Sut mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo cynhaliaeth plant
Gofyn i incwm arall a threuliau gael eu cynnwys
Gallwch ofyn i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ystyried incwm arall a threuliau wrth gyfrifo taliadau cynhaliaeth plant. Gelwir hyn yn ‘gwneud cais am amrywiad’.
Gallwch wneud cais am amrywiad pan yn gwneud cais am Gynhaliaeth Plant neu ar ôl i’ch cyfrifiad Cynhaliaeth Plant gael ei wneud.
Ar ôl i chi wneud cais am amrywiad, gall gymryd hyd at 3 mis i’ch swm taliad Cynhaliaeth Plant newid.
Incwm ac asedau
Gall y rhiant sy’n talu cynhaliaeth ac sy’n cael cynhaliaeth ofyn am y mathau canlynol o incwm ac asedau cael eu hystyried:
- incwm rhent dros £2,500 y flwyddyn
- llog a difidendau o gynilion a buddsoddiadau dros £2,500 y flwyddyn
- enillion gros neu bensiwn o leiaf £100 yr wythnos - os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn cael budd-daliadau ac yn gymwys i dalu’r ‘gyfradd unffurf’ o gynhaliaeth plant
- unrhyw incwm y gall y rhiant sy’n talu cynhaliaeth fod yn ei ddargyfeirio fel na chaiff ei gynnwys yn y cyfrifiad (er enghraifft, ei roi i rywun arall neu ddewis cael car cwmni yn lle cyflog uwch)
- asedau fel cyfrannau, stociau, aur neu arian sy’n werth mwy na £31,250
Treuliau
Os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth, gallwch ofyn i’r mathau canlynol o dreuliau gael eu hystyried:
- costau cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda phlentyn rydych yn talu cynhaliaeth am (er enghraifft, tanwydd i deithio rhwng eich cartref a chartref y plentyn)
- costau cefnogi plentyn sydd gydag anabledd neu salwch tymor hir sy’n byw gyda chi
- ad-dalu dyledion o berthynas flaenorol
- rhan breswyl o ffioedd ysgol breswyl ar gyfer plentyn rydych yn talu cynhaliaeth am
- taliadau morgais, benthyciad neu yswiriant ar gyfer y cartref yr oeddech yn arfer ei rannu gyda’r rhiant sy’n cael cynhaliaeth - os yw’r rhiant sy’n cael cynhaliaeth a’ch plentyn yn dal i fyw yno
Rhaid i bob math o draul fod yn fwy na £10 yr wythnos. Gall treuliau cefnogi plentyn sydd gydag anabledd neu salwch tymor hir fod yn llai.
Ni allwch ofyn i dreuliau gael eu hystyried os yw eich incwm gros yn llai na £7 yr wythnos.
Cysylltwch gyda’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i wneud cais am amrywiad.