Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion, megis ffôn symudol y cwmni.

Mae’n rhaid i chi hefyd eu talu ar daliadau dros £30,000 yr ydych yn eu gwneud i gyflogeion pan fo’u cyflogaeth yn dod i ben, megis taliad diswyddo (‘dyfarniadau terfynu’).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’n rhaid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar ddyfarniadau terfynu dim ond os nad ydych eisoes wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 arnynt.

Mae yna arweiniad gwahanol ar dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar dystebau chwaraeon.

Pryd i dalu

Mae pryd rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn dibynnu a ydynt yn fuddiannau gwaith neu’n ddyfarniadau terfynu.

Buddiannau gwaith

Mae angen i chi dalu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith erbyn 22 Gorffennaf bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Bydd angen i chi dalu erbyn 19 Gorffennaf os ydych yn talu drwy’r post.

Dyfarniadau Terfynu

Rydych yn talu cyfraniadau ar ddyfarniadau terfynu drwy TWE.

Talu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith ar-lein

Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
  • Debyd Uniongyrchol (talu’n awtomatig, neu daliad unigol)
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Dulliau eraill o dalu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith

Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau os ywʼch taliad yn hwyr.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith

5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, mae’n rhaid i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEF ar ddiwrnod gwaith olaf yr wythnos (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).

Llyfrynnau talu

Nid yw CThEF bellach yn anfon llyfrynnau talu wedi’u printio.

Gallwch barhau i dalu treth sy’n ddyledus o flwyddyn dreth 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu gan ddefnyddio llyfryn talu, os oes gennych un eisoes. I dalu treth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, mae’n rhaid i chi ddewis dull arall o dalu.