Twyll budd-dal
Rydych yn cyflawni twyll budd-dal trwy hawlio budd-daliadau nad oes hawl gennych yn bwrpasol. Er enghraifft trwy:
- peidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau
- darparu gwybodaeth ffug
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Beth sy’n digwydd os ydych o dan amheuaeth o dwyll budd-dal
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yr Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr neu’ch awdurdod lleol yn cysylltu â chi os ydych o dan amheuaeth o dwyll.
Efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei atal tra byddwch yn cael eich ymchwilio. Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych am hyn os bydd yn digwydd.
Efallai y byddwch yn cael ymweliad gan Swyddogion Ymchwilio i Dwyll (FIO) neu bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad i siarad am eich cais – gelwir hwn yn ‘gyfweliad dan rybudd’.
Bydd Swyddogion Ymchwilio i Dwyll yn casglu ffeithiau am eich achos ac yn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach.
Os gofynnir i chi fynychu cyfweliad
Mae ‘cyfweliad dan rybudd’ yn gyfweliad ffurfiol sy’n cael ei recordio’n aml. Gall ddod yn rhan o ymchwiliad troseddol yn eich erbyn.
Cael cyngor ar eich achos er enghraifft, gan cynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.
Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am ‘gyfweliadau dan rybudd’ gan:
Beth sy’n digwydd ar ôl ymchwiliad am dwyll budd-daliadau
Os ydych wedi cyflawni neu wedi ceisio twyll, efallai y bydd un neu ragor o’r canlynol hefyd yn digwydd:
- dywedir wrthych i dalu’r arian a ordalwyd yn ôl
- gallech gael eich cymryd i’r llys neu gofynnir i chi dalu cosb (rhwng £350 a £5,000)
- efallai y bydd eich budd-daliadau yn cael eu lleihau neu eu hatal
Colli budd-daliadau os ydych yn euog o dwyll
Gall eich budd-daliadau gael eu lleihau neu eu hatal am hyd at 3 blynedd os ydych yn euog o dwyll budd-daliadau. Mae faint o amser maent yn cael eu hatal am yn dibynnu ar faint o weithiau rydych wedi cyflawni twyll.
Dim ond budd-daliadau penodol y gellir eu lleihau neu eu hatal. Gelwir y rhain yn ‘budd-daliadau sancsiynol’. Ond os ydych yn cyflawni twyll ar fudd-dal na ellir eu lleihau neu eu hatal, gall eich budd-daliadau eraill gael eu lleihau yn lle hynny.
Budd-daliadau sancsiynol
Gall y budd-daliadau canlynol gael eu lleihau neu eu hatal os byddwch yn cyflawni twyll budd-daliadau:
- Atodiad Anafiadau Diwydiannol i’r Anghyflogadwy
- Atodiad Pensiwn Rhyfel i’r Anghyflogadwy
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Budd-dal Analluogrwydd
- Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol
- Budd-dal Tai
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Gwaith
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Lwfans Enillion Gostyngol Anafiadau Diwydiannol
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Mam Weddw/Rhiant Gweddw
- Lwfans Pensiwn Rhyfel i Safon Isaf o Alwedigaeth
- Lwfans Ymddeol Anafiadau Diwydiannol
- Pensiwn Anabledd Rhyfel
- Pensiwn Gwraig Weddw/Lwfans Profedigaeth
- Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw
Budd-daliadau na ellir eu lleihau neu eu hatal
Ni all y budd-daliadau canlynol gael eu lleihau neu eu hatal os byddwch yn cyflawni twyll budd-daliadau:
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
- Bonws Nadolig
- Budd-dal Plant
- Budd-dal Ymddeol Graddedig
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol Anafiadau Diwydiannol (lle mae Pensiwn Anabledd yn daladwy)
- Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol Pensiwn Rhyfel
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Lwfans Gwarcheidwad
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gweini Cyson Anafiadau Diwydiannol (lle mae Pensiwn Anabledd yn daladwy)
- Lwfans Gweini Cyson Pensiwn Rhyfel
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Taliad Cymorth Profedigaeth
- Taliadau’r Gronfa Gymdeithasol
- Taliad Profedigaeth
Eithriadau
Os byddwch yn cyflawni twyll budd-dal a’ch bod yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol, ni all eich taliadau gael eu hatal neu eu lleihau:
- Lwfans Mamolaeth
- Tâl Mabwysiadu Statudol
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Tâl Salwch Stadudol
- Tâl Tadolaeth Statudol