Canllawiau

Y Cynllun Graddio Carcasau Moch: cofrestr

Sut i ymuno â'r Cynllun Graddio Carcasau Moch, a weinyddir gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (ATG).

Yn berthnasol i England and Gymru

Os ydych yn gweithredu lladd-dy sy’n lladd mwy na 200 o foch glân yr wythnos (wedi’i gyfartaleddu dros gyfnod treigl o 12 mis), mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru â’r Cynllun Graddio Carcasau Moch. Mae moch glân yn anifeiliaid nad ydynt wedi’u defnyddio at ddibenion bridio. Mae’n rhaid i chi gofrestru o fewn 28 diwrnod i chi ddod yn weithredwr lladd-dy o’r fath.

Cynhelir y cynllun gan dîm Cynlluniau Technegol Cig ATG

Cofrestru ar gyfer y cynllun

Llenwch the Pig Carcase Grading Scheme registration form (PDF, 150 KB, 4 pages) a’i hanfon i ATG yn y cyfeiriad isod.

Sicrhewch fod eich manylion yn gyfredol

Mae’n rhaid i chi hysbysu tîm Cynlluniau Technegol Cig ATG os bydd unrhyw un o’r manylion hyn yn newid:

  • gweithredwr y safle neu enw masnachu’r gweithredwr
  • cyfeiriad neu rif ffôn y safle neu swyddfa gofrestredig y perchennog
  • rhif cymeradwyo’r lladd-dy (a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd)

Manylion Cyswllt

E-bost: MTS.Carlisle@rpa.gov.uk

Ffôn: 01228 640 369

Meat Technical Schemes team
Rural Payments Agency
Eden Bridge House
Lowther Street
Carlisle
CA3 8DX

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 March 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 January 2021 + show all updates
  1. The Pig Carcase Grading Scheme registration form regulations updated and form made accessible

  2. Updated registration form added

  3. Text reviewed and updated

  4. First published.

Sign up for emails or print this page