Cael help gyda chostau angladd (Taliad Costau Angladd)
Sut mae’n gweithio
Gallech gael Taliad Costau Angladd (a elwir hefyd yn Daliad Angladd) os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac mae angen help arnoch i dalu am angladd rydych yn ei drefnu.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os ydych yn byw yn Yr Alban
Gallwch wneud cais am Funeral Support Payment. Mae hwn wedi ailosod Funeral Expenses Payment yn Yr Alban.
Os ydych yn derbyn arian o ystâd yr ymadawedig
Bydd eich Taliad Costau Angladd yn cael ei ddidynnu o unrhyw arian a gewch o ystad yr ymadawedig.
Mae’r ystâd yn cynnwys unrhyw arian neu eiddo a oedd ganddynt ond nid tŷ neu bethau personol a adawyd i wraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi.
Beth fyddwch yn ei gael
Gall Taliad Costau Angladd helpu i dalu am rai o gostau’r canlynol:
- ffioedd claddu am lain benodol
- ffioedd amlosgiad, gan gynnwys cost tystysgrif y meddyg
- teithio i drefnu neu fynd i’r angladd
- y gost o symud y corff yn y DU, os yw’n cael ei symud dros 50 milltir
- tystysgrifau marwolaeth neu ddogfennau eraill
Gallwch hefyd gael hyd at £1,000 am unrhyw gostau angladd eraill, fel ffioedd y trefnydd angladdau, blodau neu’r arch.
Ni fydd y taliad fel rheol yn cwmpasu holl gostau’r angladd.
Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw arian arall sydd ar gael i dalu am y costau, er enghraifft o bolisi yswiriant neu ystâd yr ymadawedig.
Gwiriwch nodiadau’r ffurflen gais i gael manylion llawn am yr hyn mae Taliad Costau Angladd yn cwmpasu.
Os oedd gan yr ymadawedig gynllun angladd wedi’i dalu ymlaen llaw, dim ond hyd at £120 y gallwch ei gael i helpu i dalu am eitemau nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan eu cynllun.
Sut mae’r arian yn cael ei dalu
Telir Taliad Costau Angladd i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd os ydych eisoes wedi talu am yr angladd.
Telir yr arian yn uniongyrchol i drefnydd yr angladd (er enghraifft, y trefnydd angladdau) os nad ydych wedi talu hyd yn hyn.