Tagiau electronig
Defnyddir monitro electronig (a elwir yn ‘tagio’) yng Nghymru a Lloegr i fonitro cyrffyw ac amodau gorchymyn llys neu garchar.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os byddwch chi’n cael tag, bydd yn cael ei roi ar eich ffêr fel arfer. Bydd uned fonitro neu orsaf ddi-wifr hefyd yn cael ei gosod mewn man a nodir yn eich gorchymyn llys neu garchar (eich cartref fel arfer).
Os byddwch yn torri eich amodau, gellid mynd â chi’n ôl i’r llys neu i’r carchar. Mae hyn yn cynnwys os byddwch yn difrodi neu’n ymyrryd â’ch tag, eich uned fonitro neu’ch gorsaf ddi-wifr.
Mathau o Dagiau
Mae 3 math o dag electronig:
- tagiau cyrffyw
- tagiau lleoliad
- tagiau alcohol
Y llys, llywodraethwr y carchar neu’r bwrdd parôl sy’n penderfynu pa dag rydych chi’n ei gael.
Os cewch dag cyrffyw
Mae tag cyrffyw yn gwirio a ydych ble’r ydych i fod yn ystod oriau eich cyrffyw, er enghraifft eich cartref. Bydd yn anfon rhybudd i ganolfan fonitro os nad ydych yno.
Os cewch dag lleoliad
Mae tag lleoliad yn cofnodi data am eich symudiadau bob amser. Mae’n gwirio a ydych chi:
- yn mynd i unrhyw ardal y dywedwyd wrthych am beidio â mynd iddi gan y llys neu’r carchar
- mynd i apwyntiadau neu raglenni eraill sy’n rhan o’ch amodau
- cadw at eich cyrffyw
Gall yr heddlu, eich ymarferydd prawf neu’r Gwasanaeth Monitro Electronig (EMS) ddefnyddio’r wybodaeth hon i:
- gefnogi eich ymddygiad da
- codi unrhyw bryderon am ble rydych chi wedi bod yn mynd
Rhaid i chi wefru eich tag lleoliad am o leiaf awr bob dydd.
Os bydd batri eich tag yn marw, mae hyn yn dor-amod posibl a gallech gael eich dychwelyd i’r llys neu’r carchar.
Os cewch dag alcohol
Mae tag alcohol yn mesur lefel yr alcohol yn eich chwys bob 30 munud. Os ydych chi’n yfed alcohol, bydd yn cael ei gofnodi gan y tag.
Rhaid i chi fod o fewn 10 metr i’ch gorsaf ddi-wifr ar adeg benodol bob dydd i anfon y data. Byddwch yn cael gwybod pa bryd fydd hynny pan fyddwch yn cael eich tag.
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cadw’r tag mewn cysylltiad uniongyrchol â’ch croen bob amser
- peidio â rhoi y tag mewn dŵr
Cysylltu â’r Gwasanaeth Monitro Electronig (EMS)
Os oes gennych chi unrhyw broblemau neu gwestiynau am eich tag electronig, cysylltwch ag EMS.
Ar gyfer tagiau cyrffyw a lleoliad, ffoniwch y tîm Monitro Lleoliad a Chyrffyw EMS am ddim dros y ffôn neu drwy ddefnyddio eich uned fonitro.
Monitro Lleoliadau a Chyrffyw EMS
Ffôn: 0800 137 291
Ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
Ar gyfer tagiau alcohol, ffoniwch dîm Monitro Alcohol EMS am ddim.
Monitro Alcohol EMS
Ffôn: 08081 780 058
Ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos