rhyddhad treth’ yn golygu eich bod yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- yn talu llai o dreth er mwyn cydbwyso’r arian rydych yn ei wario ar bethau penodol, megis treuliau busnes os ydych yn hunangyflogedig
- yn cael treth yn ôl neu’n cael ad-daliad treth mewn ffordd arall, er enghraifft, i mewn i bensiwn personol
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cael rhyddhad treth ar daliadau cynhaliaeth
Mae Rhyddhad Taliadau Cynhaliaeth yn lleihau’ch Treth Incwm os ydych yn gwneud taliadau cynhaliaeth i gyn-briod neu gyn-bartner sifil.
Gallwch ei gael os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935
- rydych yn talu costau cynhaliaeth o dan orchymyn llys wedi i’r berthynas ddod i ben
- mae’r taliadau ar gyfer cynhaliaeth eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil (ar yr amod nad ydynt wedi ail-briodi neu mewn partneriaeth sifil newydd bellach) neu ar gyfer eich plant sydd o dan 21 oed
Mae Rhyddhad Taliadau Cynhaliaeth yn werth 10% o’r costau cynhaliaeth rydych yn eu talu i’ch cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil, hyd at uchafswm o £428 y flwyddyn (neu 10% o £4,280).
I’w hawlio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).