Treth Incwm: rhagarweiniad
Budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n rhydd o dreth a rhai sy’n drethadwy
Budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n drethadwy
Y budd-daliadau mwyaf cyffredin yr ydych yn talu Treth Incwm arnynt yw:
- Lwfans Profedigaeth (Pensiwn Gweddwon yn gynt)
- Lwfans Gofalwr neu (dim ond yn yr Alban) Daliad Cymorth Gofalwr
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ar sail cyfraniadau
- Budd-dal Analluogrwydd (o’r 29ain wythnos ar ôl i chi ei gael)
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
- pensiynau a delir drwy’r cynllun Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Rhiant Gweddw
Budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n rhydd o dreth
Y budd-daliadau mwyaf cyffredin a geir gan y Wladwriaeth ac nad oes yn rhaid i chi dalu Treth Incwm arnynt yw:
- Lwfans Gweini
- Taliad Cymorth Profedigaeth
- Budd-dal Plant (ar sail incwm – defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i weld a fydd yn rhaid i chi dalu treth)
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- trwyddedau teledu rhad ac am ddim i bobl dros 75 oed
- Lwfans Gwarcheidwad
- Budd-dal Tai
- Cymhorthdal Incwm – serch hynny, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar Gymhorthdal Incwm os byddwch yn rhan o streic
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) sy’n ymwneud ag incwm
- Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
- cyfandaliadau profedigaeth
- Lwfans Mamolaeth
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Credyd Cynhwysol
- Pensiwn Gweddw Rhyfel
- Taliadau Tanwydd Gaeaf a Bonws Nadolig
- Credyd Treth Gwaith