Ymweld â rhywun yn y carchar

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn am ymweliad cymdeithasol â charcharor yng Nghymru neu Loegr. Mae ffordd wahanol o drefnu ymweliad â charchar yng Ngogledd Iwerddon neu ymweliad â charchar yn yr Alban.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, byddwch chi angen:

  • rhif y carcharor
  • dyddiad geni’r carcharor
  • dyddiadau geni’r holl ymwelwyr sy’n dod gyda chi

Os nad ydych chi’n gwybod ble mae’r carcharor neu rif y carcharor defnyddiwch y Gwasanaeth Canfod Lleoliad Carcharor.

Gallwch ddewis hyd at 3 dyddiad ac amser sydd orau gennych. Bydd y carchar yn anfon e-bost atoch i gadarnhau pryd gallwch chi ymweld.

Rhaid i’r carcharor eich ychwanegu at ei restr o ymwelwyr cyn i chi allu gwneud cais am ymweliad. Mae hyn yn gallu cymryd hyd at 2 wythnos.

Gwneud cais am ymweliad â charchar

Start now

Ymweliadau allwch chi ddim eu trefnu drwy’r gwasanaeth hwn

Cysylltwch â’r carchar yn uniongyrchol os byddwch chi angen trefnu un o’r canlynol:

  • ymweliadau cyfreithiol, er enghraifft gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn trafod achos y carcharor
  • ymweliadau derbyn, er enghraifft yr ymweliad cyntaf â’r carcharor o fewn 72 awr ar ôl cyrraedd
  • ymweliadau dwbl, er enghraifft ymweld am 2 awr yn lle 1
  • ymweliadau diwrnod teulu – digwyddiadau teuluol arbennig mae’r carchar yn eu trefnu

Cael cymorth gyda chost ymweliadau â charchardai

Efallai byddwch chi’n gallu cael cymorth gyda chost ymweld â charchar os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych chi dystysgrif iechyd.