Gwneud cais am ysgariad
Cwblhau eich ysgariad
I ddod â’ch priodas i ben rhaid i chi wneud cais am un ai:
- gorchymyn terfynol
- dyfarniad absoliwt - os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022
Rhaid i chi aros o leiaf 43 diwrnod (6 wythnos ac 1 diwrnod) ar ôl dyddiad y gorchymyn amodol neu’r dyfarniad nisi cyn y gallwch wneud cais i ddod â’ch priodas i ben.
Gallwch wneud cais am orchymyn terfynol fel unig geisydd, hyd yn oed os wnaethoch gychwyn y broses ysgaru ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig.
Gwnewch gais o fewn 12 mis i chi gael y gorchymyn amodol neu’r dyfarniad nisi - fel arall bydd rhaid i chi esbonio’r oedi i’r llys.
Sut i wneud cais
Bydd sut byddwch yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad.
Os ydych eisiau trefniant rwymol gyfreithiol ar gyfer rhannu arian ac eiddo rhaid ichi wneud cais i’r llys am hwn cyn ichi wneud cais am orchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022
Os wnaethoch gais am ysgariad ar-lein, fe gewch eich hysbysu am sut i wneud cais am orchymyn terfynol.
I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am orchymyn terfynol.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad cyn 6 Ebrill 2022
Os wnaethoch gais am ysgariad ar-lein, gallwch wneud cais am ddyfarniad absoliwt ar-lein.
I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am ddyfarniad absoliwt.
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd y llys yn gwirio:
- bod y terfynau amser wedi’u bodloni
- nid oes unrhyw reswm arall i beidio â chymeradwyo’r ysgariad
Bydd y llys yn anfon copïau o’r gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt at y ddau ohonoch.
Os yw cyfreithiwr yn gweithredu ar eich rhan, bydd y gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt yn cael ei anfon atyn nhw. Bydd angen i chi ofyn am gopi ganddyn nhw.
Unwaith y byddwch yn cael y gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt, rydych wedi ysgaru, nid ydych yn briod mwyach ac rydych yn rhydd i briodi eto os y dymunwch.
Cadwch y gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt yn rhywle diogel - bydd arnoch angen ei ddangos os byddwch yn ailbriodi neu i brofi eich statws priodasol.
Os byddwch yn colli eich gorchymyn terfynol neu’ch dyfarniad absoliwt, gallwch wneud cais i’r llys am gopi ohono.
Os wnaethoch gais fel ceisydd unigol ac nid ydych yn gwneud cais i gwblhau’r ysgariad
Gall eich gŵr neu’ch gwraig wneud cais os ydych chi ddim. Bydd rhaid iddynt aros am 3 mis ychwanegol i wneud hyn, ar ben y cyfnod safonol o 43 diwrnod.