Tâl Salwch Statudol (SSP): arweiniad i gyflogwyr

Skip contents

Hawl

Y gyfradd wythnosol ar gyfer Tâl Salwch Statudol (SSP) yw £116.75 am hyd at 28 wythnos. Mae’n cael ei dalu:

  • ar gyfer y diwrnodau y mae cyflogai’n eu gweithio fel arfer – gelwir y rhain yn ‘ddiwrnodau cymhwysol’
  • yn yr un ffordd â chyflog, er enghraifft, ar y diwrnod cyflog arferol, gan ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol

Defnyddiwch y gyfrifiannell SSP (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cyfrifo’r swm gwirioneddol, er enghraifft ar gyfer y gyfradd ddyddiol.

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu SSP o hyd, hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu (yn agor tudalen Saesneg).

Ni allwch orfodi’ch cyflogeion i gymryd gwyliau blynyddol pan fyddant yn gymwys i gael absenoldeb salwch.

Pryd i ddechrau talu SSP

Mae SSP yn cael ei dalu pan fo’r cyflogai’n sâl am fwy na 3 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad yw’n gweithio).

Ni allwch gyfrif diwrnod fel diwrnod o salwch os yw cyflogai wedi gweithio am funud neu fwy cyn iddo fynd adref yn sâl.

Os yw cyflogai’n gweithio sifft sy’n dod i ben y diwrnod ar ôl iddi ddechrau ac mae’n cael ei daro’n sâl yn ystod y sifft neu ar ôl iddi ddod i ben, bydd yr ail ddiwrnod yn cyfrif fel diwrnod o salwch.

Nid ydych yn talu SSP i gyflogai am y 3 diwrnod gwaith cyntaf y mae i ffwrdd yn sâl, oni bai bod y ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi talu SSP iddo yn ystod yr 8 wythnos ddiwethaf
  • ni wnaethoch dalu SSP iddo am y 3 diwrnod gwaith cyntaf ar yr adeg honno

Pryd i roi’r gorau i dalu SSP

Mae SSP yn dod i ben pan fydd y cyflogai’n dod yn ôl i’r gwaith, neu pan na fydd yn gymwys ar ei gyfer mwyach.

Cadw cofnodion

Nid oes rhaid cadw cofnod digidol o’r SSP a dalwyd i gyflogeion.

Gallwch ddewis sut rydych yn cadw cofnodion o absenoldeb salwch eich cyflogeion. Mae’n bosibl y bydd angen i CThEF weld y cofnodion hyn os oes dadlau ynghylch talu SSP.