Trosolwg

Os byddwch yn methu ag anfon eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad mewn pryd, neu os byddwch yn talu’ch bil yn hwyr, bydd cosb yn cael ei chodi arnoch.

Mae’n rhaid i chi dalu’r gosb cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar yr hysbysiad o gosb.

Bydd llog yn cael ei godi arnoch os talwch ar ôl y dyddiad dyledus.

Gallwch apelio yn erbyn cosb os oes gennych esgus rhesymol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pa mor hir mae taliadau’n ei gymryd

Mae’r amser y mae taliad yn ei gymryd i gyrraedd yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Os bydd dyddiad dyledus y taliad ar benwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai’ch bod yn talu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach).

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

Gallwch dalu:

3 diwrnod gwaith

Gallwch dalu:

5 diwrnod gwaith

Gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol.